Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ETHOLIAD Y CYNGHOR SlROL.…

Eistedfod Gwyl Dewi yn Penycae.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eistedfod Gwyl Dewi yn Penycae. Dan nawdd Eglwys Salem, Penycae, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol hynod lwyddianus yn yr addoldy hwnw nos Fawrth diweddaf. Dyma yr eisteddfod gyntaf gan yr Eglwys hon ar Ddydd Gwyl Dewi, ond wedi y llwyddiant amlwg, mawr obeithir y bydd o hyn allan yn sef- ydliad blynyddol. Llywyddwyd gan Mr J R Roberts, M.A., Prif Feistr Vsgol Sirol Ruabon, yr hwn yo nghwrs anerch- iad ragorol a longyfarchodd yr aeiodau ar eu penderfyniad i ddathlu Gwyl Dewi Sant yn y ffordd hono. Daeth nifer anarferol luosog o gystadleuwyr, ac yn eu mysg rai o dalentaul lleol goreu y cylch. Yr oedd y dyfarniadau fel y canlyn Unawd i blant, Mary Elizabeth Lloyd, Penycae cystadleuaeth ysgrifenu i blant, 1, Saml Owen, Copperas, 2, Lloyd Evans, Pen- ycae traethawd i ferched, Hanes Esther," Miss Davies, Trevor Issa un- awd tenor, "Hoffder y Cymro Mr J. Hartley Davies, Rhos adroddiad i blant, M E Jones, a Aaron Pritchard yn gyfar- tal unawd Baritone, U Y Milwr Clwyf- edig," Mr R I Jones prif draethawd, Mr W J Edwards araeth bum munyd, Mr Willie Davies, Penycae unawd Sop- rano, "Iesu cyfaill fenaid clu," Mrs Jenny Roberts, Rhos cystadieuaeth corau cym- ysg, Dyddiau'r Haf," un cor, sef Cor Ondebol Penycae, o dan arweiniad Mr H Thomas, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Beirniaid Cerddorol, Mr David Humphreys, L.T.S.C., Plasbennion; Lien. yddol, Parchn D R Owen, Acrefair, a D P Jones, Penycae; Llawysgrifen, Miss Debbie Evans, Berwyn View, Penycae. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr John Edwin Evans, Stryt Issa. Yr oedd llwyddiant yr Eisteddfod i raddau helaeth i'w briodoli i ymdrechion diflino yr ysgrifenyddion, Mri John Evans, Hall street, a Bennie Davies, Bridge street.

COUNTY COUNCIL ELECTION.1…

Advertising

ifwEpwdcm.

CYHDElTHAS RYDDFRYDOL' Y RHOS.

JOHNSTOWN. -

seos. \

ICyf. Cystadleuol Disgyblion…

PONKEY.