Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
! 'GOHEBUETH.
GOHEBUETH. AT WEITHWYR YR HAFOD. Mr Gol.—Wedi darllen rhifynau diw- eddaf o'r Herald, gwelaf ddarpariadau neillduol ar gyfer dewisiad aelodau y gwatiaiol Gynghorau. sef y Phvyfol a'r Dosbarth. Sylwaf fod y Gweithwyr, neu yn hytrach eu pwyllgor, wedi bod wrthi yn gwthio dau gynrychiolydd, un dros Ward y Ponciau, a'r Hall dros Ward y Rhos. Mae hyn yn dangos ar unwaith ein bod yn haelfrydig iawn gyda'n harian Yr wyf yn weithiwr fy hun, ond nid wyf yn meddwl y gailwn hyfforddio hyn. Hef- yd yr wyf yn sicr nad yw yr holl weithwyr i yn gwybod fod danfon dau ddyn i'w cyn- rychioli i Wrexham bob dydd Iau, yn I costio iddynt 17/- yr wythnos, tua -45 j y flwyddyn, neu y gost am dair blynedd o ^130 ar ein ysgwyddau. Credaf fy I nghydweithwyr, mai gwastraff ar arian I yw y cwbl, a hyny wedi eibenderfynu gan ryw 30 o bobl, a 15 o blant. Y cwestiwn yw, a ydyw y gynrychiolaeth yn deilwng, allan o 1,400 o bobl sydd yn ngwaith yr Hafod ? Ond tebyg mai diangfa y b'b! yma fu wrthi yn dewis fydd, fod y cyfar- fod, pryd y pasiwyd hyn, wedi ei alwi bawb, sef cyfarfod cyhoeddus. Digon siwr, ond a oedd y clique yma wedi rhoddi rhybudd priodol o hyn ? R'wyn sicr mae yr hyn oedd ar y rhybudd ar y bone oedd dewis cynrychiolwyr i fyned i'r Cyfarfod Blynyddol i Wrexham, ac yn nghysgod hyny, yn dod a'r mater yma fel ail beth. Fy nghydweithwyr, yr wyf yn sicr pan y bydd y Rhaglen o'r Cyfrifon wedi dod i'ch Haw am y flwyddyn, y byddwch yn gwelwi ac yn barod i lesmeirio, pan welwch y swm anterth sydd wedi ei wario. Cefais fy syfrdanu wrth edrych drosti, ac os ed- rychwch chwithau yn feddylgar drosti, fe deimlwch yr un peth. Cofiwch, doedd neb yn cael y Report ond y cynrychiolwyr, hyd yn hyn beth bynag. Carem hefyd yn y fan yma ofyn, pwy sydd a hawl, yn ol unrhyw reol, i dalu i'r rhai hvn ? Onid ydym wedi cael gwybod- aeth drwy Test Case Aelodau Llafur Ty y Cyffredin o hyn ? Ac yn ychwanegol, os yw y ddau gynrychiolydd yn meddwl sefyll yr Etholiad am hyn, dylent gofio fod yn rhaid iddynt gadw at y Constitution, sef o dan nawdd yr I.L.P., ac nid yw yn deg dod allan fel Cynrychiolwyr Llafur dan nawdd cymdeithas arall, fel cysgod, rhag fod y gweithwyr yn deall eu bod yn aelodau cyflogedig. Byddwch yn blaen a gonest ar y mater. Rwyncofio i, ni gael etholiad yn gyfFelvb ar y C. Dosbarth, ac fe gostiodd tua 'i i os wyf yn cofio'n iawn, ac fe ddewiswyd Ysgrifenydd y