Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR HEN DEILIWR. LLYTHYR III.

LLYTHYR Y PARCH. S. ROBERTS.

LIVERPOOL A'I HELYNTION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LIVERPOOL A'I HELYNTION. Barchus Olygwyr,—Y mae Liverpool a'i digwydd- iadau yn haeddu mwy o le yn eich newyddiadur nag y mae wedi gael hyd yma. Y mae yr elfen Gymreig yn gref iawn yn Liverpool. Hwyrach na chamsyn- iwn pe dywedwn nad oes yr un darn o'r ddaear, o'r un maintioli, a chynnifer o Gymry yn byw arno. Dywed rhai fod y Cymry yn un rhan o bump o boblogaeth y dref; os felly, y mae yma yn agos i gan mil o honynt; ond gellir heb betrusder ddyweyd fod yma drigain a deg ofiloedd o Gymry. Mae hyny yn fwy o ugain mil na holl boblogaeth Ynys Mon, ac yn agos gynnifer a holl breswylwyr bwrdeisdref Merthyr Tydfil, a chyfrif y Cymry, y Saeson, a'r Gwyddelod, a phob cenedl arall sydd wedi ymlusgo yno. Ac y mae poblogaeth Gymreig Liverpool yn gasgliad o Gymry pob cwr o'r Dywysogaeth. Y mae yn anmheus genyf a oes na phlwyf na phentref trwy Gymru benbaladr nad oesrhyw un a chyssyllt- iadau ganddo yma, Mae llinynau tyneraf serch ac anwyldeb yn rhedeg i Liverpool oddi ar filoedd o hen aelwydydd ar waelod cymoedd ac ochrau myn- yddoedd Cymru. Oes, y mae yna lawer mam dlawd yn ei bwthyn llwyd, unig, mewn congl anghysbell yn meddwl y dydd, ac yn breuddwydio y nos am Liverpool, o blegid fod ganddi ei Robert a'i Mary, neu ei John a Margaret yma, ac y mae gwir ofal calon ganddi am danynt, a'u hachos yn wastad yn cael eu lledu ganddi ger bron Duw,—ar iddo eu gwared rhag y drwg. Bydd yn dda gan yr hen wraig estyn tyniad o laeth enwyn a thamaid o fara haidd o'i phrinder i ddyn dyeithr ar ei daith, os dy- wed ei fod yn dyfod o Liverpool; ac y mae pregethwr o Liverpool yn oracl ganddi, am mai dyna weinidog Dafydd ei mab, neu Ann ei merch. Gellwch fod yn sicr nad oes yr un parth o'r byd ag y bydd pob new- yddion am dano yn fwy derbyniol yn gyflredinol trwy Gymru. Am sir Fon, y mae hi wedi danfon ei phlant yma wrth y cannoedd. Nid oes nemawr deulu o Beaumaris i AberfEraw, o Gaergybi i Borth- aethwy, nac o Amlwch i Niwbwrch nad oes rhai o'u plant yma. Y Monwysiaid a welir yma amlaf. Y mae yma lawer o langciau Eryri' a gwyryfon Arfon, er nad mor lluosog, ac o ranau eraill o'r sir, o blegid fod ganddynt eu cloddfeydd llechi i roddi gwaith i'w meibion, ac y mae y merched yn rhai mor lan a medrus fel y maent gan mwyaf yn cael gwyr yn ieuanc. Os cerddwch Eifionydd o Lanaelhaiarn i i Borthmadog, a holi hanes y teuluoedd, cewch fod eu cangau yn ymestyn hyd Liverpool. Am Leyn o Bwllheli i Aberdaron, ac o Nefyn i Lanengan, oddi ar ochrau Mynydd y Rhiw, Mynydd Mynytho, a Charnfadryn, deuant yma wrth y canoedd. Mae Morwynion Glan Meirionydd' yn medru y ffordd yma o gonglau peIIafplwyfi Trawsfynydd, Llanfach- reth, a Llanuwchllyn, ac nid yw swynion dyffryn- oedd Ardudwy a Mawddach yn ddigon i'w hattal yma. Ac wedi iddynt hwy gyehwyn, ni bydd y meibion yn hir cyn eu dilyn. Enfyn sir Ddinbych ei phlant yma o Gwytherin, a Llansannan, a Phen. tre-llyn-cymmer, a chuddfeydd eraill Mynydd Hir- aethog; a dyrchafa preswylwyr ieuaingc Dyffryn Clwyd eu llygaid i Liverpool fel lie i wneyd bywiol- iaeth well. Ac nid ychydig ydyw y rhai a ddeuant yma o gylchoedd y Rhos, a'r Mwnglawdd, a