Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
Llwyddiant Gwyl Gerddorol…
Llwyddiant Gwyl Gerddorol Harlech. Cynbaliwyd Pwillgor unedig o Wyl Ger- ddorol Harlech y dydd o'r blaen i ystyried y sefyllfa arianol, ac er na chafwyd man- tolen gyflawn cafwyd sicrwydd fod ei llwydd- iant wedi ei sicrhau. Penderfynwyd i gynal yr wyl nesaf ar Gorphenaf 6ed, a'r cyfan- waith dewisedig i'r corau unedig ydyw Judas Maccabeus" (Handel). Ymddeng- ys tod yr wyl wedi dod i aros, a chredir y bydd yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth yn y parthau hyn. Derbyniodd Mr 0 0 Roberts, arweinydd cerddorol yr wyl, lythyr oddiwrth Mrs Mary Davies, Llundain, un o lywyddion y cyfar- fodydd, yn yr hwn y dywed Mae yn falch genyf gael y cvfleusdra o ysgrifenu atoch i ddatgan y pleser mawr gefais o wrando cydganau y "Messiah" yn cael eu canu mor fendigedig yn Harlech ar yr 16eg o Orphenaf, 11 Behold the Lamb of God oedd, y cydgan goreu ganwyd yn fy marn i. Canwyd ef g)da chymaint o barchedig- aeth ac unoliaeth perffaith o sain a myneg- iant. Credaf ei fod yil un o'r cydganau an- hawddaf yn y gwaith, ac ystyriaf ei bod yn syndod na chawsoch rehearsal unedig cyn y perfformiad. Dengys fel y bu raid i chwi weithio gyda phob adran cyn y dydd. O'r tonau cynulleidfaol "Moab" oedd yr un am cyffyrddodd fwyaf Yr oedd yn an- hawdd rheoli'r teimladau Yn sicr teimlwch yn talch wrth feddwl mor drwyadl foddhaol yr ydych wedi dwyn safbn cerddoriaeth yn Ngogledd Cymru, ac yn enwedig yn Sir Feirionydd." Ysgrifenai Mr L J Roberts Llongy- farchiadau calonog ar y canu mwyaf ben- digedig a glywais yn fy oes. Yr oedd yr oil yn ardderchog, ac yn anrhydedd i Gymru."
Eisteddfod Connah's Quay.
Eisteddfod Connah's Quay. Cynhaliwyd yr Eisteddfod flynyddol yn nglyn a Methodistiaid Calfinaidd Con- nöh' Quay prydnawn a nos SrvJwrn divv- eddaf, pryd yr oedd cynulliadtu mawrion Arweiniwyd gan LlifvVn, a beirniadwyd y canu gan Mr Harry Evans. Lerpwl. A ganlyn oedd rhai o'r prif ddylaaiiadui Unawd ar y Berdoneg i rai dan 14 oed, Miss Agnes Thomas, Shotton traeth- awd, kiras a Gwirionedd," Mr Daniel Jones, Rhuthyn, a Giraldus yn gyfar- tal unawd i techgyn, Master Percy Jones, Rhyl; unawd soprano, Miss Gwlad- ys Hooson, Coedpoeth Corau Plant, Cor Plant Cronant (Mr W Humphreys, ar- weinydd) unawd ar y berdoneg i rai dan 18 oed, Miss Jennie Taylor, Shotton deuawd T. a B., Mri E W Bellis ac R Isaac Jones, Rhos penillion, Parch W E Roberts, Connah's Quay unawd tenor, Mr E W Bellis, Rhos Corau Cymysg, Stretford Glee and Madrigal Society (Mr T Corbett, arweinydd) Partion Meibion, 16 i 20 o leisiau, St Helens Excelsior (Mr Abraham Jones, arweinydd) unawd bar- itone, Mr R Roberts, Halkyn Corau Meibion heb fod dan 30 mewn nifer, Cydgan y Pererinion {Dr Parry), Cor Ffynnongroew (Mr J Spencer, arweinydd).
Eisteddfod Brymbo.
