Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

I^n?fpu6au.

Advertising

MR ELLIS GRIFFITH YN NGWRECSAM.

Camgymeriad Mr. F. E. Smith.…

Mr Clement Edwards a'r Glowyr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr Clement Edwards a'r Glowyr. Wrth anerch y gweithwyr yn Nglola Gwrecsam ac Acton, Rhosddu, prydnawa dydd Mawrth, dywedodd Mr Clement Edwards ei fod yn teimlo yn falch o'r hyn wnaed ganddo am y pedair blynedd diwedd- af, o blegid nis gallent gygfeirio at unrhyw addewid a roddodd ef yn 1906 ar nad oedd efe wedi ei chyflawni yn llawn. (cym). Ar yr adeg hono nid oeddynt yn gweithio; ar gyfartaledd, ond tua thri diwrnod yr wyth- nos, ac yr oedd i'w briodoli i doll ar lo; a'r peth cyntaf wnaeth y Llywodraeth ydoedd, symud y doll hono, yr hyn oedd wedi gwneydgwahaniaeth dirfawr i lwyddiant y fasnach lo yn Ngogledd Cymru. Wedi hyny, yr oedd Cynghrair y Mwnwyr wedi cael eu taraw yn drwmiawn ynglyn a'r dyfarniadau yn achosion Deheudir Cymru a Denaby Main; a chan ei fod yn cael ei ystyried fod y dyfarniadau hyny a roddwyd yn erbyn undebau crefftol yn anheg ae anghyfiawnder, ymrwymodd i ddefnyddio ei wybodaeth a'i allu i basio cyfraith ar y foment gyntaf yn bosibl i newid y sefyllfa hona ar bethau. Er cadw yr addewid hono bu raid iddo ymladd yn erbyn Dadleuydd Cyffredinol Rhyddfrydig ac aelodau Llafur; ond llwyddodd, o'r diwedd i argyhoeddi y Llywodraeth a Phlaid Llafur, ar canlyniad ydoedd, iddynt gael Cyfraith yr Undebau Crefftol, yr hon a ddaliai ei thir yn hollol (clywch, clywch). Un o'r pethau cyntaf y gofynwyd iddo ef ei wneyd i fwnwyr fwr- deisdrefi Dinbych ydoedd cynotthwyo i ben- y derfynu cwestiwn yr Wyth Awr, ac mewn trefn iddo wydod rhywbeth yn ymarferof o'r mater, cymerodd y ratferthi fyned i lawr i wahanol, fwngloddiau yn y wlad, er cael allan drosto ei bun amodau llafur. Yr oedd yr addewid a roddodd efe ar y cwest- iwn hwn, hefyd wedi cael ei chadw, ac yr oedd y Ddeddf Wyth Awr yn awr yo gyfraith y tir Wrth gwrs, yr oedd achosion o wrthdarawiad, fel yr oedd yn anocheladwy mewn diwygiad mawr fel hvnw, ond yr oeddynt yn dyfod dros yr anhawsderau ac yr oedd efe yn mentro dweyd, a'r derfyn y flwyddyn hon, na byddai un. sail 0 gwyn yn un man yn y wlad.

' DIARIES FOR 1910. i