Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CHWARELAU CYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWARELAU CYMRU. CYMRIJ dlawd! meddynt. 0 ba le tybed y « ae^ V syniad ? Pe dywedasid y Oymry tlodion, gallasem ddeall hvny, oblegid y mao estroniaid ysglyfaetligai' wedi dyfod drosodd i'n gwlad i fwytta ei brasder, a mwynhau ei hufen, a throi yr hen genedl yn weision iddynt-yn gymyn- Wyr coed ac yn wehynwyr dwfr." Ond am Gymru fel gwlad, nid oes un darn o Ynys Prydain yn ol ei maint yn gyfoethocach ei had- noddau; a hinyy mae y Saeson wedi ddeall, ac am ba achos heidiant yma yn finieioedd er cael gafaelar ei thrysorau cuddedig. Gwlad fynydd- ig ydyw Cyn-iru giii mwyaf. I'r mynydd-dir yr ymlidiwyd ni wedi i'r Saeson fyned a'n dyffryn- oedd breision oddiarnom. Ni fynem i neb dyb- ied nad oes yn Nghymru ond "mynyddoedd uchel i'r geifr, a chreigiau i'r cwningod." Mae genym ein dyffrynoedd tlysion, ein broydd ffrwythlon, lie y tyf ygwenith ardderchog a'r taidd nodedig. Pwy erioed wrth deithio Gog- ledd CymTIl na thynwyd ei sylw gan brydferth- ion dyffrynoedd Llangollen, Llanrwst, a Maen- twrog, heb son am Ddyffryn Clwyd a orwedda yn dawel a'i ben ar droed y mynydd, ac a estyna ei araect 1'r mor ? Pwy byth a ddymunai ffrwyth- ei araoa l r mor ? Pwy bytb a ddymunai ffrwyth- lonacb tir i'w amaethu nac Ynys Mon, ochrau trwyn Lleyn, a gwaelodion Maldwyn? Ac os trwy y De y teithir, bydd dolydd glwysion glanau yr Wysg, y Tawy, y Towy, a'r Teifi, yn sicr o dynu eu sylw, heb son am fro fras Mor- ganwg, a elwir yn briodol "Gardd Cymru." Y mae yn Nghymru leoedd hyfryd ac etifeddiaeth- au teg. Ond cyfoeth mewnol Cymru, ac nid ei harwynebedd, sydd yn gosod y gwerth mwyaf arni. Mae yn ei chelloedd hi aur, ac arian, a meini gwerthfawr"; ac y mae yn foddlawn eurhoddi i 1 neb sydd yn do all ei ffordd. Bu ein hynaf- iaid am oesau yn byw wrth ei drws bi, yn sathru ei chyfoetb hi dan eu traed; ond heb allu myned i mewn o ddiffyg ei weled, a gweled yr agoriad oedd i agor ei chloion. Rhydd y cwbl o'i Haw yn ddiddig i'r neb sydd yn deall ei ffordd. Priododd gwr ieuanc unwaith wraig oedd gryn lawer yn henach nag ef; ac o dymher gas ac afrywiog, fel y digwydda yn ami i'r hen chwiorydd sydd wedi sefyll yn lied hir. Yr oedd ganddi gryn lawer o gyfoeth, a bu ei chyfoeth yn demtasiwn gref i lawer end fod ofn ei thymer yn gryfach. Ond gwnaeth y gwr ieuanc y prawf er gwell ac er gwaeth. Yn ffodus trodd pob peth allan er gwell, ac wrth' ei weled yn byw mor hapus anturiodd un hen gyfaill ofyn iddo pa fodd yr oedd yn gallu byw gyda hi; "0 yn burion, ebe yntau, o'i phri- odi penderfynais y mynwn ddeall ei ffordd hi, ac wedi deall hyny yr wyf yn gwneyd ytrburion a hi." Hen lances gyfoethog ydyw Cymru, ond oblegid nad oedd ein tadau yn deall ei ffordd hi buont yma am oesau heb gael fawr ganddi a'r ychydig a roddai, dan duchan a chwyno y byddai hyny. Ond daeth Saeson o Loegr clrosodd i garu yr hen lances er mwyn ei harian-penàerfyn- asant y mynent ddeall ei ffordd hi, ac y maent yn cael y peth a fynont ganddi. Mae wedi taflu ei hagoriadau i'w dwylaw, ac y maent hwythau yn agor ei chelloedd, ac yn cael gafael yn ei thrysorau. Yn Morganwg a Mynwy galwant yr haiarn a'r glo o'u gwely i wasanaethu arnynt. Yn siroedd Aberteifi, a Maldwyn, a Dinbych, a I flint, dygant blwm, ac arian, a glo, allan i oleuni; ac yn chwarelau mawrion