Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

-----------AGORIAD Y SENEDD.

Advertising

NODION.

wrpubaUe "a?tr>fptt6au.

CYNGHOR PLWYF RHOS.i

Cynghor yr Eglwysi Rhyddion,…

í ! RHOS.

. PONKEY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONKEY. Nos Lun nesaf bydd y Parch R R f Jones, Abergynolwyn, yn traddodi darlith ar y Ddau Deiliwr yn Bethel, Ponkey. Adgofiwn ein darllenwyr o hyn am y cant wledd o'r fath oreu gan y darlithydd pob- logaidd hwn. Ceir manylion mewn col- ofn arall. CYMDEITHAS MYNYDD SEION.-Cynhal- iwyd cyfarfod o'r uchod nos Wener diw- eddaf dan Jywyddiaeth yr Henadur Jon. Griffiths, U. H., pryd y cafwyd dadl ar y testyn amserol A ddylai Merched gael Pleidlais?" Agorwyd ar yr ochr gadarn- haol gan Mrs Howell, Tegfan, a chafwyd papur cryf yn dangos hawl merch a bleidlais agorwyd ar yr ochr nacaol gail Mr William Williams, Glasfryn, yntau yr un mor selog yn erbyn y bleidlais. Attegwyd Mrs Howell gan Miss Nellie Morgan, Johnstown, a Miss M A Griffiths, Brynydd; attegwyd Mr Williams gan Mri Jonathan Jones, Bank street a R E Morgan, Johnstown. Siaradwyd yn mhell- ach gan Mr William Phillips, a Mrs Thomas, Johnstown. Cod wyd brwdfryd- edd neillduol yn y cyfarfod gan y ddwy ochr. Yr oedd cynulliad cryf o'r ddwy blaid wedi dyfod i ddangos eu hochr, a phan aed i bleidleisio cafwyd mwyafrif fechan yn erbyn rhoddi'r bleidlais i ferch- ed. Cynygiwyd diolchgarweh i'r rhai a gymerasant rhan gan Mr Tom Griffiths, ac eiliwyd gan Mr Thomas Jones. BEDYDDWYR ALBANAIDD Siomedig- aeth gafodd Cymdeithas Lenyddol yr uchod nos Fercher diweddaf. Yr oedd cynulliad cryf wedi dod ynghyd i'r Taber- nacl i wrando anerchiad gan Dr Williams, Gwrecsam, Swyddog Meddygol y cylch, Yn anffodus trwy resymau heb fod yn wybyddus i'r swyddogion, methodd y meddyg a chadw ei ymrwymiad. I wneyd pethau yn waeth nid oedd wedi anfon gair yn hysbysu ei anaUu i ddod. Wedi hir ddisgwyl ymgymerodd Mr Jos S Jones a llanw y bwlch gydag anerchiad fyrfyfyr ar ddiwylliant, meddyliol. Ar y diwedd cynes ddiolchwyd iddo am ei barodrwydd, ac am ei sylwadau cynwysfawr. Lly- wyddwyd gan Mr D Davies. Glasgow House.

[No title]