Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

I,LA\CLYi>\VK\T.I

Local M P's and the Licensing…

Pembrokeshire Light Railway.

AMBLESTON.

Y BEDYDDWYR. .-'

Marwolaeth Mr James John Dayies,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaeth Mr James John Dayies, Pantirion, Llangolman. Mae angau yn gweithio yn rymus iawn yn y cylchoedd yma y misoedd a'r dyddiau diweddaf hyn, ac wedi cymeryd ymaith rhai o'r goreuon. A ydyrn i ystyried wrth hyn fod yr Arglwydd yn eu cymeryd ymaith o flaen drygfyd, neu am eu bod yn add fed i fyw mewn gwlad well, ac i fod yn rhybudd i ninau y rhai sydd ar ol i fod yn barod Boreu dydd Llun, Mehefin 13eg, cym- merodd ymaith o'n plith y bachgen ieuanc gobeithiol, galluog, dysgedig a chrefyddol Mr James John Davies, yn 2j mlwycld oed. Cafodd ei dori i lawr pan yn barod i waith fel ysgol- I feistr, a'r dyfodol hapus fel yn ymagor o'i flaen. Dangosodd uchelgais a gallu neillduol i ddysgu pan yn blentyn,a phan oddeutu pymtheg mlwydd oed cyflogwyd ef gan Fwrdd Ysgol Llandissilio, yn ysgol Dolvelvet. Llwyddodd i fyn'd trwy ei arholiadau blynyddol gydag anrhydedd. Tair blynedd i mis Mawrth diweddaf safodd ei ar- holiacl terfynol am y Queen's Scholarship," a daeth allan y seithfed yn Nghymru mewn can- lyniad aeth i mewn i'r brif ysgol yn Nghaerdydd, a gwnaeth ymdrech i gynyddu mewn gwybod- aeth, ond torodd ei iechyd i lawr rhyw bedwar mis cyn i w amser derfynu. Ond yr oedd y fath ypryd a'r fath benderfyniad ynddo fel y safodd ei arholiadau, pan y dylai fod yn ei wely, a daeth allan y blaenaf yn ei ddosparth mewn rhai gwybodaethau. Yn y flwyddyn 1900 daeth allan y blaenaf yn arholiad Undeb Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Cymru," ac ennillodd amryw o wobrwyon mewn cyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau ar hyd y gymdogaeth. Daeth i fyny o dan yr anhawsderau mwyaf, a hyny trwy yr ymdrech a'r penderfyniad cadarnaf. Gwraig weddw oedd ei fam, ac efe oedd ei hunig fab, gydag un chwaer. Cafodd" le fel is- y athraw yn ysgol Trealaw, Morganwg, ond gorfu arno ei rhoddi i fyny. Bu am fisoedd lawer yn rhodio glanau yr lorddonen, a diau iddo ddewis ei fan i groesi. Gwelodd dynerweh mawr oddiar law ei gymydogion, yn enwedig Mrs Davies, Charring-Cross. Bu farw mewn llawn hyder ffydd yn lesu Grist. Cymerodd ei angladd le y dydd lau canlynol. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch W. Griffiths, Bethel, Mynachlogddu; yn njdiapel Llandilio gan y Parch J. J. Evans, Rhydwylim ac ar lan y bedd gan y Parch D. Williams, Llandilio. 'fad yr amddifaid a Barnwr^y gweddwon fyddo yn amddifEynfa i'w fam a'i chwaer yn eu hiraeth a'u galar trwm. CLLANWII.

CAPEL NEWYDD Y BEDYDDWYR YN…

_.------------LETTEKSTON

Advertising

Men's Cure Free

Advertising