Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

""'. RHOS

CYNGHOR PLWYF RHOS.

Cymdeithas Rhyddfrddwyr leuainc…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithas Rhyddfrddwyr leu- ainc y Rhos. Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol o'r uchod nos Fercher diweddaf yn y Public Hall, Rhos, am naw o'r gloch, pryd y daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Cym- erwyd y gadair gan Mr Samuel Jones, King street, Rhos, yr hwn a draddododd anerchiad bwrpasol yn egluro atneanion a bwriadau y Gymdeithas yn y dyfodol. Yr oedd y Pwyllgor Gweithiol wedi trefnu dadl ar "Ayw yr laith Gymraeg yn marw?" Agorwyd ar yr ochr gad- arnhaol gan Mr Albert D Foulkes, Grango Schools, yn oael ei attegu gan Mri W E Jones, Ponkey, E S Price, Hill street, a Zabulon Griffiths. Gwnaeth yr agorwr a'r attegwyr ymgais galed i brofi fod yr hen iaith anwyl ar drengu. Ar yr ochr nacaol agorwyd gan Mr, John Davies, Lodge, yo cael ei attegu gan Mri David Davies, Glasgow House, a Tom Griffiths. Cafwyd anerchiad peni- gamp yn profi nad oes gwedd darfodedig- aeth ar yr hen iaith, ond yn hytrach ei bod mor wridgoch a thalgryf ag erioed, ac yn ymgyrhaedd yn hoeyw yn mlaen i enill tir newydd, Pleidleisiwyd ar y diwedd a chafwyd mwyafrif mawr o blaid nad oedd yr hen iaith anwyl ddim yn marw. Diolchwyd yn gynes i'r agorwyr a'r attegwyr am eu gwaith ardderchog gan Mr W Williams, Campbell street, a Mr W Hughes, Pentredwr. Cafwyd cyfar- fod neillduol o dda, a, prawfion fod rhag- olygon am hir oes i'r Gymdeithas newydd hon yn Rhos. Mae y Gymdeithas wedi trefnu dadl at nos Lun nesaf ar Genedlaetholi'r Rheilffyrdd," ac edrychir yn mlaen am gyfarfod hwyliog a dyddorol.

|PONKEY.

I Cyfarfod Cystadleuol yn…

Agor Cyfnewidfeydd Llafur.

Advertising