Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

SEFYDLIAD Y PARCH. D. LL.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SEFYDLIAD Y PARCH. D. LL. JONES YN MANCHESTER. Nos Lun, Gorpli. laf, eynnaliwyd cyfarfod i gyd- nabod y Parch. D. Lloyd Jones, gynt o Ffestiniog, yn weinidog yr eglwys yn Gartside street. Yr oedd y capel yn orlawn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. M. D. Jones, Bala. Yna rhoddwyd anerchiad gan y cadeirydd, Wm. Morris, Ysw. Siaradodd am ei gyssyiltiad boreuol a'r egrlwys. Yr oedd ei rieni o'r deaddeg a'i ffurfiodd gyntaf, o ddetitu hanner can mlynedd yn ol. 01- rheiniodd ei hanes, a gwnaeth sylwadau addysgiad- ol a chysurol i ddynion cyffredin oedd yn aberthu yn riioddi o'u hennillion prin at achosion crefyddol. Amlygodd ei serch tuag at yr eglwys yn y lie fel hen gartref & rieniei fod yn teimlo yn gynhesach yn awr taag ati nag y gwnaeth er's llawer o flyn- yddoedd. Llongyfarchai y gweinidog a'r eglwys ar gyfrif yr tMideb oedd wedi cymmeryd lie rhyng. ddynt a chredai fod y brawdgarwch, yr undeb, a'r gweithgarwch, ag oeddynt yn ei feddu yn arwydd- ios gobeithiol am eu llwyddiant dyfodol. Galwyd ar y Parch. M. D. Jones i ddarllen llythyr cymmeradwyol Cymmanfa Meirion i Mr. Lloyd Jones a chwanegodd yr athraw parclius o'r Bala ei dystiolaeth ei hun am dano, fel myfyriwr, fel gweinidog, ac fel gweitknvr caled, di-ildio, a llwyddiannus. Yna daeth Mr. Ellis Pugh, diacon hynaf yr eglwys,. yn mlaen. Yr oedd yn dda ganddo glywed y tyst- iolaethau ucliel a glywsant oil i Mr. Joaes. Credai ei fod yn eu teilynga. Teimlai yn ralch focl yr eglwys wedi bad a'i llygaid megys yn ei phen i w ddewis, a'i bod wedi llwyddo i'w gael; ac nid yn ruiig i'w ddewis, ond am fod y iath unfrydedd a gwres- ogrwydd yn y dewisiacl. Dilynwyd ef gan Mr. James Thomas, city mission- ary, a phregethwr cynnorthwyol, yrhwn sydd wedi bod yn aelod ffyddlawn o'r eglwys hon am 25 o flynyddoedd. Yna galwyd ar y Parch. D. Lloyd Jones. A phan gyfododd i fyny, dechreuodd y dyrfa a cliuro dwy- law (a cliuro yn iawn a wnaeth) fel arwydd o groes- iiwiad iddo. Dywedodd fod y pethau ag oedd yn ou gweled ac yti eu clywed yn gwneuthur ei feddwl -i-t,ior gynnhyrfus, ac yn llethu cymmaint ar ei deiml- adau, fel nas gwyddai pa beth na pha fodd i siarad. Yr oedd meddwl ei fod yn uechreu ei weinidogaeth yn Manchester-yn cael ei amgylchu gan gynnull- Ily eidia mor liosog a pharchus, ac yn cael y fath groesawiad cynhes i'w plith, nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond gan rai o enwadau eraill, a hyny pan 11 gofiai pwy a pha beth ydoedd, yn peri iddo deimlo megisiun yn breuddwydio. Yr oedd yn llawen ganddo gael ei hunan yn eu plith. Dywedodd mai d amcan mawr a fyddai llwyddiant achos crefydd yn Gartside street, gyda'r Annibynwyr, ac yn mhlith ei gs dgenedl yn y ddinas. Teimlai ei fod wedi cynimer,) d cyfrifoldeb dirfawr arno ei hun, ac ni wyddai a oedd ganddo a'i cyfarfyddai; ond pwysai ar nerth yr Hollalluog, yr hwn oedd wedi ei gynnal, ei arwain, a'i lwyddo o'ifebyd hyd yn awr. iirfyniai am gydymdeimlad ei bobl, ac am i hyny gael ei ddangos mewn cariad at wirionedd, yn eu bymlyniad wrth rinwedd yn mhob ffurf, ac mewn gweddiau ar ei ran-y gweddiau hyny na fyddai neb ond yr Hollwybodol yn gwybacl am danyn-t. Eisteddodd i lawr yn ngtianol cymmeradwyaeth wresog y dorf. Galwyd yn nesaf ar David Morris, Ysw., brawd y cadeirydd. Yr oedd ei sylwadau ef, fel eiddo ei