Eisteddfod Brymbo. Cyfarfyddodd Pwyllgor Gweithiol yr uchod i dderbyn adroddiad o'r sefyllfa arianol. Cyflwynwyd hon gan yr Ysgrit- enyddion, a dangosai tod y treuliau ych- ydig yn uwch na'r derbyniadau. Er hyny ystyrid fod hyn yn dda, a chymeryd i ys- tyriaeth mai hon oedd yr un gyntaf gyn- halivvyd. Penderfynwyd i gynal Eistedd- fod y flwyddyn nesaf eto, ac appwyntiwyd is-bwyllgor i wneyd y dewisiad a'r trefn- iadau angenrheidiol, yr hyn a hysbysir yn fuan.
Bachgen Dewr.
Bachgen Dewr. Mae y Royal Humane Society wedi dyf- arnu tlws y Gymdeithas i Teddy Wil- liams, bachgen ysgol 13 oed o Porthmad- oc, am achub David EvarjS, bachgen ar- all 12 oed, rhag boddi yn mhorthladd Porthmadoc ar yr 22ain o Fehefin. Car- iwyd Evans, yr hwn oedd yn dysgu nofio, i drolyn oddeutu 8 troedfedd o ddyfnder yn agos i lif-ddorau yr harbwr. Nid oedd neb yn ymyl ond pedwar o fechgyn. 0 r rhai hyn ni fedrai ond Teddy Williams nofio. Yn ffodus yr oedd wedi diosg ei ddillad, ac heb y petrusder lleiaf rhuth- rodd i'r trolyn, a nofiodd ato. Yr oedd Evans wedi suddo am y trydydd tro pryd y gafaelodd Williams ynddo o dan y dwfr gyda'r llaw aswy, a llwyddodd wedi ym- drech galed i ddod ag ef i dir. Yr oedd Evans yn anymwybodol. Yn cael ei gyn- orthwyo gan y bechgyn eraill, trodd Wil- liams ef ar ei ystumog gan wasgu y dwfr ohono, a thrwy artificial respiration, fe lwyddodd i ddod ag et o amgylch. Pen- derTynodd y bechgyn i gadw y digwydd- iad yn gyfrinachol, am y gwyddent y cydnabyddid y lie gan bawb yn beryglus i ymdrochwyr. Ond daeth y gyfrinach yn gyhoeddus trwy i David Evans,—yr hwn nad oedd wedi absenoli ei hun o'r ysgol am wyth mlynedd (a'r hwn gafodd oriawr arian am ffyddlondeb )-gael ei gymeryd yn afiach a methu myned i'r ysgol y diwr- nod dilynol, a thrwy i Williams waeddi yn ei gwsg I Rhaff, rhaff, i achub David." ¡
Undeb Annibynwyr Cymru.
Undeb Annibynwyr Cymru. Hysbysir fod nifer y cynrychiolwyr i gyfarfodydd yr Undeb uchod, a gynhelir yn Lampeter, yr wythnos nesaf, yn fwy nag a fu erioed. Mae'r niter sydd eisioes wedi eu rhestru, ac i'r rhai y trefnir Hetty rhad am wythnos, yn rhifo dros 660. Nid yw poblogaeth y dref ond 1,700. Mae dros 50 o'r cynrychiolwyr yn wrag- edd,—a bydd y rhai hyn yn meddu yr un hawliau siarad a phleidlais a'r dynion yn f yr holl gyfarfodydd. Mae clerigwyr a lleygwyr Eglwys Loegr yn croesawu y cynrychiolwyr gyda breichiau a drysau agored. Tra mae Coleg Dewi Sant, sef- ydliad addysgol y clerigwyr, gyda'i holl ddodrcfn, &c., a'r dining hall hwylus, wedi eu gosod at wasanaeth yr Undeb am yr wythnos.
