Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.."."..---"--'_._------! *…

RHOS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHOS PJSNUEI, -Y mae y Parch a Mrs E Williams j Peauel Villa, wedi myned i dreulio eu gwyliau blynyddol. Pregafchwyd ya I'tsnuel Sul diwedd- af gan Proff. J T Evans, M. A., Bangor. Y FOrtD GROX. —Cyraarodd y gymdeithas uchod fantaif? a'r Wyl y Bane i fyned am eu plaserdaith arterol. a'r ffordd a ddewiswyd y tro hwn ydoedd myned trwy Llandegla dros y myn- ydd, ac adref trwy Llangollen. Yn gross i ar- feriad to aed heibio Llandegla heb ond yn unig edrych arno, oherwydd yr oedd y darp'ariadau yn nvvylaw Mrs Ellen Jones o Pentre'r Bwlch, rhyw ddwy tilldir ymlaen ar y mynydd o Llan- degla, a thystiolneth pawb ydoedd ei bod wedi gwneud arlwy ardderchog, a phawb wrth eu bodd yn gwneud eyfiawader a'r hyn a ddarpar- wyd. Fe dreuliwyd oriau ar y mynydd yu yniyl Cyrn y Brain i chwareu ac yrnblesera ac i fwynhau y golygfeydd arnrywiol sydd ar bob Haw. Dringodd amryw i ben y I Foel Ddu uwchbeny creigiau slaig, a'u dystiolaeth ydoedd eu bod wedi bod mewn sefyllfa fantei»iol iawn i wreled am ugeiniau o filldiroedd o amgylch. Yr eedd mynyddoedd Sir Gaernarfon yn arnlwg iawn; ac yn eu plith y Wyddfa a'i chopa yn uwch na'r oil. Dychwelwyd adref trwv Llan- gollen, wedi mwynhau diwrnod ardderchog. Y GYMDEITHAS RYDDFBYDOL.—Oynhiiliwyd cyfarfod o Gymdeithas Ryddfrydol y Rhos a'r Cylch, yn y Neuadd Gyhoeddus, nos Wener diweddaf. Llywyddwyd gan Mr E Hawkins, Church street, yn cael ei gynorthwyo gan Mr Samuel Rowley, Ysgrifeuydd.; Prif waith y cyfarfod ydoedd ystyried y modd goreu o ap- pwyntio cynrychiolwyr ar y Liberal 1,000. Wedi peth ymdrafodaeth, penderfynwyd fod pwyllgorau yn cael eu trefnu yn y tair Ward, Rhos, Ponkey, a'r Pant, a'u bod yn gwneyd eu goreu i enyn brwdfrydedd yn yr etholwyr or eu cael i ymuno a'r gymdeithas, ac i ethol nifer ar y Liberal 1,000. Y nifer a etholir i Ward y Ponkey fydd 100 Rhos, 55 a'r Panb, 45 yn gwneyd cyfanswm o 200. Daeth y cwes- tiwn o gynal cyfarfodydd cyhoeddus yn ystod aiisoedd y g=iuaf gerbron, a gofynwyd i'r Ys- grifenydd ytnohebu ag Ysgrifenydd y Pwyllgor Uanolog, yn Ngwrecsam, parthed trefnu ar gyf- er siaradwyr. Dywedodd yr Y sgrifenydd fod y Mri R Mills a'i Feibion, Argraffwyr, wedi gwneyd cats am daliad ag oedd yn ddyledus iddynt am argraffwaith a wmed mewn perth- ynas a mudiad y Gofob i'r diweddar Syr Geo. Osborne Morgan, bum' mlynedd yn ol. Dyw- edodd yr Ysgrifenydd fod y Pwyllgor Canolog yn Ngwrecsam wedi gwrthod gwneyd dim yn y mater, er fod ganddynfc dros A:70 yn y Bane. Yr oedd yr arian yn gorwedd yn farw yno, ae nid oedd dim pellach wedi ei wneyd. Siarad- odd rhai ag oeddynt yn bresenol yn ffafr talu yr Account allan o drysorfa Cymdeithas Ryddfryd- ol y Rhos, a phenodwyd yr Ysgrifenydd (Mr S Rowley), i ymweled a Mr Joseph Rogers, High street, yr hwn oedd yn ysgrifenydd i drysorfa Cofeb Syr George Osborne Morgan, gyda golwg o gael eglurhad pellach ar y mater. Ag ystyr- ied yr hyn a wnaeth y diweddar Syr George i Gym'ru, ac yn enwedig i Ddwyrain Dinbych, dywedodd amryw o'r siaradwyr ei bod yn gy- wilydd o beth nad oedd dim wedi ei wneyd i anfarwoli ei goffadwrjiaeth.

.-. PONKEY*

- GOHEBIAETH.

NODION.

Advertising

EISTEDDFOD COR WEN.I