Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

.,YR HEN DEILIWR.

,,CYEARFOD YSGOL YN ARFON.

AT OLYGWYii Y TYST CYMREIG.'

PORTHMADOG A'R CYFFINlAU.

AT OLYGWYR Y "TYST CYMREIG."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT OLYGWYR Y "TYST CYMREIG." Foneddigion,—Hawdclsmor i'r TYST CYMREIG Y mae yr olwg siriol sydd ar ei wynebpryd yn peri i mi goelio y derbynir ef yn groesawgar gan filoedd Cymru. Bydd gancldo gan hyny fantais i argraffu ei syniadau ae arwain meddyliau corff y genedi Gymreig. Wrth gwrs y mae genyf bob hyder y bydd golygiadau gwleidyddol, cymdeithasol, a chre- fyddol Y TYST yn gyfryw ag a'i gesyd yn deilwng i fod yn arweinydd ar bob cwestiwn o bwys sydd yn debyg o ddyfod i sylw. Nid oes dim yn sicrach na bod chwyldroad cyffred- inol ar gymeryd lie yn amgylchiadau pethau yn ein plith. Bydd y Reform Bill sydd weithian ar gael ei gario drwy y Senedd yn sicr o newic1 sefyllfa gwahanol bartion gwleidyddol i raddau mawr. Y mae dyddiau teyrnasiad Toriaeth ar ben, ac nid yn rhy fuan. Bu gormes y Tirfeddianwyr yn pwyso yn drwm ar amaethwyr y Dywysog'aeth. Gwelid ein hamaethwyr mewn llawer plwyf a chwm yn cael eu gym i'r poll yn yroedd o tlaen y steward. Yr oedd llais y bobl yn cael ei ddystewi, a'u hiawn- derau mwyaf cyssegredig yn cael eu sarnu o -dait draed gormeswyr Toriaidd y tir. Nid ydwyf yn meddwl y bydd Reform Bill y senecld-dynal-ior pre- senol yn gosod terfyn ar ormes Toriaeth mewn. gwlad a thref. Ond digon tebyg y bycld yn cymer- yd ffurf wahanol bellach. Ymddengys 0 hyn allan mai y wedd a wisgir gan Doriaeth fydd gosod ei gwyneb yn erbyn ymneillduaeth y genedl. Y frwydr fawr sydd o flaen Cymru fydd cydraddoliaeth grefyddol—Eglwysyddiaeth yn erbyn Ymneillduaeth y genedl Gymreig. Y mae corff y genedi Gymreig yn Ymneillduwyr, a thrueni na. byddai ganddi ei chynrychiolwyr yn y Senedd. Hyd yma gellir yn briodol galw yr aelodau seneddol a anfonir o Gymru yn gynrychiolWyr y game; y pheasants a'r petris, yr ysgyfarnogocl a'r cwningod, &c.. Yn wir, y game sydd yn cael eu cyn-. rychioli gan yr M.P.s Cymreig. Bydd pethaAi yn newid. Mae corff y genedl yn dechreu dadebru ac ymysgwyd o'r llwch, a bydd raid i Ymneillduaeth Cymru gael ei chydnabod, ac i'w hawliau gael ei hanrhydeddu. Yr wyf yn tybio y gwelaf eiliw gwan' o'r frwydr sydd o flaen y genedl. Yr wyf wedi gweled fy hun, ac wedi clywed gan eraill am amgylchiadau sydd yn dangos fod y rhy- felgyrch newydcl y cyfeiriais ati yn dechreu eisioes. Y mae rhai o'r tylwyth Toriaidd weithiau yn gwrthod Ymneillduwyr yn denantiaid iddynt, ac Yil bygwth troi eu hen denantiaid o'u tai a'u tiroedd, oddieithr iddynt fyned i'r eglwys sefydledig i addoli. Y mae eraill dracbefn yn nacau rhoddi gwaith i neb oddieithr ei fod yn arfer addoli 0 fewn muriau yr eglwys lan. Yn awr, dytna yr helynt yr wyi fi yn tybied sydd yn aros Cymru ynmeiilduol. Ond y mae yn ormod o'r dydd i hyn yma hefyd.— Y mae yn rhaid i Doriaeth yn mhob ffurf roi fforcld. Y mae dyddiau uwchafiaeth yr eglwys esgobol fel sect grefyddol yn ngolwg y gyfraith wecli eu rhifo. Y mae cryn lawer o stwr yn cael ei wneud 0 barthed i'r eglwys yn yr Iwerddon. Dywedir nad yw yr eglwys sefydledig yno ond eglwys y lleiaftif, ac na ddylai gael ei chydnabocl mewn uwchafiaeth yn ngolwg y gyfraith yn erbyn y mwyafrif. Eithaf teg! ond os ydyw fal hyn yn yr Iwerddon, y mae felly hefyd yn Nghymru. Ac es dileir yr,-eglwys. sefydledig fel y cyfryw yn yr Ynys Werdcl, y mae yn rhaid gwneud hyny hefyd yn N ghymru. Cyd- raddoliaeth raid fod arwyddair y genedl mewn mater o grefydd, ac nid yw i'w newid hyd nes y dygir eu barn i fuddugoliaeth. Y mae yn dda genyf ddeall y bydd Y TYST yn siarad yn ddifloesgni am y peth hwn. Dymunwyf lwyddiant mawr iddo, ac i'r egwyddorion a ddadleua. YMNSILLDUWE.

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK"…