.--------.---Ysgol Dduwinyddol…
Ysgol Dduwinyddol Harlech. Cynhaliwyd Ysgol Dduwinyddol Har- lech yr wythnos ddiweddaf, a phrofodd yn boblogaidd iawn. Darllenwyd papur- au galluog boh dydd. Y testynau oedd- ynt ;—4' Pedhod fCh -Wyre Lewrs, Llanelli; "Crist Hanes," P.irch Cefni Jones, Ffestiniog "Syniad Cristionog- aeth am Dduw," Parch David Davies, Llandudno; "Tystiolaeth am Dduw." Parch Henry Rees, Pwllheli Y Bywyd Newydd," Parch H Cernyw Williams, Corwen 11 Yr- Ystad ddyfodol," Parch David Powell, Lerpwl; "Yr Eghvys," Parch Joseph Davies, Birkenhead Y Sacramentau," Parch E K Jones. Brym bo. Dilynid bob papur, gan ymdrafod- aeth. Ymwelodd yr Ysgol ag amryw o leoedd dyddorol yn y gymdogaeth. Cyf- erfydd yn Criccieth y flwyddyn nesaf. mmmmmm—————wm—mmmmm—rn
Mr Lloyd George yn Gymrawd…
Mr Lloyd George yn Gymrawd o Goleg yr lesa, Rhydychain. Mae y Prif Athraw a Chymmrodorion Coleg yr Iesu, Rhydychain, wedi ethol Lloyd George yn Gymrawd Mygedol o'r Coleg. Yn cydnabod yr anrhydedd der- byniodd y Prif Athraw y llythyr canlynol oddiwrth y Canghellydd "Anwyl Syr John Rhys,—Dymunaf ddatgan wrthych chwi a Chymmrodorion Coleg yr Iesu fy nheimlad dwfn am yr anrhydedd uchet a osodasoch arnaf trwy fy ethol i fod yn un o'ch aelodau Mae yn hyfrydwch eithriadol i mi i gael cy- sylltiad mor agos a Choleg yr Iesu. Fel Cymro rwyf wedi gwylio gyda phleser a balchder; yn enwedig er pan ydych chwi yn Brifathaw, lwyddiant y Coleg sydd a chysylltiad mor agos a'n gwlad, heb favvr feddwl cael fy hun yn aelod o hono, a gallaf yn gydwybodol ddweyd na bydd i un anrhydedd a ddisgyn i'm rhan gael ei drysori yn fwy na'r cymrawd hwn a osod- asoch arnaf. Byddwch cystal a derbyn a datgan i Gymmrodorion y Coleg fy niolch- garwch calonog a diffuaot, IJ Y r eiddoch byth yn gywir, D. LLOYD GEORGE.
iDirywiad Cadwraeth y S&bboth.j…
Dirywiad Cadwraeth y S&bboth. Mewn cynhadiedd o Undeb Annibynol. Sir Fflint, a gynhaliwyd yn y Wyddgrug, dydd Ltun, traddodwyd anerchiad gan y Parch John Charles, Fflint, ar Ragolw- i yr Eglwysi Rhyddion." Dywedodd fod amryw enwadau yn ddiweddar wedi bod yn adrodd lleihad yn rhif aelodau Eglwys- ig, ac hefyd fod mynychiad addotiad cy- hoeddus yn diraddio. Feallai y gellid cyfrit am hyn oherwydd cyfnewidiad ar- ferion, meddwl, a buchedd y bobl. Cyn- yddai yr awydd am ymarferiadau awvr- agored, a cbynygid llawer o gyfleusderau i foddio hyn, megis deurodu, moduro, a gwibdeithiau diwedd wythnos. Cyfyngid cymaint ar ddynion gan eu gwaith dydd- iol fel ag i ofyn am twy o awyr iach, a J-
NQDION.