Gymdeithas Ryddfrydol yn Agent i'r ael- od Llafur. M«ae'n rhaid i chwi gofio nad oedd ganddynt hawl i hyh, os am gyn- rychioli Llafur. A'pha gwestiwn Llafur sydd yn y Council ond cwestiwn Treth- dalwr ? Byddwch yn effro weithwyr, a rhoddwch stop ar hyn yr wythnos nesaf, cyn y bydd yn rhy ddiweddar. Mae cost- au Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru yr anfertbol, heb ychwanegu dim atynt, neu mi fyddant yn y man yn gofyn am geiniog yn ychwanegol at yr hyn yr ydym yn ei dalu yn awr. Yr wyf yn sicr fod yr hyn ddywedais yn berffaith deg- a gonest. Os yw y rhai hyn am geisio anrhydedd, elent ar eu cost eu hunain. Rwy'n sicr fod digon o ddynion yn Rhos a'r Ponciau a chyflawnder o fedr ynddynt i hyn, heb roddi baich ar y gweithiwr druan. Ydwyf, GWEITHIWR. _n_
Advertising
k\ Our Sale will soon be overo 1 The days are passing rapidly, and very soon our Great Winter Sale of high-grade Men's and Boys' Outfitting will be over. Only Seven Days remain, and if you want to secure genuine bargains in § i the very things you need you should not delay your visit to our Sale any longe.r. | THOMAS and SON, i Hope Street, ] WREXHAM. I —
DATHLIAD DYDD GWYL DEWI.
DATHLIAD DYDD GWYL DEWI. Eleni dathlwyd yr wyl hon yn fwy cyff- ^edinoi yn y Dywysogaeth, a chan Gymry .gwahanol drefi mawrion Lloegr, nag er- jjoed o'r blaei. Trwy yr holl Ysgotion ,4yddiol, naill ai rhoddwyd dydd o wyliau, jieu ynte rhoddwyd y gwersi boreuol ar- ierol o'r neilldu, a thraddodwyd anerch- adau i'r plant ar genedlaetholdeb, canwyd "caneuon gwladgarol, a rhoddwyd adrodd- adiU o weithiau barddonol Cymreig. fleblaw hyn, yr oedd y plant wedi gofalu am ddigon o daffodils, y rhai yn ol y >$>etrniaid diweddaraf. yw y rhosyn cenedl- thol, ac nid y geninen. Mae'n syndod y sylw mawr delir i'r wyl <yft awr rhagor a wnaed flynyddau a fu. Yn ddiau mae hyn hefyd yn cael ei le ar leddwl y dosbarthtadao ieuengaf o'r jyenedl, ac yn magu ynddynt fwy o gariad At bob peth Cymreig, a mwy o wladgar- wch. Tra mai hyn fydd yr unig amcan o ddathlu'r wyl, gall pawb yn ddiwahan. jjaeth ddymuno rhwyddineb i'r mudiad. Diau cyn nemawr flynyddau, na bydd Ðygwyl Dewi yn cael ei gadw yn wyl gene,diaethol, fel y mae dyddiau Nawdd- ;ant yr Iwerddon ac Y sgotland yn cael ,s¡ gadw ganddynt hwy. Fel arfer ceir ,Atdroddiadau o nifer luosog oleoedd lie y "yohaliwyd gwleddoedd, ac y traddodwyd ^oerchiadau yn ateb y llwngc destyn ar laterton Cymreig. LLUNDAIN. Cynhatiwyd