Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Ymgyssegru fel Efengylydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymgyssegru fel Efengylydd. I Dywedir fod Mr Arthur Davies, Cefn Mawr, wedi penderfynu ymgyssegru yn hollol i'r gwaith o efengylu, a chyda'r bwriad hwn mae ar gymeryd cwrs o ef- I rydiaeth yn y Glasgow Bible Training InstituteSefydlwyd yr ysgol hon gan y Mri Moody a Sankey, pan ar ymweliad a'r wlad hon, a'i amcan ydyw addysgu dynion a merched i weithio fel efengyl- wyr. Mae ar hyn o bryd yn y sefydliad 9° o ddynion a 33 o ferched. Mae'r mwy- afrif o honynt yn parotoi eu hunain ar gyfer y maes cenhadol. Mae Mr Davies yn adnabyddus trwy yr oil o Gymru fel un o fechgyn disglaeriaf y Cefn Mawr, yn fab i'r diweddar Thomas Davies (cantwr), blaenor enwog y Gin yn y Tabernacl, ac yn frawd i'r datganwr cyngherddol clodwiw, Mr Emlyn Davies. Mae ef ei hun yn ganwr o fri, wedi ym- ddangos ugeiniau o weithiau ar lwyfan- au cyngherddol goreu y Dywysogaeth. ac wedi enill yn mhrif Eisteddfodau y wlad, a'r Eisteddfod Genedlaethol. Dil- ynodd y bywyd hwn gyda llwyddiant eith riadol hyd Ddiwygiad 1904-5, pryd y daeth dan ddylanwad y Parch R B Jones, ac y taniwyd ef i gyssegru ei hun i'r gwaith o ganu yr Efengyl. Torodd iddo ei hun faes newydd ar unwaith, ac ymled- odd ei glod trwy y deyrnas. Galwyd am ei wasanaeth gan efengylwyr blaenaf y dydd, megis y Parch R B Jones, y Parch John Mc Neill, ac eraill. Gyda y diwedd- af bu yn cynat cenhadaethau yn Malta, a phob man yr elai, argyhoeddid pawb fod seren ddisglaer arall wedi ymddangos yn nglyn a'r gwaith hwn. Er yr adeg cryb- wylledig aeth ei waith yn nglyn a chyng- herddau ac Eisteddfodau yn llai bob blwyddyn, gan fod y galwadau am dano yn y ganghen arall yn cynyddu, ac y teim- lai y byddai yn rhaid iddo ei aberthu er mwyn y gwaith uwch. Rhai o'r trofeydd diweddaf iddo ymddangos ar y Ilwyfan eisteddfodol oedd gyda Chor Meibion Machynlleth, yn Eisteddfodau Llanfyllin a'r Rhos, pryd y canai y weddi-unawd yn "Nghydgan y Pereriaion" (Di- Parry). Nid anghofia pwy bynag a'i elywodd y troion hyn, y dylanwad ysbrydoledig a ddilynai ei ganu godidog. Yn wir cod- odd y cyfan uchlaw canu cystadleuol i diriogaethau yr addoliad a'r ysbrydol. Oddiwrth hyn hawdd iawn ydyw dirnad y dylanwad dyrchafol sydd yn rhwym o ddilyn ei ganu dan amodau mwy cysseg- redig. Yn sicr, mae ei luaws edmygwyr yn y Rhos a'r cylch o galon yn dymuno Duw yn rhwydd iddo gyda ei waith new- ¡ ydd.

-_...---_--.._.'.,»"""""<",-,'="........",,"._V1_,,,,,.,,"..............t....--…

PONKEY.

Advertising

Bwitf 1 IHIWIIM hi iimiwiimib*…

YN FFAFR Y GYLLIDEB.

Gwrthwynebu Pleidlais i Syr…

STRYT .ISSA.

Cyngherdd Cor Plant Bethlehem.