NQDION. Derbyniodd trethdaiwyr Ffynonau Llan- drindcd delerau Mr Andrew Carnegie pan yn cvnyg £t,500 tuag at godi ilyfrgell gyhoeddus yno. —o— Penododd llywiawdwvr ysgol sirol Rhuth- I yn Miss May Williams, o Neuadd Aberdar, Cacrdydd, a Choleg Girton, Caergrawnt, yn feistres gynorthwyol mewn Hanesyddia^th a Ffrancaeg, am gyflog o ^105 i ddechreu. Yr oedd 32 yn ymgeisio am y swydd. BLI corau Cymru yn dra Uwyd iianus.yn y cystadleuaethau corawi mewn cysylltiad a Gwvl Genedlaethol 0 Dnwestwyr, dydd Sadwrn, yn y Palas Grisiai. Yr oed i Mr C Meudwy Davies, Llanelli, yn un o'r beirn- iaid. Derbyniodd Caerdydd a Mountaim- Ash ail wobr bob un. -v- Mewn arwerthiant yn Madryn yn ddi. weddar, pwrcasodd y Parch T Shankland, Llyfrgellvdd Coleg y Btifysgol, Bangor, drysor eithriadol mewn ffurf o Rammatleg, Cymraeg. Ysgrifenwyd ef yii y 15fed gan-' rif, a dywedir fod yr ysgriten yn rhagorol, ac yn cynwys amryw o bethau heblaw gram- madeg. -0- Vn ddiweddar cyfiwynodd Mr Peter Manuel, Rock Wood Farm, Erynteg, ger Gwrecsam, ffon gerdded hardd i Mrs Lloyd George. Derbyniodd Mr Manuel yr areb. iad canlynol, "Cyfarwyddir n gan Mrs Lloyd George i ddioich i chwi am y ffoi> hart,d a anfonasoch iddi. Gwerthfawroga Mrs Lloyd George yn fawr eich caredig- rw: dd." Mae Mr Manuel yn dderbyniwr o flwydd-dal yr hen, ac anfonodd fion gyffelyb i Mr Lloyd George fel gynllun y pensiwn i'r hen.-
Rhanbarthau Newydd Brawdlysoedd…
Rhanbarthau Newydd Brawd- lysoedd y Gauaf. Cyhoeddwyd rhybuddion yn y" London Gazette," nos Fawrth, yn penodi rhanbarthau newydd i frawdlys y gauaf. Yn mysg y rhai hyn ymddengys archebion i'r perwyl a gan- lyn Siroedd Cumberland a Westmorland i gael eu huno a'u gilydd, ac, i ffurfio un sir, o dan yr enw 'Sir Brawdlys y Gauaf,' Rhif 1, Brawd- lys y Gauaf i gael ei chynal yn Carlisle, a Sir- ydd Cumberland yn unig i weithredu dros y frawdlys auafol ddywededig. Siroedd Trefaldwyn, Meirionydd, Dinbych, a Fflint, i ffurfio un sir o dan yr enw I Sir Brawdlys y gauaf,' lihif 4. Bydd i'r frawdlys ddywededig gael ei chynal yn Rhuthyn. Sir- ydd sir Ddinbyeh vn unig i weithredu i amcan y frawdlys auafol ddywededig. Bydd i siroedd Caernarfon a Moil gael eu huno, a ffurfio un sir, o dan yr enw I Brawdlys y Gauaf,' Rhif 5. Y frawdlys ddywededig i gael ei chynal yn Nghaernarfon, Sirydd sir Gaernarfon yn unig i weithredu i amcanion y cyfryw frawdlys sirol. Bydd yr archebion uchod, os na ddiddymir hwy cyn hyny, mewn grym yn ystod parhad brawdlysoedd gauaf 1910.
Advertising
I p-l. I First-Rate Furniture on the I Gradual Payment Plan. 1 I We offer you opportunities in Furniture on Credit s\ic:i as I you could not easily secure anywhere else. We hold a oig I stock of up-to-date furniture and famishing goods-frorü a 1 single suit to a complete houseful—on easy terms, I The value of Credit Furnishing I cannot be overstated. It is the greatest help to ho 7- 7- I furnishing that anyone could desire. If you will consult B us on the matter you will appreciate the moderation of oar I terms, and the simple straightforwardness of our methods. I THOMAS AND SON, FURNISHING' DEPARTMENT, I 14 o Hope Street, W rex h a m.
Cwyn y B.A.
Cwyn y B.A. I Yn Mhwyllgor Addysg Sir Drefald^yn, a gynhaliwyd yn Welshpool, dydd LJun, cafwyd engraifft o'r gystadleuaeth agos sydd yn bodoli yn y cylchoedd addysgol. Yr oedd yr un a ddewiswyd fel ysgolfeistr o Ysgol y Cynghor Cefnycoed am y c\ flog o ^90 v fl wydd k n, yn B A. o Brifysgol Cym- ru. Yn llongvfarch yr ysgolfeistr newydd. I Mr Algernon T Jones, dywedodd y Cadeir- ydd nad oeddynt yn disgwyl i ddyn o'i gyr- haeddiadau ef aros am byth mewn lie fel Cefnycoed. Mr A T Jones: Ymddengys nad yw y Cadeirydd yn ei ystyried yn safle dda i ddyn o'm cyrhae 'diadau i. Ond nid yw pethau yn awr yr hyn arferent fod. Mae'n rhaid i ni vn awr wneyd cais am yr hyn fedrwn gael-(chwerthin).
