Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

1;4"1 w fl,-) tt 6 a 1,1 ,I…

Y SENEDD.

Mr Lloyd George fel landowner.

-RHOS''

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHOS MARWOLAETH—Bydd yn flin gan lawer yn y cylch ddeall am farwolaeth Mrs Pritchard, gweddw y diweddar Mr Eben Pritchard, j Market Street Rhos, yr hyn gymerodd le yn I ei chartref yn Market Street dydd Mercher diweddaf. Rhagflaenwyd hi gan ei phriod ers llawer o flyiiyddoedd, ac er hyny bu yn cario yn mlen fusnes yn Market Street Yr oedd yn adnabyddus iawn yn y cylch, ac yn uchel ei pharch. Cydymdeimlir yn gyffredinol a'r teulu yn eu trallod. Cleddit ei gweddillion yfory prydnawn (Sadwrn) am bedwar o'r gJoch. MARWOLAETH.—Dydd Gwener diweddaf cymerodd marwolaeth Mrs Ann Cartwright, priod Mr John Cartwright, Market street, le. Bu yn aelod, gyda'i phriod, yn eglwys y Capel Mawr, am lawer o flynyddau, lie yr oedd yn uchel ei parch. Daeth cynulleidfa fawr yn nghyd i'r cynhebrwng prydnawn Llun, pryd y rhoddwyd ei gweddiHion i orphwys yn Nghladdfa y Rhos. Gwasan- aethwyd ar yr amgytchiad gan y Parch R Jones. HENAINT HEINYF.-Yr oedd yn llawen- ydd gan luaws weled yr Hybarch Benjamin Hughes, Llanelwy, yn edrych mor gryf a heinyf er ei 87 mlwydd. Llanwai bwlpud y Capel Mawr foreu a nos Sul diweddaf. Mae yn un o weinidogion hynaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru. GWYL DEwi. -Mae undeb wedi ei ffurfio rhwng Eglwysi Gwladol Cymreig y cylch i ail sefydlu y gwasanaeth cyssegredig arferid ei gynal yn flynyddol yn Ngwrecsam, i ddathlu coffadwriaeth Dewi Sant. Bydd y gwasanaeth y tro hwn yn un corawl, a deall- wn fod Cor Eglwys Dewi Sant, Rhos, (yr hwn sydd dan ofal Mr T E Jones, Post Office, Johnstown,) yn cymeryd rhan. At- weinydd y corau unedig yn y gwasanaeth fydd y Parch Francis, Gwrecsam. DADL UNDEBOL.-No-, Wener diweddat bu y Ford Gron a Chymdeithas Ddiwylliad- ol M.C. y Groes, Penycae, yn ceisio pender- fynu y cwestiwn "A ydyw Dadleuon Duw- inyddol yn fanteisiol i Grefydd?" Cyfar- fyddwyd yn Nghapel y Groes, o dan lywydd- iaeth y Parch D Pritchard Jones, ac yr oedd nifer luosog wedi ymgasglu. Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Gymdeithas y Groes, pryd yr agorwyd gan Mr Thos J Williams, a'r Mri T Jones Roberts, D E Roberts, ac eraill yn ei gefnogi. Y Ford Gron a amddi- ffynai yr ochr nacaol, ac agorwyd iddynt gan Mr Wm Hughes, Pentredwr, a'r Mri J W Tones, Tom Phillips, a John Davies. I Lodge, yn cefnogi. Rhoddwyd y mater i'r cyfarfod, a'r ochr gadarnhaol a gafodd y mwyafrif. YR YSTORM.-Nos Fercher chwythodd ystorm ddifrifol o wynt dros y wlad yn gyffredinol, a pharhaodd hefyd am y rhan fwyaf o dydd Iau. Ceir adroddiadau o lawer o leoedd am goiledion mawr a wnaed trwyddi. Yn yr ardal hon yr oedd i'w theimlo yn drwm iawn, ond nid ydym yn deall i ddim difrifol ddigwydd. Heb- law nifer fawr o lechi a chwythwyd oddiar y tai, ac i rai simneai gael eu dymchwel, ni ddigwyddodd dim colledion eraill. CYNGHERDD.-Nos Lun diweddaf, ya Nghapel Penuel, cynhaliwyd cyngherdd o dan lywyddiaeth y Parch E Williams. Daeth nifer dda yn nghyd, a chymerwyd rhan gan y rhai canlynol:-Unawd ar yr Organ, Miss Annie Rogers, can, Miss Rose Roberts; rhangan, Parti Meibion Penuel, o dan arweinyddiaeth Mr J Lloyd Jones can, Miss Annie Jones; can, Mr Thos Griffiths, Penycae can, Mr George Williams; adroddiad, Mr John Williams; deuawd, Mri Jairus Jones a Jos Garner anerchiad gan y cadeirydd; can, Mr Robert Hughes; can, Miss Rose Rob. erts can Mr George Williams; can, Mr Thos Griffiths; adroddiad, Mr Robert Hughes; can, Miss.Annie Jones; rhan- gan, Parti Meibion Penuel. Cyfeiliwyd gan Mr Wm Jones, Brynhyfryd, yr hwn hefyd a draddododd ddetholiad ar yr organ. Yr oedd y trefniadau yn nwylaw Mr David Jones, High Street, yr Ysgrif- enydd. CYNGHERDDAU'R BOBL.—Eglwys Beth- el, Ponkey, oedd yn darparu rhaglen at nos Sadwrn diweddaf, a chafwyd un rag- orol ganddynt. Daeth cynulleidfa dda yn nghyd yr hon a ddangosai ei gwerth- fawrogiad uchel o ymdrechion y rhai a gymerent ran. Llywyddwyd gan y Parch R R Jones, Abergynolwyn, yr hwn oedd yn gwasanaethu yn Bethel y Sul, ac yn darlithio yno y Llun canlynol. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn :-Can, "Y Tair Mordaith," Mr John Williams, Brynhyf- ryd can, Nant y Mynydd," Mrs Jennie Roberts adroddiad a chan, h Cymru fo am Byth," Mr Robert Edwards (hynaf), Opencast; rhangan, Pan ddywedem ni Nos Da," Parti dan arweiniad Mr W A Hughes; can, Y Bugail," Mr Edw W Williams, Ponkey; adroddiad, Mr Thos Evans, Bank street; can, H 0 na byddai'n Haf o hyd," Mrs Jennie Roberts; tri. awd, Duw bydd Drugarog," Mrs M J Williams, a'r Mri John Hughes a John Williams; adroddiad, Ceisiwch yn gyntaf," Mr Robert Edwards, Opencast; can, Y Fam a'i Baban," Miss Mary A Thomas; rhangan, "Dyddiau'r Haf," Parti Mr W A Hughes. Wedi gwrando Mr John Williams, fel hyn y caoodd y Llywydd iddo:— Gwr a ddyry gerddoriaeth-eneidiol Yn nod i w astudiaefch, Nes a'i swyn ei fynwes aeth Yn delyn i'w fodolaefch.

Advertising

DARLITH YH BETHUL, PONKEY.