Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PARCH.…

CYFARFOD, MORIAH, KHYMNI.—NOS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD, MORIAH, KHYMNI.—NOS IAU. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. R. WY Hughes, Cendl. Cymmerwyd y gadair gan R, Bedlingto-u, Ysw., yr hwn a agorodd y cyfarfod mewn araeth gymhwya, gan ddangos y parch mwyaf i Mr. Jenkins. Yna siaradodd y Parch. R. Hughes, Cendl; y Parch. W. P. Davies, Seion; y Parch. J. P. Williams (B.), Pontlottyn. Yna darllenodd y Parch. E. Hughes, Penmain, yr anerchiad oddi wrth y sir; a chyda llaw, cymmerodd i fyny ganmol Mr. Jenkins fel hen gymmydog hawdd- gar, a gweinidog ffyddlawn ar eglwysi Duw. Rhoddodd D. L. Lewis, Ysw., Penrhiwffranc, air o gynghor i ddiaconiaid yn Saesneg ac yn Gymraeg, gyda golwg ar gyfranu. Dywedai E. Lowe, Ysw., New Tredegar, yn uchel am Mr. Jenkins. Aeth Mr. Thomas Bees, inspector, yn weddol fanwl dros hanes dechreuad yr achos yn Moriah, yn nghyd ag ymdrechion Mr. Jen- kins gydag ef. Siaradodd Mathetes a'r Parch. Mr. Wright (B). Yna darllenwyd anerchiad yr eglwysi gan yr ysgrifenydd; a dylem ddyweyd hefyd i'r ddwy anerchiad gael eu cyflwyno i Mr. Jenkins gan ferched bach perthynol i'r Ysgol Sabbathol. Yr oedd hyn yn edrych yn brydferth anarferol. Siaradai y Parch. G, Owen yn ddoniol iawn ar y dysteb. Yna aed at brif waith y cyfarfpd, sef cyflwyno y pwrs i Mr. Jenkins. Yr oedd y pwrs wedi ei wneyd yn ardderchog gan Mrs. Cave, yr hon hefyd a'i cyflwynodd iddo ef, a gwnaeth hyny yn ddeheuig iawn. Yr oedd holl swm y dysteb yn 105p. 5s. Diolchai Mr. Jenkins yn wresog am yr arwydd hwn o barch a ddangosid, a dy- wedai nad oedd yr un eglwys yn y cwm yn talu ei gweinidog yn well nag eglwys Moriah yn awr. Yr oedd ef yn cofio agwedd wahanol ar bethau. Bu yn gwasanaethu am y pymtheng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth am lai na 3p. y mis, a chofiai dderbyn y swm aruthrol o 3p. 6s. am bymtheng mis o wasanaeth; ond erbyn hyn, yr oedd pethau wedi cyfnewid yn fawr. Diolchai yr ail waith am y dysteb, a gobeithiai fwynhau tysteb ragorach yn y man, sef anniflanedig goron y gogoniant.' Yr oedd yr anerchiadau wedi eu fframio yn hardd a darlun o Mr. Jenkins yn y canol; ac felly hefyd yr oedd anerchiad Mrs. Jenkins, a'i darlun hithau yn y canol. Diolchwyd yn gynhes i'r cadeirydd, i ysgrif- enydd, cadeirydd a thrysorydd y pwyllgor,—i D. S. Lewis, i Mrs. Cave am wneyd y pwrs, ac i'r casglwyr a'r cyfranwyr oil. Derbyniwyd llythyrau gwresog iawn oddi-wrth y Parchn. John Davies, Caerdydd; Henry Oliver, B.A., Casnewydd; J. Roberts, Castellnedd; R. M. Thomas, Llanuwchllyn; a J. Thomas, Wern a buasai yn dda iawn genym eu cyhoeddi, ond yr ydym yn ofni whip y Golygydd. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddigan y Parch. E. Hughes, Penmain. Ni fum erioed mewn cyf- arfod mwy hyfryd ar achlysur fel hwn—pawb wrth eu bodd, a phawb yn llawen wrth anrhyd- eddu yr anwyl Mr. a Mrs. Jenkins. Machen. T. L. JoNEs. [Yr ydym yn ddiolchgar iawn i Mr. Jones am anfoll i ni yr hanes dyddorol uchod. Buasai yn dda genym allu rhoddi anerchiadau yr hollfrodyr yn llawn; ond y mae ein terfynau mor gyfyng, a chynnifer yn curo wrth ein drws, fel y mae yn rhaid i ni ddymuno ar ein cyfeillion ein hesgusodi am eu gadael allan. Da genym ninnau fod hen weinidog cymmeradwy fel Mr. Jenkins yn cael ei werthfawrogi ganei eglwysi.—Gol.]

dJ)l11!Jiad 11 at'!J.