Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GLADSTONE A'l DDIRMYGWYR,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLADSTONE A'l DDIRMYGWYR, MAE rhai 0 Newyddiadurony deyrnas y dyddiau hyn yn ysgrifenu fod Mr. Gladstone yn eistedd- iad presenol y Senedd dan gwmwl, ac nid byeban y difyrwch a wna y Toriaid o hyny. We), gad- -ewch i hyny fod, y mae cwmwl dros wyneb yi haul weithiau; end haul ardderchog ydyw er hyny; ac y mae yn fil mwy gwasanaethgar i'r byd na'r Iluaws ser sydd yn ymwthio i'r golwg ar noson glir. Ond, beth atolwg, sydd yn peri fod Gladstone dan gwmwl ? A fradychodd efe y blaid i'r hon y mae efe yn arweinydd mor alluog P A drodd efe yn anffyddlon i achos rhyddid a hawliau y bobl ? A ymostyngodd efe at driciau iselw ael er mwyn cyrhaedd ei amcanion P 0 na, jdim o'r fath beth; ac ni buasai castiau fel yna yn un cwmwl arno yn ngolwg y bobl sydd yn son mwyaf ei fod dan gwmwl. Y dyn sydd yn diraddio ei huia drwy yr hall bethau Vila a fawr- ygir gan lawer yn y dyddiau hyn. Nid Glad- Stone sydd dan gwmwl, end Ty y Cyffredin sydd yn llawn o niwl tew, a tharth afiach, myglyd, aes peri nad yw cymeriad y gwladgarwr gonest- af a mwyaf anhunanol a fedd ein teyrnas yn cael «i barchu na'i werthfawrogi yn ddyladwy. Ond arhoswch am ychydig ac fe ddaw awel gref, iachusol, oddiar y farn gyhoedd i chwythu y tarth afiach fel y gwelir cymmeriadau yn eu lliw priodol. Ond i lafur Gladstone y mae Disraeli wedi myned gyda' r mesur presenol o Ddiwygiad Seneddol, a phe byddai y gronyn lleiaf o onest- rwydd gwleidyddol yn Disraeli, cydnabyddai hyny yn llawen; ond y mae ei awydd anghym- medrol am glod yn gyfryw fel na fyn roddi i eraill eu cyfran briodol. Ni ddanghosodd Syr Robert Peel mohono ei hun yn fwy ar un am- gyl-chiad nag yn ei waith yn cydnabod wrth ddwyn i mewn fesur Diddymiad Deddfau yr Yd, nad iddo ef yr oedd y clod yn ddyledus am addfedu meddyliau y wlad i'r mesur bwnw, ond yr enw a ddylai fod ac a fydd byth yn gysyllt- iedig ag ef, fydd enw Richard Cobden. Wrth gydnabod hawliau un arall yr oedd Syr Robert Peel yn dyrchafu ei hun. Ac ni allai Disraeli Wneyd dim i'w ddyrchafu ei hun yn fwy gyda'r mesur presenol na chydnabod yn onest nad iddo ef y mae wlad i ddiolch am dano. ond i'r gwron- iaid dewr, Gladstone, a Bright, a Russell, ac eraill sydd wedi cysegru blynyddoedd goreu eu hoes i r amcan, ac wedi llafurio am dano yn mhob dull mewn amser ac allan o amser. Oni buasai fod digon o anrhydedd yn Gladstone i roddi i fynu bob teimlad personol er mwyn cyr- haedd yr amcan, nis gallasai Disraeli hyth gario ei gynllun allan. 0 ran hyny yr ydym yn cam- gymmeryd wrth ddyweyd ei gynllun, oblegid nid ei gynllun ef ydyw. Mae y mesur yn ei Surf bresenol mor wahanol i'r hyn ydoedd pan y dygwyd ef ger bron y Ty, fel mai prin y tyb- iwn y buasai Disraeli ei hun yn ei adnabod oni ai ei fed wedi ei wylio yn ofalus. Diwygiwyd, .cwtogwyd, helaethwyd, daraiwyd, a cblytiwyd ,ef gynifer o weithiau fel nas gallai neb dybied paai yr un ydyw. Ac o ran hyny nid yr un ydyw chwaith; mesur y Senedd ydyw yn awr yn gwbl; a Mr. Gladstone a roddodd help ei jddylanwad i'w ddwyn i ben. Yr oedd cael mesur cyflawn o Ddiwygiad yn llawer mwy pwysig yn ei olwg ef na chael yr anrhydedd o gysylltu ei enw ag ef. Nid ei hunan yw ei nod, ond daioni ei wlad. Ac am ei fod mor rhyddfrydig ac anhunanol, fel ag i roddi ffordd yn barhaus, y diolch a ga hyd yn nod gan y blaid a wasanaetha, ydyw odliw iddo ei fod o dan gwmwl. 0! wlad anniolchgar i'th gymwynaswr goreu. Dan gwmwl yn wir. Nid oes digon o niwl a thywyllwch hyd yn nod yn Senedd Pry-dain i guddio o olwg y wlad ddysglaerdeb ei dalentau, a mawredd ei wasanaeth i'w genedl ac i'w oes, ac yr ydym yn disgwyl yn byderus pan y daw y senedd newydd yn nghyd yn gyn- rychioliad o farn a theimlad corff y boblogaeth y gwelir yn eglur mai Gladstone yw y dyn y myn Prydain fawr ei anrhydeddu. Mae y blaid oriaidd yn gwenieithio i'r bobl, mai hwynt- hwy a roddodd yr etholfraint iddynt, mewn go- baith y cant eu pleidleisiau pan ddaw adeg yr etholiad. Na chymervd y werin eu twyllo g dynt, nid oes gaaddynt un gronyn o gyd- ymdeimlad a u hachos ac ni wnaethant ddim enoed ond fel y gorfodid hwy er ysgafnhau eu a ^ddi iddynt eu hawliau. Mae b bi wedi dyfod yn raddo1 alIan 0 bIaid y 0 yn araf mae yn wir, ond yn sicr er hyny. Yll wahanol i'r rhan fwyaf o ddyn,on y mae yn dyfbd yn fwy rhyddfrydig fel y mae yn hen- eiddio. Dilyna argyhoeddiad ei feddwl i ba le bynag yr arweinir ef; ac y mae gwirionedd yn bwysicach na phlaid yn ei olwg. Gall y fath ddyn gael ei daflu weithiau i amgylchiadau nes ymddangos i anfantais, ond nis gall y cwmwl ei orchuddio yn hir. Daw gwir deilyngdod i enwogrwydd, a disgyna i lawr yn anfarwol i oesau dyfodol.

YSGRIF Y DARLITHIAU SABBATHOL.

SHEFFIELD AC UNDEBAU Y GWEITHWYR.