Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
MISS WALTERS, TREDEGAR.
MISS WALTERS, TREDEGAR. Foneddigion,—-Yr oedd yn dda gan luaws edmyg- yyr y foneddiges ieuanc hon i weled yn eich argratf- Jael diweddaf o'r TYST sylw mor barchus yn cael ei wneud gan eich gohebydd Cymro.' Y mae anwyl dad Miss Walters wedi gwneuthur aberth mawr yn ei amgylchiadau er rhoddi manteis- 0 !on addysg gerddorol iddi. Gan ei bod hi yn fedd- ijanol ar dalentau mor nodedig a digamsyhiad yn y linell hon, gellir ar dir teg ddysgwyl i'r cyhoedd i Toddi y noddiant a'r gefnogaeth fwyaf i'r ddawn hon sydd ganddi i gael ymddadblygu i'r mesur hel- aethaf. Y mae y ffaith ei bod wedi cael yr anrhyd- edd o gymmeryd rhan mor amI wg yn ddiweddar yn y cyngherdd a gynhaliwyd yn St. George's Hall, -Llundain, a rhai hyny yn cael eu cefnogi yn benaf gany closparth uchaf o gymdeithas yn brawf an- "vvadadwy o'r dyfodol dysglaer sydd yn ei liaros. ^anodd yn y cyngherddau hyn nes yr oedd pawb r ^^yddfodolion mewn perlfaith synedigaeth. Yr oedd y banllefau o gymmeradwyaeth a dderbyniodd, a r repeated encores a gafodd, yn cadarnhau y gosod- iad tu hwnt i ainmheuaeth. Er fod lluaws o fon- eddigesau yn yr un academy a hi, o dan lywyddiaeth y penigamp Dr. Wylde, a llawer o honynt yno er's pedair a phum mlynedd, ni ddaeth in o honynt i .gymmaint sylw ger bron y cyhoedd yn y cyngherdd- au crybwylledig a Miss Walters. Y mae Miss Walters yn foneddiges ieuanc liynodol am ei chrefyddolder. Derbyniwyd hi yn aelod ysig §an y parchus Mr. Stephens, Liverpool: a aa genym allu dwyn tystiolaeth ei bod wedi dal ei "Ordd yn gysson a'i phroffes ac yn ddigwmmwl ei cnytnmeriad. Yn awr, anwyl gydwladwyr, gadewch m fel cenedl, ac yn enwedigol fel Annibynwyr, i ,|os y gallwn werthfawrogi talent a chydnabod eadiant yn ogystal a chenhedloedd eraill ? Dan- foner am dani gyda brys i gynnal cyngherddau trwy ov-oli J|eibion y gan, os mynweh gael treat JH uchaf nes byddo y galon yn dychlamu ewn mwymant, danfoner ati yn fuan, fuari. Yr eiddoch, &c., A. B.
[No title]
Dywed y Gloiv-ivorm fod y Sultan wedi gwario yn ystod ei arosiad yn Lloegr oddeutu £ 34,000. Gwariodd y Pasha ar yr un amser tua 411,000.
-EBENEZEE A'I AMGYLCHOEDD.