Arfon a Meirion "dymchwelant fynyddoeddp'rgwraidd" i chwyddo eu cyfoetb ac i lenwi eu tryserau. Nid oes un gangen o fasnach wedi myned An mlaen mor gyson, rheolaidd, ac enillfawr yn ein I gwlad am y pymtheg mlynedd diweddaf, a mas- nach y llechi,, Mae gwerth miliwn a haner o bunau o lechi ar gyfartaledcl wedi eu hanfon allan 0 chwarelau Cymru am y pum mlynedd nxwoddaf. Nid oes genym wrth law gyfrif o bob un o'r cloddfeydd ar ei phen ei hun; cadwn sylw manwl ar y pefchau hyn, & cha gweithwyr y chwarelau fantais ein gwybodaeth oblegid i ddeall. eu hawliau yn gystal a chyflawni eu dy- iedswyddau goreu po fwyaf gwybodus y byddo gweithwyr yn gystal a nieistriaid yn marchnad y llwycldausydd yn ffrwyth eu llafur. Tywys- oges yr holl chwarelau yn ddiamheu ydyw Chwarel y Penrhyn—Chwarel Cae Braich y Cafn, dyna yr hen en-w Cymrei,iieu yn ol yr iaith gyffredin, y Chwarel Fawr. A. mawr mewn gwirionedd ydyw. Mae yn un o'r pethau y mae ymwelwyr o Loegr yn awyddus am ei gweled wrth grwjdro mynyddauArfon., Nid yxlym yn m ih'y« 1 d Ti ,4. y ,«j(U £ i)»rr T«?r y j 111 bwriadu rhoddi ein barn ar werth cydmarol llechi y gwahanol gloddfeydd, ond yr ydym yn cry- bwyll fel hyn am;'(^jj: elpyarel fawr," am mai hi -y-w y.fwyaf, ac,o,§„ nad ydym yn camsyniad yr hynaf o'r chwarelau o un pwys. Darganfycld- wycl gwasanaeth llechi Sir Gaerynarfon mor foreu a dydcliao. y frenhines Elizabeth ond nid yn-iddengys fed ond ychydigwedi el wneyd o honynt cyn decbreuad y ganrif ddiweddaf. Merch ieuanc o'r enw Elizabeth Griffiths aeth a'r llwyth cyntaf o lecbi o chwarel Cae Braich y Cafn i borfchlackl Bangor ar gefn joerlyn. Mor ddiweddar a^r. flwyddj^n i'772 nid oedd boll elw clir y chwarel fawr yn ddim ond £40 y flwyddyn, pan y dywedir ei. bod yn awr bob blwyddyn yn dwyn i'r perchenog y swm tywys- ogaidd y £ 120,000. Ac nid yw wedi chwyddo elw y perchenog heb wella amgylchiadau y bobl. Mae o gylch 14,000 o ddyniou yn gweithio yn chwarelau Cymru, heblaw y mil- oedd yn ychwanegol sydd yn gweithio ar y reilttyrdd, ac yn llwytho llongau yn y porth- laddoedd. Cyfrifir nad oes dim llai na 600,000 o dunelli o lechi yn myned i'r farchnad bob blwyddyn, yr hyn yn ol S2 10s. y dunell, a wha y swm o £ 1.500,000, fel y nodwyd. Mae mwy o'r elfen Gymreig yn y cloddfeydd nag a geir mewn un gangen arall o fwnydd- iaeth ein gwlad. Y Gwyddelod sydd fel pla yn heintio y gweithfeydc1 glo a haiarn; y Saeson sydd wedi ymwthio i'r gweithfeydd plwm; ond y mae y Cymry wedi cadw y clocldfeydd llechi yn hollol iddynt eu bunain. Nid gwiw i Wyddel ddangos ei wyneb ynddynt; ac nid oes groesaw ychwaith i'r Sais. Mae y stiwardiaid trwy y chwarelau agos oil yn Gymry, a chan m-wyaf wedi eu codi o fysg y gweithwyr, ac folly yn deall y gwaith yn ymarferol. Nid oes dim yn fwy annyoddefol gan weithwyr na bod dyeithriaid ainvybodus yn awdurdodi arnynt. Dyma un achos o'r gwrtbdarawiad mynych rhwng y gweithwyr a'r stiwardiaid; dyeithriaid i'w gil- ydd ydynt, heb ddim cydymdeimlad rhyngddynt. Ond y mae chwarehvyr Cymrll wedi ysgoi hyn i raddau dymunol iawn ac yr ydym yn priodoli hyn i raddau mawr i'r teimlad da sydd yn ffynu rhwng y gweithwyr a'r arolygwyr ac yr ydym yn dymuno hir barhad y teimlad hwn. Bydd genym ragor i'w ddyweyd am chwarelwyr Oym- ru. yn ein rhifynau dyfodol.

"I :.UN;DEBAU'R GWEITHWYE…

AWGRYMIADAU I WEITHWYR OYMREIG.

ANDREW JOHNSON YN LLOEGR NEWYDD.…