y Gwasanaeth Cymreig sblynyddol yn Eglwys Gadeiriol St Paul's. Cymerwyd rhan gyda'r adran gerddorol :gau Seindorf y Grenadier Guards, o dan I arwreiniad Lieutenant Williams, yr hyn I osdd yn gaffaeliad neillduol i'r gwasan- aeth. Traddodwyd y bregeth gan y Parch D* Grimaldi Davies, Welshpool, yr hwn J1 g-ymerodd fel ei destyn, y geiriau hyny 1"0 Weddi'r Arglwydd "Ein Tad-Deled Ay Deyrnas." Yn ystod ei sylwadau, .dywedodd mai yr Eglwys Gymreig oedd yr hynat yn y wlad hon, wedi ei sefydlu Yl1 ot pob tebyg yn yr oes Apostolaidd. Mae'n ffaith hanesyddol fod yn Mhrydain gristionogion cyn diwedd y ganrif gyntaf, a chyn diwedd y drydedd ganrif, yr oedd ^ristionogaeth wedi cyrhaedd i bob cwr o Loegr a Chymru. Bu iddynt gyfarfod y floson hono i ddathlu coffadwriaeth un .<5 feibion mwyaf yr Eglwys, ac i enill ys- Jljrydoliaeth o'i fywyd. 0 oes i oes yr joedd Dewi Sant wedi cael He uchel yn imeddwl, a chongl gynes yn nghalon pob Cymro, Am ganrifoedd bu beirdd yn C&ntx ei glodydd, ac heb amheuaeth, yr sedd yn un o arwyr y ffydd yn mhlith y ser iisglaeriaf yn fFurfafen yr Eglwys Brydeinig. Daeth cwmni urddasol i Giniaw y .Cyittmrodorion yn Llundain, pryd y llyw- yddwyd gan Syr Vincent Evans. Wrth fryt*y £ y Ihvngc-destyn Cymru, ein Jlwtad, ein Hiaith, a'n Cenedl," dywed- "odd y Cadeirydd eu bod fel cenedl yn yr fieti ddyddiau o orthrymder, wedi crogi eu telynau ar yr helyg, ond yn awr yr eeddynt wedi eu cymeryd i lawr, a Haw- enychent yn eu cyflawniadau a'u gobeith- |oo-(cym). Yr oedd yn dda, i'w cenedl ddysgu caneuon eu gwlad eu hunain, ond -aid oedd yn dda iddynt anwybydducan- «!imt gwledydd eraill. Yr beddynt yn latch o fod yn Gymry, ond yr oeddynt Ittor falch a hyny o fod yn Brydeinwyr, am y credent fod ganddynt ran mewn rlfttffio dyfodol y genedl fwy, yn yr hon yr oeddynt yn gymysgedig. 'I Heblaw y dathliad yn y Brifddinas, ceir Adroddiadau am gynulliadau cenedlgarol a Gaerdydd, lie yr oedd trefniadau arbenig I ar gyfer y plant 0 Penmaenmawr, pryd y cafwyd anerchiad gref gan yr Arolygydd JlrLj Roberts ar enwogion Cymreig; <0 Gaernarfon, lie y cwhwfanai y Pdraig Goch oddiar y prif adeiladau o Criccieth vflc yr oedd Y Gwir Anrhydeddus D 4 Lloyd George yn un o'r llwngc-destyn- au, 0 Pwllheli, He y cynhaliwyd Eistedd- fod t'r Plant; o Bangor, lie y cynhaliwyd gwasanaeth crefyddol yn yr Eglwys Gad- eiriol: o Landudno, Caer, Lerpwl, Man- ceinion, Colwyn Bay, Bethesda, Aber- ystwyth, Llangollen, a'r Amwythig.
