Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

- RHOS.,

PONKEY.

PENYCAE.

GOHEBIAETH.

[No title]

MARWOLAETH Y PARCH 0. WALDO…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH Y PARCH 0. WALDO JAMES. Chwith gan luoedd o bob enwad a chylch yn Rhos oedd deall yr wythnos ddiweddaf, am farwolaeth yr enwog Dr i Waldo James, y gwr amryddawn fu yn j gweinidogaethu ar Eglwys Penue! mor j llwyddianus oddeutu ugain mlynedd yn i ol. Yr oedd yn wybyddus i laweroeud I nad oedd yn mwynhau yr iechyd goreu, ac iddo fod yn dioddet oddiwrth nychdod yn ystod y blynyddau diweddat, ond ni fedd- I yliai neb a'i clywodd oddeutu blwyddyn yn ol yn Nghwrdd Pregethu blynyddo! Penuel, nad cedd ond ychydig gwell na deuddeg mis cyn y rhoddid y wys iddo groesi ffiniau'r ddeufyd. Ganwyd ef yn Llanfachreth, Sir Fon, ar y 3ydd o Hydref, 1845. Hanai o deu- lu nodedig o ran eu gallu meddyliol. Brawd naturiol iddo oedd y pregethwr enwog gyda'r Annibynwyr, y Parch E James, Nefyn—"James, Nefyn fel yr adwaenid ef oreu. Pan oedd Waldo yn tSeg oed, egwyddorwyd ef yn fitter, a bu gyda'r gwaith hwn am oddeutu dwy flyn- edd. Derbyniodd ei addysg elfenpl yn Ysgol y pentref, Llanfachreth, a'i addysg grefyddol yn Ysgol Sul Capel y Bedydd- wyr, Pontyrarw, yn yr un capel a'r en- wogion Dr Hugh Jones, Llangollen, a Dr Rowlands, Llanelli. Gweinidog yr Eglwys y pryd hyn oedd yr esboniwr en- wog Mathetes, a than bregeth o'i eiddo ef ar foreu Sul y dychwelwyd Waldo ieu- anc pan yn 15eg oed. Y chydig fisoedd yn ddiweddarach, dechteuodd bregethu, a phan yn ioeg oed, yr oedd yn bregethwr cydnabydded- ig gan y Gymanfa. Derbyniwyd ef i Goleg Llangollen pan yn 17eg oed. Efe ydoedd un o'r efrydwyr cyntaf yno, a chafodd felly y fantais anmhrisiadwy o gael ei addysgu gan y Doctoriaid Pritch- ard a Jones, Wedi bod yno am dair blynedd, cafodd alwad gan Eglwys Heb- ron, Dowlais, ac ordeiniwyd ef yn wein- idog iddi pan yn 2oain oed. Yn ystod ei yrfa bu yn gweinidogaethu amryw o Eglwysi enwocaf yr enwad yn Nghymru a'r America, ac yn mhob un o honynt, arhosa prawfion eglur o'i ddi- wydrwydd mawr a'i allu. disglaer fel gweinidog a phregethwr Bydd y rhestr ganlynol yn ddyddorol fel yn dangos yr eglwysi y bu yn eu gwasanaethu yn ystod gyrfa o 45 mlynedd :—Hebron, Dowlais, 1865-7 2 Tabernacl, Merthyr, 187 2-78; Ebenezer, Aberavon, 1878-87 Kings- ton, U.S. A., 1887—90; Rhos, 1890-93 Blaenclydach, 1893-1900 Goruchwyliwr Forward Movement Undeb Bedyddwyr Cymru, 1900-5; Bethania, Porth, 19°5- 1910. Fel pregethwr, yr oedd y diweddar Ddr. yn feddianol ar ddoniau erthViadbl, ac yri ei dymhor ystyrid ef yn rheng flaenaf pregethwyr y gened!. Gellir dweyd am daho ei fod yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd, a ,pha le bynag y cyhoeddid ef, byddai y canoedd yn tyru i'w: wrando. Daliodd ei boblogrwydd hyd y diwedd. Yr oedd yn feddianol ar feddwl meistroiaidd, crebwyll cryf, ara- bedd rhaiadrol, medr mynegol, parabl parod, ac ymddangosiad enillgar. Rhodd- odd y cyfan dan dreth drom i wasanaeth Duw a dyn. Fel gwleidyddwr, yr ciedd yn rheng flaenaf areithwyr politicaiad. Byddai ei wasanaeth yn mhob etholiad yn cael ei geisio yn mhob cwr o'r wlad. Pan ar y llwyfan politicaidd, gollyngai yr awenau ar war ei hyawdledd, ac ysgubid ei wran- dawyr ymaith gan nerth y Hifeiriant. Yr oedd yn ddychryn iJw wrthwynebwyr, a gosodai arswyd ar doriaeth pa le bynag y siaradai. Bu ei wasanaeth hefyd yn y byd lien- | yddol yn anghredadwy. Llanwodd safleoedd fel beirniad ac ar- weinydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol amryw weithiau, heb son am ei lafur yn ngiyn ag eisteddfodau lleol. Bu am law- er o flynyddau yn Olygydd yr argraffiad o'r Herald Gymraeg a gyhoeddid dan yr enw Herald y De, yn Merthyr Tydfil. Ysgrifenodd lawer dan ffugenwau a'i enw priodol, i gylchgronau enwadol a chen- edlaethol. Dygodd allan lawer o bamph- ledau, heblaw y cyfrolau gorchestol a ad- nabyddir dan yr enwau Adnodau dyrus y Testament Newydd Lla7viyfr Cyfar- fodydd," ac amryw esboniadau ar adranau o'r Beibl. Fel darlithydd nid oedd neb y gelwid yn fwy am.ei wasanaeth, ac yn y maes hwn yr oedd ganddb doraeth o ddarlith- iau penigamp Ymwelodd a phob rhan o Gymru, a byddai yn sicr o adael argraff ddbfn ar ei gynulleidfa pa le bynag yr elai. Dyma ychydig o nifer fawr o ddar- lithiau, un o ba rai fyddai yn ddjgon i enwogi dyn Meindied pawb ei fusnes ei hun," Roger Williams, Apostol Rhyddid," "Pa Weithiwr y'ch chi?" Y Cwac Doctor," Spurgeon," Rob- erts, Llsvynhendy," "Yr Ysgol Sul." Er mai byr fu ei arhosiad yn Rhos, gwnaeth waith yr edrychir yn 01 arno gan lawer heddyw. Cofus fod Eglwys Penuel yr adeg hyn wedi ei hamddifadu o wein- idog- sefydlog e'rs rhai blynyddoedd, ac yn naturiol nid oedd yn y cyflwr mwyaf llewyrchus. Yn canfod hyn gwynebodd yr Eglwys yr amgylchiadau, a phender- fynodd ar y cwrs eithriadol o roddi gal- wad i'r enwcg Waldo James, yr hwn ar y pryd oedd yn Weinidog ar bglwys yn Unol Dalaethau yr America. Anfon- wyd cais yr eglwys ato, ac er llawenydd, i penderfynodd yntau ei dderbyn. Daeth i'r Rhos yn 1890, ac ar unwaith, taflodd ei hun i'r gwaith o ad-drefuu yr eglwys, ac adenill safle yr enwad yn v gvrndog- aeth. Ni fu Nnia otid ychydig cyu i'w ddylanwad nerthol g-ael ei de m!o mewn byd ac eglwys. L Ar y pryd yr oedd dyled o /"ijoo yn aros ar addoldy Penuel, ac wedi bud yn faich