Brymbo, er fod gan yr ardaloedd hyn ddigon o fodd i gynnal eu plant. Rhaid i Liverpool sefyll cydymgais a'r brif-ddinas am bobl hawddgar sir Drefaldwyn, ond nid ychydig o honynt hwythau hefyd sydd yn gallu gweithio eu ffordd yma. Maent yma o ucheldir Llanwddyn, ac o wastadedd Meifod. Mae llygad holl siroedd Gogledd Cymru ar Liverpool, fel y lie i'w gor-boblogaeth ymfudo yno. Mae eu seiri, eu gofaint, eu cryddion, eu teilwriaid, a llu mawr o feibion eu llafur wedi cael cartref, bywioliaeth, eysur, a bendith yn Liverpool pan y gorfodid hwy gan amgylchiadau i adael aelwyd eu rhieni, a chefriu ar eu bro enedigol. Am Ddeheudir Cymru, nid yw y dylifiad oddi yno yma mor fawr. Yr oedd lleoedd eraill yn agored iddynt hwy. Bu, ac y mae tynfa llawer iawn o sir Aberteifi i Lundain. Ar un adeg, yr oedd pobl un parth o sir Aberteifi wedi gorfaelu elw masnach y llaeth yn y brif-ddinas. Dynion cryfion, esgyrniog, a merched bochgoch iachus o Landdewibrefi, Tre- garon, Pontrhydfendigaid, a'r wlad oddi amgylch a welid yn benaf gyda hyny o orchwyl. Erbyn hyn, y mae pethau wedi newid yn fawr. Yr oedd llinell y gweithfeydd o Lanelli yn sir Gaerfyrddin hyd Lanelli yn Mrycheiniog yn agor i ranau gorllewinol y De (' Gwvr y West,' iel y geiwid hwy). Ac yr oedd gan Forganwg a Myuwy ddigon o waith i'w pobl oil, a digon dros ben i eraill. Ond y mae y blynydd- oedd diweddaf wedi agor cyssylltiad neillduol rhwng Liverpool a'r De. Daeth T. Morris, Ysw. (mab y diweddar Barch. Ebenezer Morris) yma, a gwnaeth yn dda yn ei fasnach a daeth tren o siopwyr yma ar ei ol, naill ai trwy gyssylltiad ag ef, neu trwy glywed am ei lwyddiant ef. Siopwyr a seiri coed ydyw y rhan fwyaf o'r dynion ieuaingc sydi yma o sir Aberteifi. Mae gan bob cymmydogaeth yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin ei chynnrychiolwyr yn ein tref. Bachgen ieuango o ymyl Trevine yn Mhenfro oedd y diweddaf a welais neithiwr. Gwr o ymyl Cilcwm yn sir Gaerfyrddin oedd y cyntaf a gyfarfum boreu heddyw; ac yr wyf wedi addaw myned y prydnawn hwn gyda chyfaill o gymmydogaeth Castellnewydd i gael cwpanaid o de gyda theulu caredigy mae y wraig o ymyl tref Caerfyrddin. Liverpool ydyw cynnullfan Cymru y Dywysogaeth. Deuant yma o'r gorllewin, y gogledd, y dwyrain, a'r de. Bydd pob peth am Liverpool, gan hyny, yn ddyddorol, nid gan bobl Liverpool yn unig, ond gan filoedd yn Nghymru hefyd. Os ydych am wneyd eich papyr yn ddefnyddiol, rhoddwch golofn ynddo bob wythnos o ddigwyddiadau Liverpool,—masnach, cyllogau, Ilongau, damweiniau, genedigaethau, priod- asau, marwolaethau, y capeli, y gweinidogion, y cyfarfodydd,—pob peth ag y mae yn weddus ei gyhoeddi am bawb o bob enwad. Yr wyf yn hen drigiauydd yn Liverpool, ac yn ymwelydd blynyddol rheolaidd a Chymru, ac weithiau yn amlach, a gwn oddi wrth yr holi mawr wnant arnaf am bob peth o yma pa faint b ddydclordeb y maent yn ei deimlo ynom. Buaswn yn cynnyg fy ngwasanaeth i chwi i hyn, oni buasai fy mod yn gwybod fod digon o lionocli ynglyn a'r TYST, ac yn llawer mwy galluog na mi i wneyd ond bydd yn bleser genyf estyn i chwi bob help yn fy ngallu. Gan ddymuno llwydd- iant a hir oes i'ch newyddiadur teilwng. Yr eiddoch, &c., LtiADMERYDD. —

j AT OLYGWYR Y TYST CYMREIG."

AT OLYGWYR Y " TYST CYMREIG."

AT Y PARCH. H. GRIFFITHS,…

LLUNDAIN.—NOSON YN Y TY.