Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR HEN DEILIWE.

Y MORWYNION CYMREIG.

COLEG ABERHONDDU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLEG ABERHONDDU. Foneddigion,—Yn atebiad i un W. Thomas yn eich rhifyn diweddaf caniatewch i mi er boddlon- rwydd iddo ef a'r llaweroedd' ddweyd fod y pen- derfyniad yn cau allan oddiar y Pwyllgor weinid- ogion ag y byddai ymgeiswyr o'u heglwysi, ac athrawon y byddai yr ymgeiswyr wedi bod yn eu Hysgolion, wedi ei basio yn y Cyfarfod Blynyddol, Meliefm Heg, 1865. Dyma fe fel y pasiwyd ef,- General Meeting, June 14th, 18G5. RESOLvRD-That the recommendations contained in a communication from the Congregational Fund Board, dated Nov. 2, 1864, respecting the admission of candi- dates by the Committee alone, apart from the public meeting of the Constituents of the College, and in the absence of the Pastors and Teachers of Candidates be hereby approved of and herinafter rigidly adhered to. Yr oedd y meistriaid D. Davies a T. Williams yn bresenol yn Mhwyllgor y Coleg, Mehefin lleg, 1867, oblegid nid oedd y penderfyniad a basiwyd yn Me- henn, 1865, yn cau allan Diaconiaid ac aelodau yr eglwysi hyny. Yn Nghyfarfod Blynyddol y Coleg, Meh. 12fed, 1807. y penderfynwyd nad oes na Diacon nac aelod ychwaith mwy na Gweinidog i eistedd ar y Pwyllgor os bydd un o'u haelodau yn ymgeisydd. Pe buasai y Pwyllgor yn cael ei gynnal dranoeth i'r Cyfarfod Blynyddol buasai Meistri Davies a Wil- liams hefyd yn myned allan fel yr aeth Mr. Jones, ond gan fod y Pwyllgor wedi eistedd cyn y Cyfarfod Blynyddol nid oedd y penderfyniad yn eu cyrhaedd hwy. Nid oes genyf ychwaneg i'w ddweyd, a gobeithio y bydd hyn yn foddlonrwydd i'r ym- ofynydd. 4 H. GRIFFITHS, Ysgrifenycld.

AR FY NHAITH YN FFLINT.

CYMRY YN SYMUD I LOEGR.

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

AT OLYGWYR Y "TYST CYMEEIG."