Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

TELE RATI AM HYSBYSIADAU.

HELBULON GOLYGWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELBULON GOLYGWYR. DRUAIN o Olygwyr newyddiaduron, tru- anaf 'o'r holl ddynion ydynt hwy. Dibyna eu bywyd a'u bodoliaeth olygyddol ar y ffafr a gaffont yn ngolwg y werin, ac nid bendith mor hawdd i'w henill ar IFordd wir anrhyd- eddus bob amser yw hono ac nid anhawdd yw ei cholli o'r tu arall ar ol ei chael. Yn o gyffredin yn Nghymru, ac yn Lloegr hefyd, dyrchefir newyddiadur i'r cymylau gan lawer ar ei ymddangosiad cyntaf, tra bydd eraill yn cilwgu ac yn chwyrnu arno: Y mae genym yn Nghymru beth bynag luaws o gyfeilion na thai newyddiadur ddim gan- ddynt, os na wneir pob peth yn ol eu meddwl hwy, mynant fod yn Archolygwyr arno, yn enwedig ar ei golofnau Gohebiaethol os croesir hwy, y papur gwaelaf dan y nef fydd y papur, a gwnant a allant hwy i dori ei nodweddiad, Hadd ei ddylanwad, ac atal ei gylchdaeniad. Er nad yw y TYST ond ieuanc iawn eto, dim rhagor na mis oed, y mae yn ystyried ac yn deall ei fod wedi dyfod i fyd profedig- aethus.-bod llygaid eiddigus yn ei wylio. Profodd eisipes fod gwahanol feddyliau a barnau am dano yn y wlad, oddiwrth a fyn- egwyd yn ei glust gan hwn a'r llall. Cychwyn da ragorol,' medd un, ewch yn mlaen fel yna, a'r TYST a fydd pia hi.' Nid yw eich TYST yn deilwng o'r enw newydd- iadur, hyd yma,' medd yr ail. Y 'mae yn bur dda, ond yn rhy grefyddol,' medd y try- dydd. Gofalweh am gadw digon o yspryd a thon grefyddol ynddo,' medd y pedwerydd. Gadewch i ni gael ambell i novel ddyddorol ynddo,' medd y pumed. Peidiwch byth a dodi un math o novel ynddo,' medd y chweched. I Di-on o hanesion cyffredin, a llai ddengwaith o hanes Eisteddfodau, Cyf- arfodydd Lleoyddol, a chyflwyno Tystebau, &c. medd y seithfed. Gadewch i ni gael adroddiad cyflawn heb dalfyru dim arno o hanes pob Eisteddfod a Chyfarlod Llenydd- ol," medd yr wythfed. 'Rhowch ddigon o snuff ynddo beth bynag,' medd y nawfed. Gofalwch am erthyglau byrion, gwreiddiol, a chryfion,' medd y degfed. Wel, ddarllen- wyr, mewn difrif, beth meddech chwi eich hunain am danoch eich hunain ? Ai dichon- adwy eich boddloni oil, debygech chwi ? Hyd y deallasom ni ysbryd y byd llenyddol, teulu y snuff ydyw y dosbarth lluosocaf ynddo. Ni waeth tewi son, y mae y snuff yn boblogaidd i ryfeddu. Os caiff y dosbarth lluosog hwn ddigon osnutJ mewn newydd- iadur, i beri iddynt disian wrth ei darllen, pob peth yn dda: rhaid iddynt gael snuff yn y bregeth hefyd cyn y bydd hi yn iawn. Y mae Daily Telegraph yn fwy poblogaidd nac un newyddiadur dyddiol arall yn Lloegr, am fod mwy o snuff ynddo. Un elfen yn mawr boblogrwydd Spurgeon ydyw fod snuff yn ei bregethau. Wel, ydyw, y mae ambell i binsied o snuff yn burion yn ei le ac y mae tisian tipyn weithiau yn ysgafnhad ac adnewyddiad i natur ond ni ellir byw ar snuff, cofier a thisian llawer fyddai'n flin- der i'r cnawd. Rhaid meddwl am wneyd rhywbeth heblaw snuffian a thisian. A phe na byddai newyddiadur yn cynwys dim ond snuff, nid hir y byddai y rhai sydd hofFaf o snuff, heb laru arno. Heblaw hyny, cofied y snufftakers, bod dosbarth arall o bobl yn bod, nad oes dim a fynont a snuff fodd yn y byd, yn ystyr lythyrenol na llenyddol y gair, teimlant eich bod yu eu sarhau os cynnyg- iwch ef iddynt a rhaid gofalu am danynt hwythau hefyd. Ymdrechwch gyd-ddwyn eich gilydd. ac a ninau, ddarllenwyr caredig, a gwnawn ninau ein goreu i'ch gwasanaethu chwithau, ac yn mysg pethau eraill, gcfalwn am gymaint o snuff, ac a farnom yn ddoeth ar les y TYST, ac yn fuddiol i chwithau.

METHIANT RHEILFFYRDD.

"> • •• C CYKROL 0 BREGKT1IAU.;'

." CYMANFA BEDAIR-SIROL DEHEUDIR…

Advertising

JTIN TELE RATI A'N DOSBARTHWYR.

AT EIN GOHEBWYR.

I. t ythuø . -.J