Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y PARCH ROBERT ROBERTS, BETHLEHEM,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PARCH ROBERT ROBERTS, BETHLEHEM, RHOS. Chwith ydyw meddwt y bydd yn rhaid i'r Rhos fod heb wasanaeth y Parch R Roberts (A.), fel un o'r gweinidogion, ar ol naw mlynedd ar hugain o wasanaeth ffyddlawn ac ymroddgar. I lawer ohon- om yr oedd yn ran o addura yr ardal. Perthyna iddo oodweddioa gwerth eu rhoddi ar gof a chadw. Mewn ystyr gorphorol y Parch Robert Roberts oedd y talaf 0 holl wein- idogion y Rhos yn ystod yr ugain mlyn- edd diweddaf. Yr oedd y Parch E Wynn Jones, fu yma am ychydig, yn dyfod yn agos iawn ato o ran taldra, ond nid oedd i fyny a Gweinidog Bethlehem. Yn yr I ystyr yma (ac ystyron eraill, o ran hyny), yr oedd yn rhaid i'r holl weinidogion edrych i fyny ato. Edrychai yn urddasol wrth gerdded yr heolydd, er nad oedd yr un o falchder yn ei awgrymu ynddo. Ceir yn ei ymddanghosiad y cyfuniad eithriad- ol o urddas a gwyleidd-dra. Oblegid hyn cynrychiolai yr edmygedd puraf yn yr ardalwyr, a thynai allan y parch dyfnaf. Anwyl ddyn y Rhos ydoedd. I Fel siaradwr rhagorai yn tawr fel un yn gallu gosod teimlad dwys yn ei lais a'i ( frawddegau. Nodweddid ei holl ymad- I roddion a dwysder. Cofus gennyf i mi ei glywed yn pregethu am y tro cyntaf yn Nghapel y Wesleyaid ar y Ty ar, y Graig." Rhyfeddais ei fod yn Hefaru mor gyflym, ond ei nerth oedd dwysder. Gwasgai y gwirionedd adref. Dywedir am ambell i bregethwr ei fod yn taro yr hoelen adref; ond ei gwasgu adref fyddai y Parch R Roberts. Yr oedd ynddo ef ddigon o nerth i'w gwasgu yn esmwyth i galonau y gwrandawyr. Yr oedd yn feddyliwr cryf a dwfndreidd- iol ond ei nerth oeddl gwelediad eglur synwyr cyfFredin. Canfyddai gydag threiddiQldeb eryraidd yr hyn sydd mewn adran o'r Ysgrythyr yn gyfaddas i fywyd ymarferol, a thynai addysgiadau hynod darawiadot a gwir: fuddiol. Nid hen lyfr oedd y Beibl iddo, ond Hyfr newydd, hollol gyfaddas i, fywyd yn y presenol. Ii|yfr y bywyd beunyddipl yw y Beibl iddo rtfewn o lyfrau erailli,.Yn,"eaw, ;• diii- t"tJB E:}'h t'-m Clywsis ef droion yn dyfynu o lyfrau Dr Stalker, yn enwedig o'r "Preacher and his Models Dewisai ddyfyniad gyda medrusrwydd a chwaeth, a byddai bob amser yn gyfaddas i'r mater o dan sylw. Wrth sefydlu gweinidog dywedai fod Dr Stalker yn dweyd fod y gweinidog sydd yn rhoddi ei law ar ben y plentyn yn ei rhoddi ar galon y fam. Fel bugail yr oedd yn hynod lwyddian- us. Nid yn unig ymwelai yi gyson ond yr oedd yn deall y natur ddynol mor dda fel yr oedd bob amser yn gallu dyweyd gair priodol a chysurlawn a fyddai yn sicr o wneyd lies. Rhoddodd olew mewn llawer clwy yn ystod ei arhosiad yn y Rhos, a gwnaeth croesi'r Iorddonen yn esmwythach i ami i ymadawedig. Ryw fodd yr oedd