ar yr eglwys am ysba'd. Amlygodd benderfyniad fod yn rhaid clirio hyn, a chydaJr bwriad dygodd yn nilaen gynllun gododd y Rhos ar 01 hyny i enwogrwydd cenedlaethcl. Amlygodd gynllun newydd i glirio yr arian trwy ddechreu C,-t,gliad Miiwr. Ofnid y cwrs ar y dechreu, ond nid oedd ef am droi yn ol. Cyhorddodd | y peth rai misoedd cyn iddo ddi^wydd, a bu yr Ysgol Sul yn darbod ar ei gyfer. Pan ddaeth y dydd, ac yr offrymwyd yr hyn yr oeddynt wedi bod yn ddygn gynilo, cafwyd fod y swm anhvgoel y pryd hyny o ;tC300 wedi ei gasglu. Bu hyn yn des- tyn siarad yr ardal a'r cylchoedd, ac nid yn unig yn destyn siarad. ond rhoddodd gychwyniad mewn Ysgolion eraill i'w hefelychu, ac hyd yn oed i ragori ilawer ar y casgliad ardderchog hwn. Y pryd hyn yr oedd ysfa yn mhrif Eglwysi y Rhos am wychu ac adgyweirio eu capel- au. Wedi clirio y ddyled, ac yn anfodd- Ion i fod yn ol i'r gweddill, dygodd yn mlaen gynllun i roddi front newydd i Penuel. Gwelodd gario y cynllun allan yn llwyddianus. Nid gyda gwaith allanol yr Eglwys yn unig y bu yn ymroddgar. Taflodd ei hun a'j holl al!u i waith ysbrydol yr Eglwys. 0 bosibl mai tymor ei weinidogaeth ef oedd un o'r cyfnodou mwyaf blodeuog fu yn hanes yr Eglwys. Ychwanegodd rhif yr aelodau yn fawr, ac heblaw hyn cynyddodd y gynulleidfa yn ddirfawr. Yr oedd capel eang Penuel yn enwedig ar nos Sabbothau yn orlawn, a chadwodd y y gwres i fyny tra bu yma yn gweinidog- aethu. Gofid cyffredinol trwy'r ardal oedd ei ymddiswyddiad wedi dim ond tair blynedd o arosiad yma. Mae'r adgof am y blwyddi blodeuog hyny yn berarogl gan luoedd. Heblaw ei waith yn nglyn a'r Eglwys, gwasanaethodd yr ardat mewn cylchoedd politicaidd. Clywid ef yn fynych yn y cyfarfodydd gwleidyddol, a gynhelid yn Rhos, oeddynt y pryd hyny yn enwog yn mhell ac agos. Nid oedd neb yn y rhai hyn yn fwy parod nac yn fwy poblogaidd nag ef, ac yn ddieithriad berwai ei gynull- eidfa yn ngwresei hyawdledd. Bu hefyd yn aelod diwyd a blaenllaw ar Fwrdd Ysgol Ruabon, a gwnaeth ei ddylanwad yn deimladwy yno. Chwith gan lawer ydyw meddwl na chant glywed mwyach y liais melodus, na theimlo gwefr ei arabedd ai ddoniol- wch. Nid oedd ondcydrparol o ran oed- ran, fel y cyfrifir oedran y dyddiau hyn, a disgwylid llawer o flynyddoedd o wasan- aeth oddiwrtho eto. Ond fel arall y gwelodd Rhagluniaeth yn dda, a chymer- wyd ef ymaith yn anterth ei nerth pan yn 65 mlwydd oed. Gadawa weddw, dwy ferch, a dau fab ar ei ol, gyda'r rhai y mae cydymdeimlad cyffredinol trwy'r ar- dal.

Eisteddfod Genedlaethol Colwyn…

[No title]

Advertising

JBARDDONIAETH.

Commisiwn yr Eglwys Gymreig.

Dieuogi ar y Cyhoddiad o Lof,ruddiaeth.!

NODION. -0-

Advertising

[No title]