Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

OYMDEITHASFA GORFFORIAETHOL…

NODION AM MR. THOMAS HUGHES,…

--CYNNRYCHIOLAETH MERTHYR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

hwnw, yr oedd yn y capelau Ymueillduol 16,593, ac yn yr Ysgol Sabbathol y prydnawn hwnw 9,280. Ar yr un adeg, nid oedd yn yr eglwysydd ond 1,778, a dim ond 575 yn eu Hysgolion Sabbathol. Dyna dros naw Ymneillduwr ar gyfer pob Eglwyswr. Mwy o Ymneillduwyr nag o Eglwyswyr naw o Weithiau. Os ydyw cynnrychiolaeth yn golygu rhywbeth, y Mae yn golygu cynnrychioli golygiadau y mwyafrif -golygiadau y naw Ymneillduwr, ac nid yr un Eglwyswr. Yn lie hyny, er pan y mae aelod yn y senedd dros Merthyr, Eglwyswr oedd pob un, yn cynnrychioli yr un Eglwyswr, ac nid y naw Ym- neillduwr. Y mae yr adeg ger llaw pan y gelwir ar filoedd Ymneillduwyr Merthyr ac Aberdar i fynegu eu barn ar y mater hwn, ac i dystiolaethu mewn modd pendant pa un a gaifi pethau barhau felly ai ipeidio. Yr ydym yn eithaf boddlon i Mr. Bruce i gadw ei le, ac ni charem weled Merthyr yn euog o droi allan aelod mor anrhydeddus. Nid a'r aelod presenol y mae a fynom ni yn awr, ond a'r ail. Y mae yr aelod presenol yn eithaf digon ac yn eithaf cymhwys i gynnrychioli y Meistri haiarn a glo, a'r eglwys hefyd; ac yr ydym yn eithaf boddlon iddo gadw ei le i wneyd hyny. Ond yr ydym yn honi mai cyfiawnder a'r bobl fel Ymneillduwyr ydyw cael un i'w cynnrychioli hwynt hefyd, a hwnw yn un o'u -(Iewisiad hwy eu hunain. Am hyny, yr ydym yn y modd difrifolaf yn tynghedu holl Ymneillduwyr Merthyr ac Aberdar i gario allan benderfyniadau y cyfarfod nos Fercher. Nid ydym am gael ond un o'r ddau i'n cynnrychioli. Cadwed y mawrion a'r Eglwyswyr eu dyn presenol, ac yr ydym yn barod i'w cynnorthwyo i wneyd hyny yn ngwyneb pob ymdrech yn ei erbyn. Ond gofynwn i'r Meistri ac i'r Eglwyswyr, Ai gormod i ni, sydd gynnifer a naw :am bob un o honoch chwi, ydyw cael un o'r un syniadau a ni ein hunain i'n cynnrychioli, tra yr ydych chwi yn cael y llall ? A ydyw hyn yn ormod i werin Ymneillduol Merthyr ac Aberdar, i ddy- weyd yn onest, didderbyn-wyneb, a phendant y amynant ef ? Os na chydweithreda yr holl Ymneill- duwyr, un ac oil, yn y mater hwn, bydd cynnrych- iolaeth Merthyr yn fwy o wawdbeth yn y senedd nesaf nag ydyw yn bresenol. Yn lie bod ag un cyn- nryehiolydd gan yr Eglwyswyr, a dim un gan yr Ymneillduwyr, bydd dau gan yr Eglwyswyr, a dim gan yr Ymneillduwyr—1,778 o Eglwyswyr Mer- thyr a dau aelod yn eu cynnrychioli, a 16,598 o ymneillduwyr heb un i godi ei law na'i lef drostynt. imncillduwyr Merthyr ac Aberdar sydd i ddyweyd a galir hyn fod ai peidio. Y mae yn llawenydd genym weled fod y pwyllgor wedi nodi dyn y gellir dweyd am dano, The right wan in the right place? Dyma i ni Ymneillduwr o waed, yn gystal ag o gydwybod. Dyn a gwaed yy-mro yn ei wythienau, teimlad Cymro yn ei galon, siaith Cymro ar ei dafod, penderfyniad, gwroldeb, a thanbeidrwydd Cymro yn ei ysbryd. Yn mhlith nieibion Gwalia, nis gallai y pwyllgor gael dyn mwy teilwng a chymhwys i'w gynnyg i'r cyfarfod. Hy- derwn yr anfonir ato gais teilwng o hono ef, a theil- wng o nerth Ymneillduaeth Merthyr ac Aberdar; ac y gwel efe nas gall wasanaethu ei genedl, na gosod arni anrhydedd, ychwanegol at yr hyn y mae eisioes wedi osod arni yn well na tlirwy gynnrychioli y Bwrdeisdref bwysicaf yn ngwlad ei enedigaeth. Ym- neillduwyr y Bwrdeisdref, na chymmerwch eich denu na'ch dyclirynu i fradychu eich egwyddorion. Eiddoch chwi yw yr etholfraint, ae nid eiddo eich Meistri. Yr ydym yn deall fod y screw eisioes wedi .ei dangos i rai o honoch. Nac ofnweh, pan ddaw yr -adeg i ryw saith neu wyth mil neu ychwaneg o hon- och i gael yr etholfraint, ni bydd gan Mr. Fothergill na neb arall screw ddigon mawr i'ch cynnwys oil oddi tani. Os gwnewch chwi—gweithwyr Merthyr .ac Aberdar-sefyll yn wrol o blaid eich egwyddorion, or' nid oes amheuaeth am eich llwyddiant. Ond. os cymmerwch eich denu, neu eich dychrynu gan am- bell agent sydd a llygaid-wasanaeth fel Ilygaid llo yn ei ben—os dilynwch esiampl ambell fasnachwr eraf- angllyd, gorfaelus, a thrachwantus-neu, os cym- nierwch eich tywys fel deillion gan ambell ddoctor (Ph. D.?) ansefydlog, gwammal, a bradychlyd, y canlyniad fydd i chwi gael gweled dau Eglwyswr yn cael eu hanfon i'r senedd nestif i gynnrychioli etholwyr, o ba rai y bydd naw o bob deg yn Ym- neillduwyr. O'r braidd y gellir credu fod y fath beth yn bossibl. Gall fod, a bydd yn sicr o fod os na wna Ymneillduwyr Merthyr ac Aberdar eu dyled. swydd yn yr ethohac1 nesaf- Henry Richards for eVe1". Yr eiddoch, yn gywir, BYCHAN.