Etholiadau Cynghor Sirol ,Dinbych.-
Etholiadau Cynghor Sirol Dinbych. Derbyniwyd enwau y rhai sydd wedi eu happwyntio fel ymgeiswyr am sedd ar y Cynghor uchod dydd Liuri diweddaf. Yn y rhanbarthau hyny lie bydd etholiad yn angenrheidiol, cymerir hyny le dydd Llun nesaf. Derbyniwyd yr enwau canlynol dros rai o seddau Dwyrain Dinbych — dros rai o seddau Dwyrain Dinbych Wrexham North Wara, Hen. 1 nom- as Jones (R) a Dr J E Davies (C). South Ward, Mr J A Chadwick (C) a Mr Wm. Aston (R). East Ward, Hen W E Sam- uel (C) a'r Hen Edward Hughes, Glyo- I dwr (R). West Ward, Mr A Seymour Jones (R) a Mr H C Armstrong (C). Bersham Mr T Willcoxon (R) a Mr F Fitzjohn (C). Minera: Mr Edward Jones, Pentre- saeson (R) a Mr J J Parry (C). Esclusham Mr Godfrey FitzHugh (C), a'r Hen. Jon, Griffiths (Llafurwr). Rossett: Mr George Cromar (R) a Mr W Lowe (C). Cefn Mawr Mr E Lloyd Jones (C) a Mr J Share Jones (R). Stansty Mr W Penn Dennis (R) heb wrthwynebydd. Marchwiel Mr J Allen (R) a Mr J Hughes (C). Brymbo r Mr Edward Roberts (R), heb wrthwynebydd. Broughton Mr F A Sturge (R), heb wrthwynebydd. .Gresford: Mr J Lee (C), heb wrth- wynebydd. Holt: Mr Edw Williams (C), heb wrthwynebydd. Pant a Ponkey Mr J Stephen Jones (R), heb wrthwynebydd. Rhos a Penycae Dr J C Davies (R), heb wrthwynebydd. Ruabon ac Erbistock Sir Watkin Williams Wynn, Bart. (C), heb wrthwyn- ebydd. Chirk: Mr R Myddelton (C), heb wrthwynebydd. u.
.¡ DADGYSYLLTIAD CY MREIG.…
.¡ DADGYSYLLTIAD CY MREIG. -0-- Fenderfyniad Cryf y Pwyllgor Cenedlaethoi --0" Cynhaliwyd cyfaifod Iluosog o Bwyligor 1-1 Cenedlaethol Dadgysylltiad i Gymrn yn yr Amwythig, o dan lywyddiaeth yr Henadur Phillips, Castell Nedd. Yr oedd yr adrodd- iad arianol yn un hynod galonogol, ac yn dangos y dyddordeb ymarferol a gymerir yn y rnudiad trwy'r Dywysogaeth. Yn nghwrs ymdrafodaeth faith ar y set- yllfa dadleuwyd yn barhaus fod mwyafrif mawr etholwyr y wlad yn ffafrio polisi llawer mwy ymosodol yn y Senedd na'r un a ddi- lynir gan yr Aelodau Cymreig, y rhai, fel plaid, a ddaethant i mewn am gryn lawer o feirniadaeth wrthwynebol. Cydmarwyd eu hymddygiad ar y cwestiwn ceredlaethol hwn ag eiddo y Gwyddelod ar gwestiynau yr Iwerddon. Dadleuwyd fod ansefydlogrwydd yr Aelodau Cymreig yn y Senedd diweddaf mewn gwrthgyferbyniad tarawiadol i bender- fyniad sefydlog y genedl yn gyffredinol i weled fod y cwestiwn hwn yn cael ei wthio ar y blaen ar waethaf pobpeth arall. Cafwyd ymdrafodaeth faith ar ymddygiad dyfodol y Pwyllgor, a phenderfynwyd yn unfrydol i appwyntio dirprwyaeth gref a chynrychioliadol i ymweled a'r Aelodau Cymreig, yn y He cyntaf, i drafod yn llawn y sefyllfa, gyda golwg o sicrhau cydweith- rediad y Blaid Gymreig yn gyfan i wneyd cynrychioliad unol at y Llywodraeth i gym- ell arnynt hawliau Cymry i ddeddtwriaeth o flen pob peth arall pan fydd y Veto a'r G. llideb wedi eu pasio. Appwyntiwyd