Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lladdiad Maximilian yn Mexico sydd wedi taro holl Ewrop a syndod a gresyni y dyddiau diweddaf. Taenwyd y gair amryw weithiau o'r blaen ei fod wedi ei ddienyddio trwy greulondeb Juarez a'i swyddogion, ond ymddengys y peth yn awr uwchlaw amheuaeth, ac y mae gwahanol lysoedd Ewrop mewn galar. Syrthiodd trwy frad y Pen-catrawd Lopez, yr hwn a ystyrid bob amser o'r blaen yn ddyn o gryn ymddiried. Gorchymynodd agor y pyrth i'r gelynion ddod i mown, wedi mynu yn iawn 48,000 o ddoleri, pan yr oedd Maximilian yn cysgu yn dawel. Wedi iddo ddeffro, druan, deallodd fod rhywbeth an- aiferol wedi cymervd lie. Dilynodd y bradwr Lopez y gelynion, a chyfeiriodd at yr ymher- awdwr-" Dyna y dyn—deliwch ef." Modd bynag nid oedd y prif swyddog yn hoffi bradwr- iaeth nceth fel hyn, a gadawodd iddo ddiangc, a daliwyd ef wedi hyny, a dywedir iddo gael ei saethu ar foreu Mercher, y 19eg o Fehefin. Tybir yn gyffredinol y bydd i Austria a Ffrainc ddial ei waed ef, a hawlio ei gorph.-Y mae y Prif Lywydd Johnson a'i Weinyddiaeth yn dal i ymladd a'r Congress. Dechreuir o ddifrif enwi ymgeiswyr am y Brif Lywyddiaeth. Yr un mwyaf yn ffafr y wlad hyd eto yw y Cadfridog Grant, ond y mae amryw eraill yn sefyll yn uchel iawn, megis Wendell Phillips, y Prif- farnwr Chase, Horace Greeley, a'r Seneddwr Wade. Anesmwyth iawn yw pethau yn yr Yspaen, ac y mae pob arwyddion y bydd i wrth- ryfel dori allan yno cyn bo hir, er mai metbiant yw pob cynhwrf hyd eto. Ymddengys fod y cholera wedi tori allan mewn rhan o dalaeth Punjaub yn yr India. Bu 66 o un fyddin farw o bono.- Y mae y Milwriad Merewether wedi anfon y cynhyg olaf i'r Ymherawdwr Theodorus, i hawlio rhyddhad y caethion Prydeinig yn Abyssinia. Credir yn gyffredinol yr anfonir llu milwrol yno os metha y moddion hyn, ond y mae argoelion y bydd hyny yn rhy ddiweddar, am fod yr ymherawdwr yn ol y llythyr diweddaf oddiyno, yn ymddiglloni mwy yn erbyn yr Bwropeaid, ac y mae wedi rhoi gorchymyn i ladd 200 o'i benaethiaid, ac ofnir y daw yr un dynged i ran y Prydeinwyr.

IBEDDARGRAFF TAD A MAM HWFA…

B'LE 'R WYT TI?

ENGLYNION

ENGLYN

itytion.

[No title]

CYMANFA DINBYCH A FFLINT.

[No title]

MARCHNAD LIVERPOOL.

[No title]

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

FFEIRIAU CYMRU.

Y GOGLEDD.

Family Notices

¿\dolygind a ng.