Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAR-WOLAETHAC YN LIVERPOOL.—Mae Dr. Trench, swvddog meddygol y dref, newydd gyflwyno ei adroddiad am yr haner blwyddyn diweddaf. Yn ystod y 26 wythnos cyntaf o'r flwyddyn 1867, cofrestrwyd 7,285 ofarwolaethau yn mwrdeisdref Liverpool. Yr oedd hyny yn gyfartrl i 29.5 ar gyfer pob 1000 o'r trigolion. Mae hyn yn dangos lleihad o'r nifer a fa farw yr un tymor yn y flwyddyn ddiweddaf o 2,825 ae o 1,141 o gymeryd cyfartaledd y deng mlyn- edd diweddaf. O'r holl farwolaethau yr oedd 3858 yn wrywaid, a 3427 yn fenywaid. Ach- oswyd y marwolaethau gan bob matn o afiechyd, —y frech goch—y Scarlatina—Typhus Fever a gwahanol ddoluTiau eraill. Ar y cyfan y mae iechyd y dref yn well nag arferol. CYNWYD, GER CORWEN.—Gorymdaith y "Band of Hope. Dydd Iau diweddaf, cawsom weled un o'r goiygfeydd harddaf ag a welsom erioed; sef gweled Oymdeithas Blodau'r Oes" Cynwyd C, yn myned yn orymdaith drefnus o Gynwyd i Gorwen. Pa flodau yn y byd mor hardded a phlant yn neillduol pan yn canu ac yn ymddwyn yn weddus, fel yr oedd Band of Hope, Cynwyd, ddydd Iau. Ar ol myned yn orymdaith i Gor- wen aethom gyda'r train i'r Rhyl. Ffurfiwyd yn orymdaith o'r orsaf ar y mor neu y lie yr oedd wedi bod cyn i ni fyued yno. Ar ol cyfarch y mor ac ysgwyd llaw a'i donau, a'i gymell i ddyfod yn ei ol tua Rhyl yn lie dianc, pan oedd ei ffrindiau yn talu ymweliad ag ef. Pan wybu'r mor mai nid meddwon oeddym, ond ei gyfeillion ef daeth yn ei ol yn y prydnawn i'n croesawu, a mawr oedd llawenydd y plant wrth ei weled yn dyfod. I aros iddo ddyfod yn ol. oblegid nid oedd ef am frysio dim ar ddymuniad plant y Band of Idope na neb arall; oblegyd y mae gan- ddo feistres lied exact y lleuad newydd. Aethom yn orymdaith i le cjfleus iawn oedd wedi ei ddarparu gan Mr. a Mrs. Williams, brodorion o Gynwyd, i wneyd chware teg a'r tea a'r bara brith. Wedi gorphen gwneud cyfiawnder a'r bwyd cyflwynwyd y diolchgarwch gwresocaf i Mr. a Mrs. Williams am en caredigrwydd digyff- elyb bron. Ar ol hyny, adroddwyd a chanwyd amryw ddarnau yn swynol iawn cyn ymadael o'r lie. Yr oedd rhif y gorymdeithwyr o 80 i 100. Ar ol mwynhau cymdeithas y mor am rai oriau dychwelodd pawb -vedi eu boddhau tuhwnt i'w disgwyliadau yn ol i Gynwyd i foddhau hun y gweithiwj.—loan Lleiuelyn BETHESDA.—Ohwarel y Cae, Damwain angettol. —Pel yr cedd William Parry, Ty'nymaes, yn dilyn ei alwedigaeth yn y chwarel uchod y 3ydd cyfisol, tarawyd ef gan ddarn o bren fel y syrrh- iodd y dyfnder o tua 18 llath, sef o un bone i'r lIall, a bu farw yn mhen ychydig funudau. Yr oedd yn aelod diwyd a ffyddlawn yn Bethel(T.C.) Ty'nymaes, ac yn hen wr parchus gan bawb a'i hadwaenai. Gadawodd blant a chyfeilllon i alaru ar ei oL—Llew Bethesda. CEINEWYDB.