Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Ymgyssegru fel Efengylydd.

-_...---_--.._.'.,»"""""<",-,'="........",,"._V1_,,,,,.,,"..............t....--…

PONKEY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONKEY. BEDYDDWYR ALBANAIDD.-Y Sul diweddaf, cyn- haliodd Eglwysi 'yr uchod yn Rhos a'r Ponkey, gyfres o gyfarfodydd pregethu, pryd y gwasan- aethwyd gan Mr Philip Lloyd, Ffestiniog; Mr John Griffith, Trawsfynydd, a Mr Cadwaladr Humphreys, Rhyd-ddu. Cafwyd gweinidogaeth rymus a chynulliadau rhagorol. Dydd Llun cyn- haliwyd eynhadledd flynvddol yr en wad yn Soar, Ponkey, o dan lywyddiaeth Mr Philip Lloyd. Treuliwyd cyfarfod y boreu gan mwyaf i wrando anerchiad y Llywydd, ac i ymdrafodaeth ddilynol arni. Cymerodd fel pwnc, Y Weinidogaeth," a thraddododd anerchiad afaelgar, fydd o'i dilyn yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes yr enwad. Yn yr ymdrafodaeth, dygwyd i sylw amryw bync- iau arbenig, ac yn neillduol waith y cyfundeb yn yn nglyn a'r c 'nhadaethau tramor, &c., a chanlyn- iad hyn fydd sefydlu y Sabboth cyntaf o bob blwyddyn yn Sul Cenhadol, pryd y caiff y mater sylw o'r pwlpudau. ac y gwneir casgliadau neill- duol tuag atynt. Treuliwyd cyfarfod y prydnawn gan mwyaf gyda materion cyfundebol, megis y cyhoeddiadau at y flwyddyn nesaf, dygiad allan fisolyn yr enwad y genhadaeth gartrefol, gwaith yr Ysgol Sul, a threfnu ar gyfer dwyn allan Lyfr Tonau ac Emynau Newydd. Penderfynwyd fod y gynhadledd nesaf i'w chynal yn Harlech, ac appwyntiwyd Mr W S Jones, Ponkey, fel Llyw- ydd Dechreuwyd y gweithrediadau trwy weddi gan Mr John Griffith, Trawsfynydd, a therfynwyd gan Mr Henry S. Jones, Ponkey. Amlygwyd yr undeb a'r cvdweithrediad mwyaf yn ystod yr holl weithrediadau. Yn yr hwyr cynhaliwyd cwrdd pregethu yn Calfaria, Rhos, pryd y gwasanaeth- wyd gan Mr John Griffith, a Mr Cadwaladr Humphreys. CERDD WASANAETH.—Yn y Tabernacl, Ponkey, nos Iau, cynhaliwyd cerdd-wasanaeth, pryd y cafwyd datganiad o waith syml Pedr Alaw, Llun- dain, Taith y Pererin." Trefnir y gwaith i unawdau, deuawdiu, cvdganau, a darlleniadau, y rhai sydd wedi eu svlfaenu ar Alegori adnabyddus John Bunyan. Canwyd yr unawdau a'r deuawd- au gan Miss Sarah H Davies, Hall street, Mr Isaac Jones, Clarke street, Mr Robert J Sharpe, Park road, a Mr Stephen 'D Jones, Johnson street; tra. yr arweiniwyd y cor gan Mr Henry S Jones, ac y cyfeiliwyd gan Mr Lemuel Bowen. Darllenwyd yn hynod feistrolgar a meddylgar gan Mr Thomas Hughes. Yr oedd cynulleidfa gref wedi ymgasglu, a mawr fwynhawyd y gwasanaeth.

Advertising

Bwitf 1 IHIWIIM hi iimiwiimib*…

YN FFAFR Y GYLLIDEB.

Gwrthwynebu Pleidlais i Syr…

STRYT .ISSA.

Cyngherdd Cor Plant Bethlehem.