Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

1;4"1 w fl,-) tt 6 a 1,1 ,I…

Y SENEDD.

Mr Lloyd George fel landowner.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr Lloyd George fel landowner. Mae Mr W George wedi rhoi cerydd llym i Capten Godfrey Drage, Parciau, Cric- cieth, yn nglyn a sylw a wnaeth y diwedd. af mewn papur Toriadd fod Lloyd George wedi prynu tir i adeiladu ty arno yn Nghriccieth, ac fod hen wraier o'r enw Elizabeth Williams wedi gorfod ymadael o fwthyn ar y tir am fod Mr Lloyd George ei eisio o bosibl i gadw ei gar motor." Anfonodd Mr Wm George at y Capten i ddangos ei gamgymeriad ac i alw arno i ymddiheuro, ond fel y rhan fwyaf o'r gwyr mawr ni wnaeth y Capten yn ei atebiad ond curo o gwmpas y twmpathau a cheisio gwyrdroi ei eiriau. Ysgrifenodd Mr George ail lythyr ato, gan ddweyd iddo ddisgwyl ymddiheurad, "ond." meddai, mae'n debyg fod hyny yn or- mod i mi ei ddisgwyl oddiwrthych chwi." Y mae Elizabeth Williams wedi ar- wyddo y mynegiad canlynol: Nad oes y sail lleiaf i gyhuddiad Capten Drage fy mod, i wedi fy ngorfodi i ymadael o Parc- iau Bach. I'r gwrthwyneb sicrhawyd fi gan Mr Lloyd George yn fuan ar ol iddo brynu y tir nad oedd angen i mi ymadael o gwbl, ac ymadewais yn ddiweddarach o fy ewyllys fy hun, ac ymddygodd Mr Lloyd George yn anrhydeddus iawn ataf as yr amgylchiad."

-RHOS''

Advertising

DARLITH YH BETHUL, PONKEY.