Advertising
¡ INATIONAL LOAN SOCIETY IS Expressly Established and Re-5:.ere<1 Pursuant to Act of Parliament to make Private Advances without Loan Offices formalities. To t«ll classes (Alate oi- Female), FROM P,10 TO < £ 1000 ON SIMPLE WRITTEN PROMISE TO REPAY. for any immediate need or private rFe to start in business, to furnish vour house; to bn.y stock when the market is low to pioy rent or rates. Cash sent by post if desired. You can et nioney privately here as interviews are unnecessary. and references are not required. Genuine applicsiMoiie never re- fused. The advance c.itj be piid bacii by monthly quarterly, or half-yearly instalments, or if desired the advance can remain out up to ;vve yeirs by pay. ing interest only. Distance no objvct. Inseresfc rtnd repayment low sc in England find Wales. Strict privacy and straightforward dealings guarsn- teed. Borrower". paying extortionate interest else- where are requested to apply to in when existing loans can be paid off and larger advances made ati much lower rates of interest. It wili cost yell nothing to inquire, but may stive von pounds, by ii qairing iu strict confidence in English or Wisieii, for oar frett prospectus to NATIONAL L5AN SCCTETY, 19 QUEEN STREET, WREXHAM. -0- Head Office: — 41, CORPORATION STREET. CHESTER, (National Telephone 2ô0 x 5). Es-tablisbed p:S7.
Advertising
r^r»T! I SUITINGS :THE sombre tones which have na- fS tar-illy predominated in men's attire t during- the few weeks following the I death of King Edward, are now be- | ginning to give placfe to somewhat I ^brighter hues, and the I -New Designs and Shades i in Flannels and Tweeds which are fully represented amongst ] our new goods for the season are receiving their proper share of atten- t vion from careful dressers. Would | you like to see them ?—Then favour fi us with a call and we shall be de- li Eighted to put them before you. | THOMAS and SON, Hope Street, WREXHAM. t
ADGOFION CERDDOROL.
ADGOFION CERDDOROL. Vr oedd yn ddrwg genyf ddeall yr ..wythnos o'r blaen, am farwolaeth Enoc Roberts, Ponkey. Bu yn byw yn Penycae am lawer o flynyddoedd, a dau frawd ar- all iddo, sef Thomas ac Eben Roberts. postbl nad yw neb o ddarllenwyr yr Her- ald yn gwybod fod Enoc Roberts yn frawd John Roberts, awdwr y don Alexan- der. Pan ddaeth yr argraffiad cyntaf o'r JLfawlyfr Moliant allan, yr oedd Edward f Jones, hen flaenor y gan, a diaoon am Jideugain mlynedd yn Penycae, yn liawen í\awn wrth weled y don Alexander ynddo. Mae yn debyg ei fod wedi el gweled pan y cyhoeddwyd y tro cyntaf yn Ngreal y bedyddwyr yn J833, a dywedodd vvrthym fod John Roberts yn frawd i'r tri uchod. -Vedi llawer o flynyddoedd, chwiliais ac Ymholais, a chefais ei fod yn gywir. Dyma vchydig o hanes awdwr y don Al- «xaader :—Ganwyd ef yn Satnaxi, Bala, ckirorphenaf 25am, 1806, ac yr oedd yn ^efnder