Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CAPTAIN BARHAM'S CLAIM.

I The County Member.

MOYLGROVE.

Advertising

ER SERCHUS GOFFADWRIAETH

ETHOLIAD 1910.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETHOLIAD 1910. Hwre hen wlad y bryniau, Hwre hen Gymru gall, Gorchfygaist holl ystrywiau Dichellgar plant y fall Os cefaist rai ysmotiau Wrth ymladd dros y gwir, Sydd yn llychwino'th odreu- Cei newid cyn bo hir. Hwre mae'r faner fyny, Hwre i'n hoff Lloyd Sior, Hwre ca Ty'r Arglwyddi Ei gladdu yn y mor Bu yma am ganrifau Yn gwneyd cadwynau dur, I'w rhoi am draed a gvddfau Brodorion goreu'r tir. t Ffarwel i Dariff Tories, Ffarwel am drethu'r bwyd, Ffarwel i'r Hungry Forties A'r bara barlys llwvd Pan oedd fy nhad yn "gweithio Am ddernyn tair y dydd, Pwy garai weled eto Yr hen amseroedd prudd ? A'r meistr yn llogellu Ei ganoedd ar ei gefn Arferwn waith a gweddi Na ddelo hyn drachefn Cawn ddeddfau yn seiliedig Ar iawnder oesol Duw, Llywodraeth fawr Rhyddfrydig Rydd chwareu teg i fyw. Hwre Lloyd George a waedda Y miloedd dros y wlad, Hwre Lloyd George, fe haedda Gael coron o fawrhad Mae'n gweithio megis gwron 0 blaid y tlawd a'r gwan, Boed pawb fel Hur ac Aaron, Yn dal ei freichiau'r lan. Hwre, hwre fyddarol 0 blaid y gwron glew, Am roddi ergyd farwol I'r hen ruadwy lew Hwre medd coed a chreigydd, Hwre medd haul y nen, Hwrei'n hoff Gangheliydd, Hwte i Gymru wen. Trelettert. L. PHILLIPS.

The Welsh Language Society.

MAENCLOCHOG.

TREVINE.

Advertising