Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

YR HEN DEILIWE.

Y MORWYNION CYMREIG.

COLEG ABERHONDDU.

AR FY NHAITH YN FFLINT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR FY NHAITH YN FFLINT. At olygydd y Tyst Cymreig. Anwyl Syr,—Y mae yn hyfrydwch genyf ddeall y bydd Eisteddfod fawreddog a Uewyrchus yn Filint. Yr wyf yn deall fod y pwyllgor yn benderfynol o gael cyfarfodydd llewyrchus, difyr, ac adeiladol. Y mae Talhaiarn—tywysog yr holl arweinyddion Eis- teddfodol i fod yno yn ei hwyliau goreu; Y mae y Llew hefyd-brenhin cerddol holl goedwig gerdd- orol y ddaear yn arweinydd y cyngherddau; a phwy a welodd Eisteddfod a graen arni heb i'r Llew fod ynddi. Elioddodd Sims Beeves yn y cysgod yn deg yn Fflint yn 1865 ac y mae yr holl gerddorion, arweinyddion, beirdd, areithwyr, a'r seinber delynau i fod yn chwareu yn eu hwyliau Eisteddfodol goreu ac fe ddaliaf am geiniog y ceir gwledd Gymroaidd iawn yn Fflint y 13eg a'r 14eg o Awst nesaf, yn hen Gastell Callestr. Ac y mae Cwmpeini y Reilffyrdd yn parotoi trains rhad gogyfer a'r wyl fawreddog yma, fel y gall ein hoffus gyfeillion o Lynlleifiad dalu ymweliad it ni yn Fflint. Y mae yn dda genyf weled cymmaint a saith yn cystadlu ar y gadair, a diamheu y ceir cyfansodd- iad teilwng o satie yn mhlith cyfansoddiadau goreu yr oes, oblegid y mae y testyn yn farddoniaeth ynddo ei hunan, sef Bywyd.' Amlwg yw nad ydyw Mwrog wedi marw, er cym- maint o erlid a lladd a fu arno. Llwyddiant iddynt, •medd fy nghalon. Yr eiddoch, &c., Nant y Cathod. BRUTUS PRYDAIX.

CYMRY YN SYMUD I LOEGR.

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

AT OLYGWYR Y "TYST CYMEEIG."