i'r Parch Robert Thomas (Ap j Fychan). Symudodd pan yn ieuanc i Aberystwyth, wedyn i Aberdar, ac ynia s Jaethigysylltiad aj Roberts (leuan Gwylit) ;1\ Dr Saunders, o ba le y dychwelodd "drachefn i Aberystwyth, ac yno bu farw, Tachwedd isted, 1879. Mae dwy ferch ylddo yn byw yn Aberystwyth yn awr. Fat wyf wedi crybwyll eisioes, cyhoedd- wyd y don gyntaf yn Ngreal y Bedyddwyr am lonawr 1833. Ceir llythyr oddiwrth yr awdwr at Ieuan Gwyllt yn y Cerddor am Mawrth 1870 parthed awdwr y don. Yn 1853 cyhoeddodd Peronaeth y Cyssegr" yn cynwys yn agos i 100 o Jonau, y rhan fwyaf yn wreiddiol, ac wedi >hyoy Seraph Cyntrit," casgliad o An- K;4betnaa, Salm-donau &c Mae iddo frawd a chwaer eto ar dir y ,ô£bai byw. Mae ei chwaer yn 87 oed, a'r gljrawd yn 89 mlwydd, ac yn iach ac ys- gafo ar ei droed. Aeth Thomas ac Eben Roberts a'r teuluoedd i'r America. Aeth "yr óJa yn 1873, pryd y prynodd Philip I ,F.rancis ganddo y ddau dy lie y triga yn awr, ac y mae yn iach ac yn myned oddi- amgylch heb gymorth neb, er ei fod yn ;f9 mlwydd oed. Yr oedd Joseph ei fab, .ae ysgrifenydd y llinellau hyn yn ffryndiau f^nawr, a bum lawer tro gydag ef yn cael te pan oedd yn byw yn Drefechan, yn yr ( hen dy lie dechreuodd v Bedyddwyr add- xAi gyntaf yn 1772. Yr oedd yn hoff iawn o gferddoriaeth, ac yn fachgen, gostynged- jg a hawddgar, ac yr oedd yn gallu chwareu ychydig ar yr harmonium. Caf- odd wersi gan y diweddar W Evans j (Alaw Mabon). Mab i Joseph Roberts -ydyw Organydd Fifth Avenue Baptist t Church, New York, lie mae Rockefeller, y dyn cyfoethocaf yn y byd yn aelod, ac Amryw eraill o filiwners yn aelodau ynddi, AC yoo mae Dr Aked (L'erpwl gynt) yn wetatdog. Mae yn organydd galtuog afrgfeyffredin mor bell ag wyf wedi darllen am dano, Mae cael bod yn organydd iriewn eglwys mor bwysig yn profi ei fod ya attuog. Mae tad ei dad a thad ei fam yn frodyr awdwr y don Alexander," felly mae ei dad a'i fam yn blant dau frawd. Mae Mr Ð Roberts, White Horse, yn fab i frawd arall, sef Evan Roberts. Clywais fod yr .iOrgaoydd ieuanc, Mr W M Roberts, yn ..clod i'r hen wlad am dro, ac y bydd iddo ifoddi Organ Recitals yma a thraWi, eithio y bydd iddo roddi y gyntaf ^iS trett figflwys y teulu, yn Penycae.. J OWEN JDLIL^
,;:I Cernyw yix O.D.
Cernyw yix O.D. Mae y radd o DdoctorrPuwinyddiaeth .0 Brifysgol Pella, Unol Dalaiethau America, ..edi ei roddi ar y Parch H Cernyw Williams, iCorwen. Nid oes neb yn Nghymru yn teil- yngtt yr anrhydedd yn fwy nag ef Heblaw ei fod yn Weinidog llwyddianus gyda'r Bed- yddwyr Cjmreig, ac wedi llanw Cadair tJndeb Bedyddwyr Cymru, mae Cernyw yn • an ofr rhai hyny sydd wedi cyfoethogi Ilen- yddiaeth ein gwlad. Mae yn fardd gwych, yn emynwr melus, yn lienor coeth, ac yn ssboniwr diogel ei fam. Hir fyddo'i oes i ifwytshau yr anrhydedd, ac i wasanaethu ei iSnwad a'i wlad.
¡B EI RNI AD A E P H CYFIEITHIADAU.