Pwyllgor Llenyddol cryf, a threfnwyd i gymeryd camrau ar unwaith i ddosbarthu parnphledi yn ymwneyd a gwahanol agweddau y cwestiwn. Penderfyn- wyd hefyd i fabwysiadu llawlyfr y Parch David Davies, diweddar o Brighton, ar yr Hen Eglwys Geltaidd, yr hwn sy'n awr yn y wasg, fel llawlyfr swyddogol, trefniadau yn cael eu cwblhau am ei gyhoeddiad gan y Pwllgor. Ar gynygiad Mr Beddoe Rees, Caerdydd, yn cael ei eilio gan y Parch 0 D Camphell, Haverfordwest, pasiwyd y penderfyniad can- lynol: Fod y cyfarfod hwn yn Ilawenychu oherwydd y fuddugoliaeth ardderchog dros Ryddfrydiaeth yn Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diweddaf. Creda fod y fuddug- oliaeth yn brawf ychwanegol o hawliau an- wrthwynebol Cimru am fesur cyfiawn o gtdraddoldeb cretyddol i'r Dywysogaeth. Yn mhellach datgana y csfarfod eu dvmun- iad fod yr oil o'r Blaid Gymreig yn Nhy y Cyffredin yn edrych fod y Ilecyntaf yn cael ei roddi i Fesur 1909 Mr Asquith, yn union wedi i gwestiwn y Veto gael ei bender- fynu." Pasiwyd penderfyniad cryf o wrthdystiad n erbyn gwaith Cynghor Cenedlaethol yr Eglwysi Rhyddion yn rhoddi safle o anfan- tais amlwg er ymdriniaeth effeithiol i'r cwes- tiwn yn y Gyngrair agoshaol yn Hull. Pasiwyd penderfyniadau eraill a chymer- wyd camrau i berffeithio a gwneyd yn bob- logaidd waith y Pwyllgor Cenedlaethol. Etholwyd Pwyllgor Gweithiol cryf a rhodd- wyd gallu iddynt i gymeryd y camrau ang- enrheidiol i wneyd y polisi newydd o weith- rediad mwy penderfynol yn effeithiol.
Yr Anghydfod yn Masnach Lo…
Yr Anghydfod yn Masnach Lo Deheudir Cymru. Mae sefyllfa y fasnach lo yn Neheudir Cymru yn g) mylog iawn ar hyn o bryd, ac ansefydlog, a hyny oherwydd annealldwr- iaeth yn nglyn a ch; flogau. Dydd Llun yr oedd pump o lofeydd yn nghymdogaeth Dowlais yn chwareu. a chymerwyd mantais ar hyn gan y dynion i gyfarfod eu cynrych- iolwyr ar y Bwrdd Cyflafareddol i wrando ei adroddiad ar yr yrndrafodaeth ddiweddar. Wedi i nifer o gwestiynau gael eu gofyn, cadarnhawyd gwaith y cynrychiolwyr. A barnu oddiwrth lais y cyfarfod ymddengys y dynion yn gadarn, ac ni yctyriant y cwestiwn o roddi r ffordd ar un o'r pwyntiau mewn anghydfod. Y mae yn Neheudir Cymru nifer o loferdd perchenogion y rhai nad ydynt yn aelodau o Undeb y Glofeddianwyr, ac felly heb gyn- rychiolaeth ar y Bwrdd Cyflafareddol. Yn ystod y streic fawr yn 1898 yr oedd amryw o'r glofeydd hyn Nn gweithio. Fodd bynag ar yr achlysur hwn mae y gweithfeydd an- undebol hyn yn awyddus i ddod allan gda'u cyd-weithwyr yn y glofeydd undebol os bydd i'r ymdrafodaeth bresenot droi yn fethiant. A dydd Llun rhoddwyd mis o rybudd i der- fynu ymrwymiadau gan y dynion yn y air lofa anunebol yn Nyffryn y Rhondda, sef Treorci Ucha, Bute-Merthyr, a Ynysfelo (Treherbert). Yn nglofa Fernhill, Treher- bert, yr hon hefyd sy'n anundebol, yr oedd rhybuddion yn cael eu rhoddi dydd Iau. Mae'r