Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR HEN DEILIWE.

Y MORWYNION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MORWYNION CYMREIG. At olygwyr y Tyst Cymreig.' Foneddigion,—Yr ydym yn barnu nad yw y dos- barth hwn yn cael cymmaint o sylw ag y maent yn ddyledus mewn cymdeithas, er y rhaid addef eu bod yn ddosbarth pwysig. Mae eu sefyllfa yn eu gosod felly, gan eu bod yn preswylio mewn teuluoedd estronol; felly, y mae eu hymddygiad a'u gonest- rwydd yn dra phwysig. Hefyd, y mae eu sefyllfa yn y dyfodol yn gosod pwysigrwydd arnynt, o her- wydd mai hwy fydd y mamau yn fuan, ac felly bydd cymmeriad yr oes i ddyfod yn ymddibynu ar beth ydyw cymmeriad morwynion yr oes hon. Mae y morwynion Cymreig wedi ennill iddynt eu hunain gymmeriad uchel, a hyny yn mysg cenhedl- oedd dieithr. Gwir fod y cymmeriad uchel sydd ganddynt i'tbi iodoli i'w moesoldeb a'u gonestrwydd hwy eu hunain, o blegid nis gall neb ffurfio cym- meriad i unrhyw berson ond efe ei hunan eto rhaid addef fod peth i'w briodoli i amddiffyniad rhagorol Ieuan Gwynedd iddynt; o blegid buasai llawer nad ydynt yn cael cyfleusdra i droi yn mysg morwynion Cymreig yn sicr o edrych arnynt yn y goleu a rodd- odd eu herlidwyr arnynt, oni buasai i Ieuan Gwynedd ddyfod allan i'w hamddiffyn. Nid ydwyfyn gwybod ond ychydig am yr ymdrafodaeth hon, ac ) r wyf yn ofni fod y rhan fwyaf o forwynion yr oes hon heb wybod ond y nesaf peth i ddim am dani. Gan hyny, Mri. Gol., ai ni fyddai yn fuddiol pe b'ai rhywun o gyfeillion Ieuan Gwynedd yn anfon ychydig o hanes yr ymdrafodaeth hon i'r TYST, er mwyn y morwyn- ion hyny sydd heb wybod ond ychydig am dani ? Buom ychydig amser yn ol yn ymddiddan gyda rhai o forwynion y dref hon am y peth, a dywedai y rhai hyny y buasent yn hoffi cael cyfleusdra i gyfranu rhyw gymmaint at wneyd rhyw goffadwriaeth am Ieuan Gwynedd. Beth pe byddai y morwynion Cymreig yn ymgymmeryd mewn llaw i wneyd rhyw goffadwriaeth am y gwr ieuanc talentog hwn ? Pe byddai ond peth bychan, edrychid arni yn anrhyd- eddus wrth ystyried mai morwynion Cymreig yn unig fyddai wedi ei gwneyd. Yr eiddoch, &c., Birkenhead. ETA Mox.

COLEG ABERHONDDU.

AR FY NHAITH YN FFLINT.

CYMRY YN SYMUD I LOEGR.

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

AT OLYGWYR Y "TYST CYMEEIG."