Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

.,YR HEN DEILIWR.

,,CYEARFOD YSGOL YN ARFON.

AT OLYGWYii Y TYST CYMREIG.'

PORTHMADOG A'R CYFFINlAU.

AT OLYGWYR Y "TYST CYMREIG."

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK"…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK" HADWR O'R INDIA, CRYBWYLLASOM o'r blaen fod ein cydwladwr Mr. Jones wedi dyfod drosodd fir ymweliad a'r wlad hon er gweled ei gyfeillion, ac adnewyddu ei iechyd. Bu Mr. Jones yn Nghymanfaoedd Maldwyn, a Dinbych, a Fflint, fel cynrychiolwr gydag eraill dros y Gymdeithas Genhadol. Dydd Mercher diweddaf hwyliodd i'r America, er gweled ei dad a'i berthynasau,i disgwyl.l,,t fod yn ol tua chanol mis Medi. Mae Oyfarwyddwyr y Gymdeithas wedi cynllunio iddo ymweled a'r rhan fwyaf 0 Gymru 0 hyn i ganol yr haf nesaf, cyn ei ddychweliad i faes ei lafur yn India. Treuliodcl y Sabba-th wythnos i'r diweddaf yn Liverpool, ac oddiwrth yr hyn a wrandawsom. yr ydym yn teimlo yn hyderus y bydd ei ymweliad ag eglwysi Cymru, yn foddion i ddyfnhau eu teimlad o blaid yr achos cenhadol. Yn ei sylwadau yn un o'r oedfaon ar sefyllfa India, dywedai fod yr India yn gyffelyb i ddyff- ryn yr esgyrn sychion a ddisgrifir gan. y pro- phwyd Ezeciel. Ehcmgder y dyffryn, oedd y peth cyncafo Tybir gan lawer mai rhyw wiad gyffelyb i hon ydyw yr India, ond dylid cofio ei bod mewn gwirionedd yn gymaint ddeg 0 weithiau a'r oil o Ynys Prydain, ac yn gymaint a holl deyrnasoedd. Ewrop gyda'u gilydd, os gadewir allan Ewssia. Mor eang ydyw, fel nad ystyrir taith o bedwar neu bum' cant o filltiroedd ond ychyclig beth gan y rhai sydd wedi bod yno am rai blynyddau. Y mae rhai o'i hafonydd yn fwy na phe casglid holl afonydd y wlad hon i gyd at eu gilydd i wneud un afon. Ac y mae ei dyffrynoedd mor eang fel y byddai un o honynt yn deyrnas fawr ar ei ben ei hun. Lluaws y trigolion. Fel yn y dyffryn yr oedd yno lawer iawn o esgyrn, felly yr India y mae y boblogaeth yn anferth. Mewn cydmariaeth i Ynys Prydain y mae yno ddeg waith gymaint o bobl ag sydd yn hon. Nid ydynt lawer dan ddau can' miliwn. Y mae siarad am gant neu ddau o filiwnau yn hawdd, ond nid hawdd ydyw dirnad beth a feddylir wrth hyny. Y ffordd oreu ydyw treio tramwy mewn dychymig o am- gylch ogylch ei dinasoedd mawrion, ac ym- drechu gweled y torfeydd a ymlwybrant yma a thraw drwyddynt. r "IS