rhybuddion wedi eu rhoddi fel mes- urau rhagochelgar yn unig. Nid yw Undeb Glowyr Deheudir Cymru eto wedi pender- fynu pa tin a, fydd i'r gweithwyr yn y glo- feydd anundebol, os digAydd methiant gyda'r cytundeb cyflogau fiesvydd, atal gwaith ynte parhau i weithio ar yr ymrwymiadau wyth. niwrnod. Hysbysodd Mr John Williams, A.S., yn Abertawe, yr wythnos hon, y byddai i'r anghydfod gael ei derfynu yn heddychol, ac na chymer atalfa cyffredinol le, os bvdd ym- ddygiad y perchenogion rywbeth yn debyg i resymol. Nid oedd y sefyllfa ebai ef mor ddifrifol ag yr adroddid am dano, ac yr oedd yn obeithiol am derfyniad heddychol, bodd- haol i'r ddwy ochr. y
Advertising
I I .1!!r!Z=""¡" "'W'2"1'>TI'j)iiit"m YOU CAN FURNISH YOUR HOME for a FEW SHILLINGS -> by adopting the furnishiiig1 plan which has proved such a blessing to thousands—the gradual payment system. A small initial payment is all that is necessary to secure for you all the furnishing goods your home re- 4 quires—and you can pay the rest at your convenience. Let us show you our good goods-and explain our syst m to you clearly. A THOMAS AND SON. Furnishing Department, 40, HOPE STREET, WREXHAM. FREE eoncert Tickets given away! po To draw our successful Sale to a close we are prepared to make the following Sensational Offer of FREE TICKETS! To every customer that purchases 10s WORTH OF BOOTS FOR CASH we will present A FREE Is TICKET enti- tling you to- spend an enjoyable evening at the Annual Con- cert of the Capel Mawr Choral Society on Wednesday Evening March 23rd, when Handel's Messiah will be performed. Don't miss this chance. It holds good from March 5 J:,õ, c" until the 19th. JN0. PiiieE,
Evan Roberts, y Diwygiwr.
Evan Roberts, y Diwygiwr. Bydd yn dda gan filoedd gael ar ddeall fod yn mwriad Mr Evan Roberts, y Diw- ygiwr, i ddychwelyd yn ol yn fuan i Gymru, i ail ymaflyd yn ei waith. Dydd Mercher cafodd y Parch Z Mather, Aber- maw, sydd yn bresenol ar ymweliai yn Leicester, y mwynhad o dreulio awr ddedwydd yn ei gymdeithas yn 4 4 Cartref," anedd hyfryd a thawel Mr a Mrs Penn- Lewis yn y dref hono, lie mae'r Diwygiwr wedi bod er yr amser y torodd ei iechyd i lawr bedair blynedd yn ol. Yr oedd Evan Roberts yn neillduol o wanaidd a llesg pan ddaeth yno, ond yn raddol dangosodd arwyddion gwella, ac yn ystod y deuddeg mis diweddaf mae wedi gwneyd cynydd xhyfeddol, ac mae yn bresenot yn edrych yn gryt a bywiog, ac yn teimlo yn barod ac awyddus i waith. Dywedai nad oedd yn bwriadn gwneyd unrhyw drefniadau yn mlaen liaw i gynal cyfarfodydd diwygiadol, ond y bwriadai yn nghyntaf oil fyned i lawr i Gymru, y Deheudjr yn benaf, i ymweied a'r manau lie yr oedd Duw wedi bendithio ei waith mewn modd amlwg mewn cysylltiad a'r Diwygiad diweddaf, ac yna ceisio cael allan y mha leoedd ac yn mha ffordd y gallai ei wasanaeth fod p gynorthwy.
Y Meddygon a Gwyrthiau. !