B EI RNI AD A E P H CYFIEITHIADAU. O'r Seisneg i'r Gvmraeg, rhan o Anerch- iad y diweddar Wir Anrhvdeddus W E Gladstone ar "N ationaliy," vn Eisteddfod Genedlaethol Gwrecs-un 1888 Gwor, 10/6. Beim:ad, Dr W Williams, H.I.I., Gwrecsam. Y mae yr ymgeiswyr yn y gystadleuaeth hon wedi eu dosbarthu fel y canlyn :— DOSBARTH III-Gwladgarwr, Sais. Cr m- well, Cardi, Gladstonian, Abiah. Un Hoff o'i Genedl, Ivor, Nationalist. -(Nid yw yr enwau yn ol safon y cyfieithiadau). Y mae yr ymgeiswyr yn y dosbarth yma wedi ceisio yn dda, ond ar y q fôD y maent we i syrthio yn fyr o osod allan rediad a chynwys y dernyn yn gywir a chlir. Heblaw hyn y mae y cyfieithu yn rhy "lythrenol." ac o ganlyniad y mae y Gymraeg weithiau yn glogyrnaidd ac anystwyth. Y mae rhai geiriau ac ymadroddion anghyffredin iawn yn llithro i mewn ar adegau, ac nid yw r oil o'r ymgeiswyr \n glir ynghylch y drefn o newid y cydseiniau. Y mae'n deb g fod yr ymgeiswyr yma vn ieuanc neu yn dech- reu dysgu Cymraeg Os felly, y mae eu hymdrechion yn ganmoladwy. Os cadwant i fyny y gwaith, ac yn neillduol os darllen- ant ddigon o Gymraeg da fel ac i fod yn alluog, nid yn unig i ddeall Cymraeg, ond befyc1 i fedd-wl yn Gymraeg, bvddant ar y ffordd i feistroli arddull a dullwedd yr iaith, ac i ysgrifenu Cymraeg grymus a gaf- aelgar. DOSBARTH II.—Brutus, Gwilym Lon, Sub Rosa, Meiridrys. Gwaith gweddol dela., ond yn addawol iawn. Y mae y cyfieith- iadau yn lied gywir, ond fod y Gymraeg yn atiyst %yth,gor mod o gyfieithu geiriau, ac yn ddiffygiol yn yr "arddull." DOSBARTH I.—4, Joseph o Walia, 3, Gwladgarwr, 2, Apolo, i, Arnold. Gwaith da a chanmoladwy,—yr ymadroddion yn gywir ac yn cadw at y "dullwedd" Gym- reig. Y mae gwaith Arnold yn dda, ei ym- adroddion yn ystwyth, a'r Gymraeg yn gafael. Y mae yn deilwng o'r wobr. Y mae gwaith y tri arall hefvd yn ganmol- adwy. DR WILLIAMS. Arnold oedd Mr E LI Price, Ysgolfeistr, Sir Fon (Rhos gynt). «
[No title]
O'r Gymraeg i'r Seisneg, Deffroad (0 M Edwards). Gwobr, 10/6. Beirniad, Dr W Williams, Gwrecsam. Ar y cyfan y mae yr ymgeiswyr wedi llwyddo i gyfleu ystyr y dernyn yn Bed gywir. Y prif ddiffyg yw cad", yn ormodol at lythyren y gwaith —cyfieithu yn or- modol yn ol geiriau, yr hyn sydd yn arwain ) i waith, anvstwyth, ac i- afddull anghywir. 1 Y mae y llawysgrif a'r sillebu yn weddol dda gvda'r oil o'r ymgeiswyr,—ac yn neill- duol dda gyda rhai o honynt. Saif yr ym. geiswyr fel y canlyn I DOSBARTH III.—Gamma, Guto, Joseph o Walia, Ceinwen, loan Rhys ap Rhjs DOSBARTH II.-Caradog, Cromwell, Cymraes, Leslie, Blodwen Y gwaith yn weddol dda, ond yn ddiffygiol mewn ys. twythder, a'r arddull yn ami yn glogyrn- aidd, a'r darlleniad felly yn aneffeithiol. DOSBARTH 1.-5, Vaughan, 4. Brthoo, 3, Un o Faelor, 2, Gwydion ap Don, i, Hawddamor! Cymru Fydd. Y gwaith yn dda, yn ystwyth, a darllenadwy ar y cyfan. Tra y mae y pump ymgeiswyr wedi gwneud gwaith da, y mae eiddo Hawddamor! Cym- ru Fydd yn rhagori, ac yn deilwng o'r wobr. DR WILLIAMS Mr G W Hughes, G. & L., Johnstown, oedd Handdamor! Cymru Fydd.
iDirywiad Cadwraeth y S&bboth.j…
rhyddid tua diwedd wythnos. Yr oedd pcbl yn llai dibynol ar wasanaeth creiydd- ol am y gallent feddwl drostynt eu hun- ain. Nid yr eglwys oedd yr uniff awdur- dod mewn crefydd, ac nid piegethwyr oedd yr unig athrawon mewn rnaterioo crefyddol. Collai yr Ysgol Sl ei gafael ar y bobl ieuainc. Eto credai y byddii i bob eglwys sydd deyrngaral, ac unedig^ Iwyddo. Ni wnai crefydd sere--nz)niot fas fyth adgenhedlu trigolion ein g viad.