frawd, yn llawn o'r teimladau goreu tuag at yr cglwys a'r gweinidog newydd, ac yn dra chefnogol iddynt. Dilynwyd ef gan Mr. Peter Mostyn Williams. Dywedodd ei fod yn codi fel Cymro, fel Annibynwr, ac fel aelod o eglwys arall yn y dref, i roddi croes- aw calon i Mr, Junes. Teimlai hefyd y dylai lon- gyfarch eglwys Gartside street, am y dewisiad doeth a wnaethai. Bu y ddwy eglwys Annibynol yn Gartside street a Booth street yn hir heb wein- idog. Ymddangosai hyny, fe allai, yn chwithig i'w cymmydogion y Saeson, ac i'w cyfeillion yn Nghy- mru. Yr oedd yn anhawdd iawn cael gweinidog cymmhwys i eglwys Gymreig yn Lloegr. Er idd- ynt fod yn chwilio yn hir, gwelent nad oedd nifer y rhai adybideu bodyn symmudol, ond ychydigiawn. Braidd na thybient fod rhai dynion enwog a gwir deilwng yn ddiffygiol mewn rhyw elfenau hanfodol. Yr oedd yr eglwysi Cymreig yn nhrefydd Lloegr yn gyfansoddedig o wahanol ddefnyddiau, ac yn ann-hebyg iawn i eglwysi y Dywysogaeth. Deuai meibion a merched yma o wahanol ranau y wlad. Bydd gan bob un neillduolion mewn fflirf, ae iaith, ac arferiad. Gwaith anhawdd oedd eu cylymu ynghyd, ac ystyried eu bod yn dyfod i'r moddion o gwbl. Deuai dau ddosbarth o'r wlad i'r dref; y dosbarth difrifol a ddeuent yma er mwyn gwella eu! hunain, a'r dosbarth crwydrol nad oeddynt yn esmwyth yn un man., ac nad arhosent yn hir yn un lie. Gellid cael y mwyafrif o'r dosbarth cyntaf i] le o addoliad ond yr oedd yn anhawdd cael yr ail i sefyll gyda dim. Ymwasgarent ar hyd y dref, ac aent ar gyfrgoll. Gofynid, ynte, i'r gweinidog Cymreig yn Manchester i fod yn alluog i ddyfod a'r! holl ddefnyddiau anghydrywiol hyn i undeb achyd-j gordiad,—i fod yn weinidog da i lywodraethu y tculu gartref, ac i fod yn genhadwr da i fyned ar oj y rhai oedd ar wasgar,—i fod yn ddoeth ac yn awn 1-yu dyner ac yn benderfynol gyda y oedd dan ei ofal, ac etto fod ganddo ddigon o scl i fyued weitfoiau i heolydd y ddinas i gymmhell yr afradloniaid adref. Credai fod yr holl elfenau angenrheidiol yn cydgyfarfod yn Mr. Jones. Ei fod yn ysgolhaig ac yn fonheddwr,—yn bregethwr da, c yn weinidog iiyddlawn. wedi ei fedyddio a'r Ysbryd Glan ac a than. Gobeithiai y byddai iddynt J: wythau yn Booth street gael gweinidog tebyg yn i n an,—y byddai cydweithrediad calonog yn cym- meryd lie rhwng y ddwy eglwys, ac y byddai i Booth street a holl Gymry Manchester deimlo rhyw fudd oddi wrth weinidogaeth ei anwyl gyfaill, yn gystal a'r eglwys oedd o dan ei ofal. Galwyd yn nesaf ar y Parch. E Evans, Caernar- fon. Yr oedd gwefr yn myned oddi wrtho ef yn union, drwy yr holl gynnulleidfa. Cynghorodd yr eglwys i beidio a disgwyl am dalentau pawb yn ei gweinidog,-i beidio a'i ddisgwyl i'w tai bob dydd, -i beidio a disgwyl am wledd bob Sabbath,—i beicla a thaflu y cyfrifoldeb o achubJeneidiau i gyd ar eu gweinidog, ac i weddio yn ami a thaer drosto. Dilynwyd ef gan y Parch. J. Rawlinson, o Knott Mill Chapel. Yr oedd Dr. Parker wedi cael ei alw i pladdu, ac yr oedd Mr. Gwyther wedi ei gymmeryd yn bur wael, onide baasai y ddau yno. Anerchwyd y cyfarfod yn effeithiol iawn hefyd gan T. Parry, Ysw. y Parch. R. J. Derfel Mr. W. Simon, pregethwr Wesleyaidd Mr. Hugh Pugh Jones ac Ionawryn Ddu. Terfynwyd trwy weddi gan y gweinidog. Un o'r cyfarfodydd mwyaf dymunol a allesid ei fwynhau ydoedd. ¡

ARHOLIAD BLYNYDDOL COLEG CAER-…

0ROESAW I MR. LLOYD GARRISON.

YR YMERAWDWR MAXIMILIAN.

DYGWYDDIAD GOFIDUS.

EISTEDDFOD LLANELLI.

COLEG ABERHONDDU. !