yn feddianol ar y ddawn o fugeilio. Gwna ami i weinidog y gwaith hwn yn dda o ddyledswydd, ymddangosai Mr Roberts mor gartrefol wrth ei wneyd fel pe byddai yn cael bias ar wneyd daioni i eraill. Bydd yn golled fawr i'r cylch ar ei ot yn y cyfeiriad yma. Yr oedd y Mr Roberts yn Annibynwr egwyddorol. Credai yn gryf yn hanfod- ion ei enwad. Yr oedd yn hollol eang- frydig tuag at enwadau eraill. Nid oedd hyny yn gwneyd ei ymlyniad yn llai, ond yn hytrach yn fwy, yn ei enwad ei hun. Dywedodd rhywun, "mai y milwr sydd yn ymladd yn ffyddlawn yn ei gatrawd ei hun sydd yn gwneyd y gwasanaeth mwyaf i'r holl fyddin." Gwasanaethai Mr Roberts ei gatrawd ei hun yn rhagor- ol, ond Did oedd byth yn atighofio fod ei enwad yn perthyn i'r fyddin fawr Gristion- ogol. Gwnaeth Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn ganmoladwy yn ei ethol yn Llywydd am 1908-09. Ni fu Annibynwr cryfach yn y Gadair erioed, na'r un a mwy o frawdgarwch cristionogol ynddo at bob canghen a'r Eglwys Gyffredinot. Yr oedd yn ddyn cenedl yn ogystal ag yn ddyn enwad. Yr oedd yn un o sylfaen- wyr Cynghor yr Eglwysi Rhyddion yn y gymydogaeth. Yn ystod fy adnabyddiaeth o hono nid -ydyw wedi arfer cymeryd rhan flaenllaw mewn gwleidyddiaeth. Clywais y byddai flynyddau cyntaf ei fugeiliaeth yn y Rhos yn gwneyd hyny. Y mae yn Ryddfryd- wr eiddgar, nid am ei fod yn credu fod Rhyddfrydiaeth yn berffaith, ond am ei fod yn argyhoeddedig fod egwyddorion Rhyddfrydiaeth yn nes at egwyddorion crefydd Crist na'r un blaid arall. Yr oedd gwleidyddiaeth Mr Roberts yn codi o'i grefydd, ac yn cael ei llywodraethu ganddi Y mae yn bleidiwr mawr i gyd- rqddoldeb crefyddol. Pleidiai ryddid c bob math, ond rhaid i'r rhyddid hwnw fod o fewn cylcb moesoldeb a phurdeb. Yn y diwygiadau moesol a chrefyddol y cefnog- ai Ryddfrydiaeth fwyaf. Yn yr oil o'i gymeriad y mae y Parch R Roberts yn ddyn ysbrydol o ran ansawdd ei feddwl a thueddiad ei fywyd. Y mae gwaith gras yn amlwg arno. Teimla yr holl ardalwyr yn fawr drosto pan oedd yn wael ei iechyd. Llawenydd mawr i ni lei fod wedi gwella mor dda. Gwr Duw ydyw. Y mae Mrs Roberts hefyd yn un ffyddlawn ac ymroddgar iawn gyda gwaith yr Arglwydd. Yn ddamweiniol uowaith digwyddodd i mi fyned i fewn i Band of Hope Bethlehem, a chefais fawr foddhad wrth weled y Parch R a Mrs Roberts yn gweithio mor rhagorol a medrus gyda'r Ilti plant oedd yno. Y mae Eglwys Bethlehem yn cael ei gwneyd i fyny o nifer o ddynion talentog mewn llenyddiaetb a cherddoriaeth. Y mae y ffaith fod yr eglwys a'r Parch R Roberts wedi bod mewn cysylltiad a'u gilydd am gynifet o flynyddoedd yn glod i'r Eglwys a'r gweinidog. Dymunwn iddynt nawdd ac arweiniad yr Arglwydd yn y dyfodol. R.W.R.

----------ANRHEGU Y PARCH…

Advertising

wrpubau.

Cyfarfod Gweithwyr yr Hafod.

RHOS.