Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ABERMAW.

BANGOR.

BETHESDA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BETHESDA. DIOLCHG ARWCH.—Cadwyd dydd Mercher yn wyl diolchgarweh yn holl eglwysi a chapelau y cylch. Nos Fawrth, yng Ngianogwen, cafwyd gosper a phregcth gan y Parch D. T. Davies, Tyd- weiliog, ar Salm 119, 18. Bore Mercher, Cymun am 8; am 10.30, Cymun Yrngorawl. a Rheithor fydweihog yn pregethu oddiar Salm 63, 1; pryn- hawn pregeth Seisnig gan y Parch T. H. Hughes, Ffestiniog; it nos Fcrcher, gosper a phregeth gan Mr Hughes oddiar Salm 104, 34, pryd y datganodd y cor yr Halleluiah Chorus yn nodedig o effeithiol. MARWOLAETH MR WILLIAM HUGHES -Dydd Sadwrn bu farw William Hughes (saer maen), Quarry View Siores, cfc'n wr adnabyddus a chymeradwy fel adeiladvdd ym Methesda am gyfnod maith. Gedy ddau fab, y Mri J. W. Hughes, oedd gartrcf gyda'i dad, a Griffith W Hughes, Britannia House, Bangor, a merch, Mrs Thomas Roberts, Mostyn-terrace. Cymer yr ang- ladd le brynhawn yfory (Mawrth) yng Nghoet- mor. Yr ocdd W. Hughes yn weddw ers tua dwy flynedd. ARWERTHIANT.Dydd Sadwrn bu Mr R Arthur Jones, Ccnwy, yn cynnal arwerthiant yn y Clwb Unedig. Y lot gvntaf a gynhygiodd oedd Rhif 35, Water-street, Rachub, a adnabydair fel Bryn Gwenith, ond nis gwerthwyd. Ail lot, Rhif 12, Gordon-tcrrace, gyda phrydles o 55 mlynedd i redeg a lp o rent tir. GwertJIwyd i Mr Ellis Owen, masnachydd, am 150p 10s. Cynhygiodd wedi hynny y ty a fu gynt yn dy trwyddedol, sef y Blue Bell, ond ni chafwyd digon o gynnyg ac nis gwerthwyd. Cyfreithiwr yr arwerthiant yd- oedd Mr D. Griffith Davies. ARCHEBION GWEINYDDOL.—Ym Mangor, gerbron y Barnwr Moss, gwnaed caiis am archeb weinyddol ar ran Robert Roberts, North-road, Porth, De Cymru, gynt o Bethesda. Yr oedd ei holl ddyledion yn 48p. Ymddangosai Mr D. Grif- fith Davies, Bethesda, ar ran nifer o'i ofynwyr. Caniatawyd yr archeb, yr holl ddyled i'w thalu yn ol 12s 6c yn y mis. Yn yr un llys gwnaeth Mr D. Griffith Davies gais am archeb gyffelyb dros David Henry Owen, Tanrhiw, Tregarth. Go hiriwyd ystyriaeth pellach i'r cais hwn am fis. CYNGERDI) YR UNDEB GORAWL.—Dydd Sadwrn daeth y dydd hir-ddisgwyliedig i Undeb Corawl Jerusalem, dan arweiniad Mr R. D. Grif- fith, rl awelan, i roddi datganiad o'r gantawd gys- egredig, "Milwyr y Groca" (Valentine Hemery), a chafwyd perfformiad a gwlodd gerddorol i'w hir gofio. Yr oedd datganiad y cor o'r holl gyd- ganau yn ardderchog Cynorthwyid y cor gan gcrddorfa Bangor, a chymerwyd yr unawdau gan y cantorion hysbys:—Miss Beatrice Dew, A.R.C.M. Miss Dilys Jones, Llundain; Mr An- drew, Jones, R.A.M.; Mr Powell Edwards, R.A.M. Cafwyd gan y pedwarawd hyn berfform- iad campus, a bu gorfod iddynt ail ganu yn y rlian olaf o'r cvngerdd. Yr oedd trefn y cyfar- fod fel y canlyn:—"Rhv hir y cysgwch," Mr Powell Edwards a'r Cor; Rccit, ''Gwisgwch am danoch." aria, "Deuwch," Miss Beatrice Dew; air. "Fy Iesu, dysg fi roddi'm llaw," Mr Powell Edwards; chorus and solos, "Brysiwch, brys- ivvch," Mri Powell Edwards, Andrew Jones, a'r Cor; trio, "Yn hyn mae cariad," Misses A. M. Jones, A. Evans, a D. Davies; recit and solo, "Nertha fy mraich," Mr Andrew Jones; Proces- sional March, Orchestra a'r Organ; chorus, "Ffyrnig a gwylit yw'r ymladdfa," y Cor; solo and chorus, 'Tw anwyl rai tangnnfedd rydd," vJiss Dilys Jones a'r Cor; quartet, "'Nawr daetli ichawdwriaeth," Misses Beatrice Dew, Dilys Jones, Mri Andrew Jones, a Powell Edwards- chorus "Wele'r Hafan, wele'r Ardal," y Cor; duet "0 Fangre byfryd." Misses Beatrice Dew a Dilys Jones; chorus, "Ac 'nawr ein Duw ni," y Cor; quartet, "Ti Arglwydd wyt faddeugar," Misses Beatrice Dew, Dilys Jones, Mri Andrew Jones, a Powell Edwards; chorus, "Eiddot y Deyrnas," y Cor. Rhan II. Chanson Triste, Orchestra a'r Organ; song, "Farewell in the Desert" (Stephen Adams), Mr Andrew Jones; sorg, "The Bird and the Rose" (Elsie Horrock), Miss Beatrice Dew; violin solos (a) umoreske" (Dvorak), (b) 'Sou- venir (Drdla), Mr J. R. Whitcheacr; song, "Y Marchog" (Dr Parry), Mr Powell Edwards; song, •'Yr Huten Melyn" (trefniant Dr Lloyd Williams), Miss Dilys Jones; duet, "Watchman, what of the night," Mri Andrew Jones a Powell Edwards; "Hen Wlad fy Nhadau," Miss Dilys Jonc3. Yn absenoldeb y Parch W. R. Owen drwy afiecliyd Ilywyddwyd gan Mr Arthur Rhys Roberts, Llun- lnin, a chyfeilid gan Mr R. Griffith, organydd T"S"!om. CvflvYoiwvd v r],>'(", •' ••• Griffith Roberts, House, a thalwyd diolch rjrnnig- 1 ;„i5s i.u.s ,J0uCs .n parod. Llongyfarchwn y cor a'u harweinydd niedrus am ddarparu gwledd mor odidog i gynull- iad mor luosog.

FCETTWSYCOED.

CONWY.

. CRICCIETH.

CAERNARFON.

DYFFRYN NANTLLE A'R AMGYLCHOEDD.

FFESTINIOG.

LLANFAIRFECHAN.

--.--.----.LLANRWST.

PENMAENMAWR.

PENRHYNDEUDRAETH.

PORTHMADOG.

PWLLHELI.

Advertising