Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

mtnniott.

[No title]

' - : f ■" i 'PENILLION

FFARWEL I'M GWLAD.

TRI PHENILL I'R GOEDWIG.

HIR A THODDAID

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD LIVERPOOL.

[No title]

MAECHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

Family Notices

CYMANFA MYNWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gerbron mewn araeth eglur a grymus, a chan lynwyd ef mewn araeth hyawdl ar yr un mater gan D. S. Lewis, Ysw., Penrhiwffranc, acyna penderfynwyd :—' Fod y Gynadledd hon yn dy- muno galw sylw neillduol yr eglwysi at y Drys- orfa. A'n bod hefyd yn dymuno cydnabod yn ddiolchgar lafur y boneddigion ag sydd yn awr yn ddiwyd yn gosod yr achos teilwng hwn ger- bron ein cyfundebau sirol. 4. Penderiynwyd Fed diolcligarwch gwresocaf y gynadledd yn cael ei roddi i'r Parch. W. Williams, Abercarn, am ei ffyddlcn- deb fel dirprwywr y Gymdeithas Genadol yn y sir.' 5.—Fod y Parchn. E. A. Jones, Brynmawr, a D. Davies, Newport, yn cael eu derbyn yn galonog a llawen yn aelodau o Gyfundeb y sir. Dechreuwyd y moddion cyhoeddus am 3, yn y capel, gan y Parch. M. Jones, Cheltenham, a phregethwyd gan y Parchn. E. Owens, Clydach, a T. Jeffreys, Penycae. Am 7, pregethwyd yn y gwahanol gapeli fel y canlyn :—Yn Sion, gan y Parchn. F. Samuel, Abertawe, ac R. Thomas, Bangor ;-yn Penuel, y Parchn. D. Davies, Far- teg, a Dr. Rees, Abertawe;—yn Ebenezer, y Parchii. R. Lumley, Penwaun, a D. Davies, New Inn;—yn y Graig, y Parchn. D. Edwards, Blackwood, a T. Ll. Jones, Machen; yn Gosen, y Parchn. J. H. Hughes, a P. Howells, Merthyr; yn nghapel y Wesleyaid Seisonig, y Parch. J. Rowlands, Henley ;—yn Brynhyfryd, y Parchn R. Hughes. Beaufort, ac E. Hughes, Penmain yn Jerusalem, y Parchn. T. Mann, Trowbridge, yn Saesoneg, a T. Griffiths, Blaenafbn, yn Gym- raeg;-yn.illog-iah, y Parchn. J. M. Jones, Bryn- ] mawr. a D. Price, Aberdare; yn Soar, y Parchn. J. Davies, Caerdydd, a W. Edwards, Aberdare; -yn Bethlehem, y Parchn. D. Davies, Bisea, a j W. Williams, Abercarn. Am 7, bore dranoeth, ] yn Sion, dechreuodd y Parch. T. George, Llan- eurwg, a phregethodd y Parchn. E. A. Jones, Brynmawr, a D. Price, Aberdare. Am 10, ar y j cae, dechreuodd y Parch. D. Davies, Dowlais, a 1 phregethodd y Parchn. J. Davies, Caerdydd, Dr. Bees, Abertawe, a B. Thomas, Bangor. Am 2, deehrouwyd gan y Parch. J. Hughes, Aber, a phregethodd y Parchn, W. Edwards, Aberdare, J. Williams, Castellnewydd, ac E. Hughes, Pen- main. Am 9, dechreuodd Mr. Mason, Clarach, a phregethodd y Parchn. R. Hughes, Cendl, D. Davies, New Inn, ac R. Thomas, Bangor. Am- lygai ein cymanfa sirol eleni arwyddion amlwg o adferiad nerth a dylanwad. Cafodd dderbyniad croesawus gan breswylwyr Bhumney, cyfoethog a thlawd o bob enwad crefyddol vn ddiwahan- iaeth. Er lluosoced nifer y gweinidogion, a'r -dieithriaid a ddaethant yn nghyd, yr oeddynt yn llai na digon i gwrdd a disgwyliadau y tculu- oedd haelionus ag oeddynt wedi darparu i'w lletya. Bu yr hin ychydig yn wlyb yr hwyr yntaf a bore dranoeth ar adeg yr oedfa 7 ond erbyn 10 cliriodd yr awyr fel ag i ganiafau myned allan i'r maes. Nid oedd yr un mas- nachdy yn Rhymney yn agored y dydd hwn, pawb wedi neillduo y diwrnod i fwynhau y Gy- manfa. Bernir fod rhwng chwech a saith mil o bobl ar y cae cyfleus ag oedd wedi ei roddi yn rhad gan Mr. Henry Janes at wasanaetfhy dydd. Bu holl swyddogion Gwaith Rhumney hefyd yn garedig iawn tuag at y Gymanfa, yn gystal a holl eglwysi a chynulleidfaoedd y lie. Ac i goroni yr oil, cawsom wenau yr Arglwydd yn .amlwg ar yr holl oedfaon-y gweinidogion ar eu huchelfanau yn traddodi y gwirionedd, a'r pregethau rhagorol yn meddianu y dorf gydag 9 t, arddeliad mawr. Taled y nef i bawb am eu caredigrwydd, W. P. D., Ysgrifenydd.