Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Y BWRDD CYFLAFAREDDOL A CHYFLOGAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BWRDD CYFLAFAREDDOL A CHYFLOGAU GLOWYR. Cynhaliwyd cyfaifod gohiriedig y Bwrdd Cyflafareddol dros ranbarthavi glofaoi un- edig LJoegr a Gogledd Cymru yn Llundain dydd Gwener, i ystyried appel y glofedd- ianwyr am ostyngiad o 5 y cant yn nghyf- logau y gweithwyr. Terfynodd y gweith- rediadau trwy i'r glofeddianwyr alw yn ol eu cais am ostyngiad, ac arwyddo cytundeb araodol dros barhad dyfarniad y Bwrdd Cyflafareddol. Daethpwyd i'r penderfyniad hwn fel can- 'lyniad ymdrafodaeth faith rhwng- cynrych- iolwyr y meistradoedd a'r gweithwyr. Eis- teddodd cyfarfod cyntaf y Bwrdd am ryw awr a haner. Yna bu gan gynrychiolwyr y meistradodd gynhadledd gyfrinachol yn ys- tod pa un y bu Mr A Hewlett (cadeirydd), a Mr Ratcliffe Ellis (ysgrifenydd), mewn ymdrafodaeth a Mr Enoch Edwards, A S (cadeirydd), a Mr T Aston (ysgrifenydd), o du y gweithwyr. Yn union wedi pedwar o'r gloch ail-gynullodd y Bwrdd, ac wedi eisteddiad byr arwyddwyd penderfyniad gan 1 gynrychiolwyr y dynion, yr hwn oherwydd gwaith y glofeddianwyr yn galw yn ol eu cais am ostyngiad o 5 y cant, sydd yn rhwymno y dynion i beidio gwneyd ca.is am ychwanegiad yn y cyflogau hyd nes y bydd pris gwerthiant y glo wedi cynyddu ar 7s. 10 2id. yn y cyfryw swm ag fydd yn ad-dalu y meistradoedd am unrhyw anfan- tais a ddioddefasant trwy dalu y raddfa. bresenol o gyflogau yn ystod yr adeg yr oedd pris gwerthiad y glo o dan y ffigiwr uchod Bydd cytundeb presenol y Bwrdd Cyflafareddol mewn grym am ysbaid an- mhenodol hyd nes bydd pris y glo wedi codi yn ddigon uchel. Dywedir fod y fargen dymhorol sydd wedi ei harwyddo yn un dda i'r dynion. Trwy hyn maent yn osgoi gostyngiad presenol yn y cyflogau, yr hwn yn ol pris presenol gwerthiant y glo, fyddai yn anocheladwy pe bae'r appel wedi ei wasgu yn mlaen a'r cwestiwp wedi ei drosglwyddo i Arglwydd James am ei ddyfarniad. Am y caniatad sylweddol hwn ymgymerant pan wellha I masnach ac y cyfyd prisiau i beidio gofyn jam ychwanegiad ar y cyflogau hyd nes bydd y meistradoedd wedi ad enill yr eiddo i yn ol Mae'r cytundeb hefyd yn foddhaol oherwydd ei bod yn amlwg fod y meistrad- oedd yn hyderus am welliant buan yn y I fasnach lo. Ni ellid yn rhesymol ddisgwyl i'r meistradoedd alw yn ol appel am os- tyngiad yn y cyflogau, a addefid oedd yn gyfiawn oherwydd prisiau gwerthiant, os nad oeddynt yn gwbl argyhoeddedig fod tueddiad-masnach at brisiau uwch. Mae'r cytundeb newydd yn amddiffyn y fasnach rhag anghytundeb llafurol am beth amser i ddod, yn ystod pa un y gellir dwyn yn mlaen weithrediadau am amodau newydd.

:Amgylchiadau Bygytbiol yn…

[No title]

Gwyl De Ebenezer, Queen St.

Advertising

I WwCpttdau,

[No title]

CYNGHOR PLWYF, RHOS. I

-. ----_._._-----_-___R-....--..,-PONKEY.

Cyfarfod Ysgol yn Bethel,…