—Mae amser yn taflu ei gyso-od- o anghof dros yr hen bethau, ac yn ad-daliad o'r golled ddychymygol; mae yn dadleni pethau newyddion a;rhagorach i'r golwg. Yn ol yr hen amser gynt nid oedd y seiri llongau yma yn cael yr anrhydedd o gwblhau a cliyfaddasu llongau i farchog y weilgi ii bellafion gwledydd poethion ac oerion y byd. Ond yn awr cawsant y fraint 0 gopro y llong Ifor," Cadben M. Davies. Yn 01 y dull cyffredin oedd yma o'r blaeh, oeddid yn dewis myned a'r llongau i borthladdoedd y dywysogaeth o'r deyrnas i'w gwisgo ag efydd teneu a hoelion, ac hefyd a rhyw leni teneuon blewog geirwon er diddosi'r coed o dan yr efydd gwneir hyny yma 'nawr, ac yn ddiamheu yn rhagorach a mwy didwyll na pban y gwaith ar amod i estroniaid. Mae y cynllun i'w edmygu mewn llawer ystyr yn un peth yn ardderchog, am fod y llestr yn berffaith sych y fan y lie y gwneir neu'r hadgyweirir hi, yn lie ei gwthio eilwaith i'r dwfr; yn ol wedyn i le sych ar ol i'r dwfr i gttd ei hagenau (calkingJ i gyd, trwy hyny byddis yn claddu defnyddiau pwdrni yn esgyrn y llong, ac yn colledu yn ddirfawr fas- nachwyr a pherchenogion llongau. Ac hefyd mae yn ddiamheu fod y seiri yn y lie hwn yn cymeryd mwy o ofal i fod pob hoelen yn ei chael hi ar ei chlopa nes ei myned i'r dderwen yn ddidor, ond nid felly yr ammodwyr buanwaith sydd mewn lleoedd ereill.-Cyfaitl i'r TYST o YMREIG." GWALLGOFDY GOGLEDD CYMRU.—Diau fod gweithred a fyddo yu tueddu i leddfu poen a blinderau y trallodedig yn werth gan y TYST CYMB.EIG i dystiolaethu am dani i'w ddarllen- wyr yn gyffredinol. Gweithred o'r un. natur hono ydyw y gyngherdd a gynaliwyd: yn y lie uchod ar y 5ed cyfisol gan Dr. Marlcxmd Ms little Men. Bychan iawn ydywnifer luosocaf, am- rywiant o chwech hyd ddeuddeg mlwydd oed, ac ychydig o rai henach yn eu plith. Deallwn mai plant amddifaid ydynt. ac fod y Dr. arrhyw delerau yn eu dysguyngerddoriono'rradd orcu. Y maent ar daith gerddorol trwy brif drefydd y dywysogaeth, a deallwn eu bod yn dynod o'r poblogaidd yn sicr byddai yn werth i bob dyn a fyddo mewn cyfleustra fyned i'w gwrando. Cynaliwyd y gyngherdd yn y lie uchod mewn ystafell fawr sydd yn perthyn i'r ty. Tybiwn fod yno o dri chant i dri chant a haner o'r patients yno ar y pryd, a nifer o wahoddedigion. Credwn nad oedd dim yn taraw dicithi,ia:-d yn fwy na'r olwg drefnus ac agwedd syml y gynull- eidfa ar y pryd. Buom yno droiau o'r blaen mewn cyfarfodydd a chyngherddau o wahanol onide feallai jy buaswn yn disgwyl ymddygiadau gwahanol gan nifer ohonynt. Yrcddangosai'r patients oil mewn mewn hwyl yn gwrandaw; dangosent uchel gymeradwyaeth i'r oil a genid ac y chwa.reuent gyda'u hofferynau; ond bjrdd- ent weithiau yn tori allan mewn hwre fel taran- au o gymeradwyaeth. Treuliasom ddwy awr yn y modd mwyaf difyr. Ni welsom un cyfar- fod erioed yn ntio y gynulleidfa yn well na'r cyfarfod hwn, A diau fod swyddogion y lie yn haeddu canmoliaeth uchel am eu gofal parhaus- i gynlluniau gwahanol foddion er adloniad a difyrwch y trueiniaid hyny sydd o dan eu gofal. -Gohebgdd. YE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.