Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

""'. RHOS

CYNGHOR PLWYF RHOS.

Cymdeithas Rhyddfrddwyr leuainc…

|PONKEY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

| PONKEY. CYMDEITHAS MYNYDD SEION.-Nos Wener diweddaf cynhaliwyd cyfarfod yr uchod o dan lywyddiaeth y P-trch J How- ell, pryd y darllenvvyd tri o bipurau gin dri o ddynion ieuainc y gymdeithas. Y testyn oedd: — Cymry Enwof." Sylwyd ar y rhai canlynol :-Yn Myd Addysg, 0 M Edwards, gan Mr Wilfied Bowen Yn Myd Gwleidyddiaeth, David Lloyd George, gan Mr Thomas Charles Davies, Yn Myd Crefydd, E Herber Evans, gan Mr William Richard Davies. Cafwyd papurau rhagorol ganddynt a mwynhawyd hwy yn fawr gan y gym- deithas. Y gymdeithas a ddewisodd y testynau, gan adael iddynt hwy ddewis y gwroniaid, cafwyd sylwadau peliach ar- nynt gan y Parch J Howell. Cynygiwyd diolchgarwch iddynt gan Mr William Williams, Glasfryn, ac eiliwyd gan Ald. Jonathan Griffiths J.P. ac attegwyd gan Mr Thomas Thomas, North Road. Yr oedd yn noson anffafriol iawn o ran y tywydd ond daeth cynulliad da ynghyd. Hyd yn hyn y mae y gymdeithas wedi bod yn hynod Iwyddianus yn mhob ystyr yr aelodau fel pe am y goreu yn darparu, ac yn ffyddlawn nodedig i'r cyfarfodydd fel y prawf y cynuUiad bob nos Wener, mae hyn i'w briodoli yn benaf i ddiwidrwydd, dyfalbarhad, a ffyddlondeb Llywydd y Gymdeithas. BEDYDDWYR ALBANAIDD.—Nos Fercher (wythnos) bu Cymdeithas Ddiwylliadol yr uchod yn trafod y cwestiwn Pa un yw y mwyaf manteisiol i'r Wlad, Masnach Rydd neu Ardrethol? Agorwyd o blaid I' Masnach Ardrethol gan Mr S D Jones, Craigfryn, yn cael ei attegu gan Mr A D Foulkes a Zabulon Griffiths. 0 blaid Masnach Rydd agorwyd gan Mr James Jones (piacon), yn cael ei attegu gan Mr Wm Smith a Mr H S Jones. Cafwyd dadl ragorol, y naill ochr a'r Hall yn dad- lu yn gryf dros eu syniadau. Rhoddwyd y cwestiwn i bleidlais, yr hon a drodd gyda mwyafrif mawr yn ffafr Masnach Rydd. Llywyddwyd gan Mr J S Jones. Nos Fercher diweddat darllenwyd dau o bapurau rhagorol o flaen y Gymdeithas, y naill gan Mr P Jones, Beech Avenue, ar "Crist fetGweddiwr"; a'r lIall gan Mr W H Davies, Queen street, ar Crist fel Pregethwr." Llywyddwyd gan Mr D Davies, Glasgow House.

I Cyfarfod Cystadleuol yn…

Agor Cyfnewidfeydd Llafur.

Advertising