Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

CYFLWYNXAD TYSTEB Y PARCH.…

dntMghut y ntig. ■i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

dntMghut y ntig. ABERTII MOLIAKT Debholion o Salman ac Emynau at ivasanaeth addoliad cynnnlleidfaol, dan arolygiaeth y PARCH. WILLIAM REES, LIVEKPOOL. Argraplnvyd gan Isaac Foulkes, 1867. Yr hwn a abertlio foliant a'm gogonedda i." (Par had). i-1, Y mae ein Harglwydd bendigedig wedi awdur- dodi canu hymnau, fel yr awgrymwyd eisoes, trwy ei esiarnpl anffaeledig ei hun. Dywedir yn bcndant iddo of, ar ol ei swper olaf, ganu hymn gyda'i ddisgyblion (Mat. xxvi. 30 Marc xiv. 26); a thybir yn gyffredin mai yr hymn hono ydoedd y cxiiiedd Psalm, a'r pum Psalm ddilynol, a elwid gan yr luddewon, Yr Hale- luia fawr," a genid ganddynt hwy yn eu teulu- oedd. yn ystod cadwraetb y Pasc. Ymddengys fod y dull damweiniol y crybwyllir yr amgylch- iad yma gan y ddau efengylwv yn awgrymu fod yr ai-for hoii yn un gyffredin gan ein Harglwydd; a gellir dwyn ei ddifyniadau mynych o'r Pgalin- au fel math o brawf anuniongyrchol dros y dyb- laetb yma. Y mae sylwadau prydfertb y dysg- edig a'r duwiol Esgob florae, yn ei Ragymadrodd i'w. Esboniad ar y Psalmau mor darawiadol ar .,hyn, fel nas gallwn wrthsefyll y demtasiwn o'u difynu yn yfan yma:—" Y mae'r gyfrol fechan hon (Llyfr y Psalmau), fel Paradwys Eden, yn rhoddi i ni yn berffaith, er yn gryno, bob peth sy'n tyfu yn mhob man aiall, "pob pren dy- munol i'r golwg, a daionus yn fwyd ac uwch law 'r cwbl, y mae'r hyn a gollwyd yno, wediei adfer yma. pren y bywyd yng nghanol yr ardd. Y mae gweddi a u a mawl yr eglwys wedi cael eu hoffrwm i iyny at orsedd gras, yn iaitli y llyfr hwn, o oes i oes. Ac ymddengys i'r liyfr hivn foci yn liu wlyfr Mab Duw yn nyddiau ei gnawd; yr hwn, ar ddiwedd ei swper olaf, a. ganodd hymn wedi ei cbymmeiyd o hono, fel y tybir yn gyffredin; yr h wn a barablodd ddechreu yr eilfed Psalm ar hugain ar y groes, ac a drengodd, a rhan o'r unfed Psalm ar ddeg ar hugain yn ei enau. Fel hyn yr oedd Efe, yr hwn yr hwn yr oedd ganddo yr Ysbryd heb fesur, yn yr hwn yr oedd holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig, a'r hwn na lefarodd dyn erioed fel efe, er hyny oil, yn dewis terfynu ei fywyd, ymgysuro yn ei ing mwyaf, a rhoddi i fynu ei ysbryd, yn null geiriau 'r Psalmydd yn hytrach na'i eiriau ei hun," Y mae hanes Actau yr Apostolion, a'u Hepis- tolau, yn dangos yn amlwg fod canu mawl i Dduw yn arfer gyffredin ganddynt, ac y maent yn ei chymmhell fel dyledswydd ar ddilynwyr Crist. Yn yr Actau, cawn fod canu mawl yn cael ei arfer gan yr apostolion a'r dychweledig- ion cyntaf ar ddydd y Pentecost (Act. ii. 47), a chan Paul a Silas pan yn ngharchar Philippi (Act. xvi. 25). Ac yn Epistolau Paul, yr ydym yn cael sylwadau ar ganu mawl megys mewn cyssylltiad a'r dyledswyddau o gynghori, myf- yrio, a gweddio (Col. iii. 16; Eph. v. 19; 1 Cor. xiy. 15), tra y mae Iago (v. 13) yn cymmhell can y Psalmau fel amlygiad priodol o lawenydd Cristionogol. Y mae 'r holl gyfeiriadau sydd yn y Testament Newydd yn peri i ni feddwl fod mawl yr Eglwys Gristionogol i fod yn gynnuTleidfaol ac nid yn goraivl, fel dan yr hen oruchwyliaeth; hyny yw, y mae 'r holl eglwys i gydganu mawl i Dduw, yn awr, ac nid cor arbenig, wedi ei neill- duo at y gorchwyl hwnw yn bendant, fel y neillduodd Dafydd a Solomon y Lefiaid ato yny deml. Yr oedd y disgyblion yn cydganu a'u Harglwydd ar ol y swper olaf: Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan," &c. Yr oedd yr holl eglwys yn Colossa i ddysgu a rhybudd- io bawb eu gilydd mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol." Yr oedd holl eglwys Ephesus i lefaru tvrth eu gilydd mewn psalmau, a hymn- au, ac odlau ysbrydol." Ac medd Paul wrth holl eglwys Corinth, "Beth gan hyny, frodyr, pan ddeloch ynghyd (yn yr eglwys), y mae gan bob tin o honoch psalm, y mae ganddo athraw- iaetb," &c. Mae hyn yn hollol gysson a natur ac a symledd yr oruchwyliaeth Gristionogol. Gan fod yr holl saint bellach yn "frenhinol offeiriadaeth" nid oes llwyth neu ddosbarth neillduol o offeiriaid i fod mwyach yn eu plith; a chan fod "patch" o'r brodyr i lefaru wrth eu gilydd mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyngcio yn eu calon i'r Arglwydd," nid oes dim cor neillduol, ar waban i'r holl frodyr, i fod yn eu mysg chwaith; ac fel y gellid disgwyl, wrth reswm, nid oes dim o daclau yr hen gor Iuddewig, y delyn, a'r organ, a'r udgyrn, &c., i gael eu llusgo i fawl yr Eglwys Gristionogol; ac y mae y rhai a ddefnyddiant y cyfryw gelfi Iuddewig, ynanilwg "droi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai y maent yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu," heb yr awdurdod leiaf o'u plaid yn Llyfr Cyfraith yr Eglwys Gristionogol. Wedi gosod i lawr, fel hyn, y synia.dau a gol- eddwn ni am "Aberth Moliant" yr Eglwys Gristionogol, ni ymdrechwn ddal y llyfr hymnau bychan, tlws, sy'n dwyn yr enw uchod, yn eu hwyneb yn ein hysgrif nesaf.

[No title]

[No title]

CYMANFA MYNWY.

NODI ON CREFYDDOL HWNT AC…

Y PARCH. WILLIAM JONES, OEK"…