Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ICynghor Sirol IMnfeych. Q…

rRural District Council Election.…

Etholiad Cynghor Dosbarth…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Etholiad Cynghor Dosbarth 67-- Gwrecsazn. —o— AT ETHOLWYR WARD Y PANT. -0- Foneddigesau a Boneddigion, Caniatewch i mi ddiolch i chwi am eieh ym- ddiriedaeth ynof yn ystod y gorphenol. R'wyf yn awr eto yn gofyn am eich ffafr trwy adnew- yddu y cyfryw am y tair blynedd nesaf. Ymddangosaf o'ch blaen fol ymgeisydd an- mholiticaidd, ac an-enwadol, fel un sydd a buddianau y Pant a Johnstown yn agos at fy nghalon. Oyfrifaf hi fy nyledswydd benaf, mewn amser ac allan o amser, i gefnogi unrhyw beth a phob peth fydd o fantais, ac a ysgafnha costau y trethdalwyr ydynt eisioes yn orthrym- 01. Gallaf gyfeirio fod heolydd a duparisdau iechydol y Pant a'r Johnstown mewn cyflwr rhagorol, a phob amser gwnaf fy ngoreu i hyr- wyddo eich buddianau yn y cysylltiadau hyn. Oherwydd y Diwygiad yn Neddfau y Tlod- ion, y mae'n'eithaf amlwg y bydd cyfnewiadau pwysig yn rhwym o gymeiyd ife yn y dyfodol buan yn nglyn a Byrddau y Gwarcheidwaid. Yr wyf bob amser wedicymeryd dyddordeb mawr yn achos y Tlodion, a pha gyfnewidiadau bynag a ddigwydda, gallwch ddibynu yr ystyr- iaf eu hachos fel yr un mwyaf cyssegredig. Mae'n wir i mi ar y cyntaf dyau fy enw yn ol rhag ymladd etholiad ond ar ddymuniad taeraf nifer fawr o etholwyr mwyaf dylanwadol y Ward, ad-yotyriais fy mhenderfyniad, a gos- odaf fy enw ger eich bron i geisio am adnew- yddiad o'ch y mddiriedaeth. Ydwyf, eich ufudd was, MORRIS KYFFIN. Rhos. Mawrth 10, 1910.

Advertising

Eisteddfod + Gerddorol GLANBAFOIT,…

IWwCpubau.

Advertising

CYNGHOR PLWYF RHOS. -—o—-1

RHOS.

IPONKEY.

Masnach Lo Deheudir Cymru.