- Cynhal- iwyd cyfarfodydd dylanwadol iawn yr wythnos- au o'r blaen yn Llanymddyfri, Llandeilo, Llan- elli, a manau eraill, er cefnogi a hwyl'iso gweithrediadau yr Eisteddfod Genedlaethol. Gobeithio nad yw y Pwyllgor yn myned i fwy o draul na ellir fyned trwyddo yn anrhydeddus, yr ydym yn dyweyd anrhydeddus, oblegid i'r Dryslwyn, Yr Hendy, Gwyn-ar-Daf, a Oastell- nedd; droi allan yn fethiant.-Togarmah. DAMWAIN AR Y REILFFORDD YN MANCHES- TER.- Wyth o bersonau wedi eu hanafu.-Boreu dydd Llun diweddaf, cymmerodd damwain le yn y Victoria Station, pan y cafodd pedwar o ddynion, a phedair o ferched eu hanafu. Ym- ddegys fod y gerbydres a adawodd Middleston ychydig wedi deg, yn nesau at yr orsaf, ac na adawyd iddi gwbl aros cyn dadgyssylltu y peir- iant wrth y Scotland Bridge, nes y rhedodd yn mlaen gyda chyflymder mawr, gan daraw yn erbyn wagen oedd yn ei llwybr, a pheri ysgyd- wad dirfawr, fel yr archollwyd y nifer a nodwyd. Cafwyd pob cymmhorth meddygol yn ddioed. Ni chafodd yr un o'r teithwyr niwed o bwys; ond yr hwn a ddioddefodd fwyaf oedd Francis Bramhall, o Miles Platting, ond ni ystyrir ef mewn ffordd beryglus. Dywed y Newspaper Press Directory am 1867, fod 1,294 o bapurau yn cael eu cyhoeddi yn y Deyrnas Gyfunol. Mae 458 yn Rhyddfrydig, 249 yn Geidwadol, a 587 yn ganolig. FRANKLIN A'R RKYFEL.—Yr oedd Franklin yn wrthwynebwr cryf i ryfel. "Pe byddai gwladwein- wyr," meddai, yn fwy cyfarwydd a chyfrifiaetlu byddai rhyfeloedd yn fwy anaml. Gallesid pwrcasu Canada oddi ar Ffraingc ag un rhan o ddeg o'r arian a wariodd Lloegr yn ei gorchfygiad a phe yn lie ymladd am awdurdocl i'n trethu y buasai iddi ein cadw mewn tymmer dda trwy ganiatau i ni reoli ein harian ein hun, a rhoddi o'i heiddo ei hun yn awr ac eilwaith rodd yn achlysurol at ein colegau, neu ein meddygdai, am dori camlesydd neu ddiogelu ein portliladdoedd, gallasai ) n hawdd dynu oddi wrthym drwy gyfraniadau gwirfoddol fwy nag a allasai byth drwy drethoedd. Rhydd pobl synhwyrol fwceded neu ddau o ddwfr i'r pump sych mewn trefn i gael ganddo ar ol hyny yr oil sydd arnynt ei eisiau. Ar ol cael hir achos i ystyried y ffolineb, a drygedd setyllfa o ryfel, a'r ychydig neu ddim a ennillir, hyd yn oed gan y cenhedloedd sydd wedi eu dwyn yn mlaen yn fwyaf Ilwyddiannus, yr wyf wedi bod yn barod i feddwl, na bit erioed, ac na bydd byth y fath bet/t a rltyfel dda, nett heddweh drwg. Ffolineb yw pob rhyfeloedd, treulfawr iawn, a drygionus iawn. Pa bryd yr argyhoeddir dynolryw o hyn, ac y cyt- tunant i derfynu eu hanhawsderau drwy gyflafar- eddau. Pe byddai iddynt ei wneyd trwy fwrw coel- bren, byddai yn well na thrwy ymladd y naill y llall. Yr ydym yn feunyddiol yn gwneyd diwygiadau mawrion mewn athroniaech naturiol, y mae un diwygiad y dymunwn ei weled mewn athroniaeth foesol—y darganfyddiad o gynllun a dueddai ac a rwymai genhedloedd i derfynu eu dadleuon, heb yn gyntaf dori gyddfau eu gilydd."

[No title]

CYFADDEFIAD o LOFRUDDIAETH…