Y Meddygon a Gwyrthiau. Dydd Gwener, yn Nhreffvnon, cynhal- iwyd cyfarfod o ganghen Dinbych a Fflint o Undet Meddygon Prydain. Lh'wyddwyd gan Dr J C Davies, Rhos. Darllen wyd papur ynddo gan y Tad Woodlock, Leeds, ar Wyrthiau mewn Meddygiaeth Yn cynyg pleidlais o ddiolchgarwch ir Tad Woodlock dywedodd y Cadeirydd fod meddygon yn nglyn a'u gwaith yn cyfarfod ag achosion o iachad na fedient hwy roddi cyfrit am danynt, a'i fod ef eto yn credu mewn gwyrthiau Dr H YV S Williams a ddywedodd y dviai yr achosion y cyfeiriwyd atynt gan ddarllen- wr y paput fod yn ryw gynorthwy. iddynt m^wn oes mor faterol i gydnabod y posibl- rwvdd o ymyriad goruwchnaturiol. Dr James Williams a ddywedodd na fed. rai efe beidio cysytllu yr hyn a wnaed yn Lourdes a'r hyn sydd wedi cymeryd lie yn NhrefFynon. Byddai yn beth rhagor-ol pe cedwir rhestr o'r holl achosion o iachad a gymerai le yn Ffynon Gwenftrewi, a phe sicrheai y Tad Ryon gydrweithrediad y I meddygon lleol yn nglyn a hwy.
Dosbarthiadau Dawnsio mewn…
Dosbarthiadau Dawnsio mewn Ysgolion Cymreig. -0- Yn ngh farrod miso! Cynghor Dosbarth Ffestining darllenwyd ilythyr mewn atebiad i'r penderf,niad a anfonwyd at B vyUgor Addysg Sir Feirionydd yn gwrihdystio yn erbyn rhoddi benthyg ysgol i gynil dos- barthiadau dawjisLo. Mr Haydn Jones, A.S., Ysg-ifenydd y Pwyllgor Addysg a ysgrifenodd yn hysbysa fod y Pwyllgor wedi pasio v penderfyniad canlvnol:—•'Ein bod, n angfiymeradwyo rhoddi caniatad i adeiLJ.¿a u ) gael eu llogi i unrhyw beth nad yw vn, hallot i » ddibenion addysgot, ohd vn unig yn y Ileoedd hyny na.d oes adeilad araH cyfaddas I y at gyfarfodydd, a'n bod yn ystyried nad yw ddymunol mewn un achos i'w rhoddi at ddibenion yri nghylch y rh ii v mae gwrth- darawiad mewn barn a theimlad cyhoeddus." Mr Hugh Jones (chemist) addywedodd fod penderfyniad y Pwvllgor. A -Idvsg yn cau allan gyfarfodydd pnlitic.-udd o'r Ysgolion. Dywedodd y Clerc y gellid dad!eu fod dawnsio yn dod dan v te, iyi Addysg." Yn ddilynol pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i'r Pwyllgor, salthyn pleidleisio drosto, a deg o'r aelodau yn peidio pleidleis- io o blaid nac yn. erbyn,
. NODION.
NODION. Mr Llewelyn Williams oedd y cyntaf o'r aelodau Cymreig 1 sicrhausedd yn Nhy y Cyffredin newydd. Y mae priodas Mr David Davies. A.S., a Miss Penman, Gateshead, yn dsbyg o gynv- eryd lie Ebrill izfed. Mae Mr Lloyd George wedi addaw llyvr- vddu dros yr Eisteddfod a gynhelir yn Nghricieth dydd Llun y Pasg. Yn nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Geffylau yn Llundain dydd Iau etholwyd Mr Frank Lloyd, Gwrecsam, yn aelod new- ydd ar y Cvnghor. Trefna Cor Meihion Mountain Ash,i fvned ar daith trwy wahanol ranau o'r byd diwedd y flwyddyn. Bwriada fod i ffwrdd am tua phedwar mis ar ddeg Mr T Glyn- dwr Richards fydd yr arw-einydd. Y mae Mr R 0 Roberts, yr ymgeisydd Ceidwadol a orch'fygwyd yn Sir Fon, yn ceisio cael ei ethol ar Gynghor Sir Llundain dros ddosbarth ""alwotl-. Dosbarth Rhydd- frydol yw Wdworth) ac ofnir mai cweir gaiflf Mr Roberts eto.