-EBENEZEE A'I AMGYLCHOEDD. T)SUtr-ef Pobl°g yn Arfon y He uchod. e|Oyn,ia ei enw oddiwrth y Oapel Oynnulleid- a°1> yr un xnodd ag y derbynia Bethel a Bcth- esda eu henwau, &c. Mae preswylwyr Ebenezer ^relwyr perthynol i gloddfa Llanberis, gyda r eithriad o'r crydd, y teiliwr, y gof, y saer, y gwehydd, a'r siopwr, a'r cigydd, &c. Ambell y oedd yma ddeugain mlynedd yn ol. Yn awr "i* vae n? Syleb yn dai, a'r boblogactli vn ito amryw filoedd. Mae yma chwecb o add- Oo ai ysg°ldy Brutanaidd, ac un arall blnri y Gymdeitlias Adeiladu dra loaeuog, a Post Office yn cynnwys Money orders Savings Bank 0 bryd i bryd, ond odid gelwir sylw darllenwyr y TYST at ragoriaethau a diffyg ion Ebenezer a'i amgylchoedd. Mae y chwarel- wyr fel dosparth yn hoff o farddoniaeth a chan- iadaeth, ond eu prifhobi yw Duwinyddiaeth. Maent yn deall politics y-n go lew, clywir hwy ar amser bwyta yn y cbwarel yn trin ac yn trosi yn y modd doniolaf ein cynrychiolwyr ar loriau St. Stephan, ond boff destun eu hymddiddan yw crefydd, a phrif ddynion eu siarad yw pregeth- wyr. Nid oes yr un dosparth yn y dywysogaeth wedi 'mesur a phwyso cynnifer o bregethwyr a'r chwarelwyr, maent ar y blaen i'r glowyr a'r mwnwyr ar y pen hwn. Nid wyf yn eu con- demnio am hyn, ond dweyd ffaith. Mae y t'rait yma yn un o neillduolion eu cymeriad fel dos- parth. Nid arbedant draul na thrafferth er gwrando goreugwyr pob en wad. Yn Disgwylfa, nos Wener, Gorph. 26, tra- ddododd y Parch. Owen Jones, Bootle,Liverpool, ddarlith ar 'Awdwr Taith y Pererin.' Gwnaeth sylwadau rhaganvemiol ar yr oes yr oedd Bunyan yn byw, a'r prif ddiwygiadau. Sylwodd ar gymmeriad Charles. II. yn gystal a'i dad. Dangosodd nodweddau gwahanol deuluoedd y Tudoriaid a'r Stiwardiaid, a rhoddodd rai awg- ryiniadau ar Oromwel a'i fab. Pan ddaeth at Bunyan, yr oedd wedi chwythu pob niwl anwyb- odaeth o'r ffordd fel in galluogi i gael golwg glir ar y dyn rhyfedd a'i oes. Yn mhlith pethau eraill sylwodd ar ddylanwad ei briodas fel y moddion rhagarweiniol i'w droedigaeth a'r ar- wydd cyntaf o hyn oedd ei gydymffurfiad a chrefydd yr amseroedd, sef myned i'r Eglwys blwyfol ar y Sabbath. Y pryd hyn edrychai ar yr offeiriaid fel duwiau. Wedi hyny sylwodd ar ei ymuniad a'r Bedyddwyr,—ei waith yn pre- gethu gydag hyawdledd a sel, ac yn dyoddef 12 mlynedd o garchariad yn Bedford er mwyn cyd- wybod, lie yr ysgrifenodd Daith y Pererin. O'r dechreu i'r diwedd yr oedd y ddarlith yn llawn o feddyliau cryfion, teimlem ein bod yn cael gwledd wrth ei gwrando, gallasem yn hawdd wneud ysgrif faith o honi ond trueni ei llyr- gunio. F.
NEW TREDEGAR A'R YSGOL FRYT-ANAIDI).,…
NEW TREDEGAR A'R YSGOL FRYT- ANAIDI)., Lie yn ymgodi yn gyflym i sylw a phoblog- rwydd yw New Tredegar. Saif yn nghwm Rhymney, rhyw dair milltir islaw gweithiau haiarn Rhymney. Gweithiau glo yw prif fywyd y lie. Mae yma bedwar o gapelydd—un gan yr Annibynwyr, un gan y Trochwyr, un gan y Trefnyddion Oalfinaidd, ac un gan y Trefnyddion Wesleyaidd, ac mae'r hen fam hithau i gael ys- goldy braf yn y lie, yn yr hwn y cedwir gwasan- aeth crefyddol yn fynych. Teimlodd y trigolion er ys tipyn fod angen am Ysgol Frytanaidd yn y lie, ac yr oedd hyn yn hollol naturiol, gan fod y rhif luosocaf o lawer 0 r trigolion yn ymneillduwyr, Oafwvd cryn drafferth i gael tir, ond o'r diwedd llwyddwyd i gael darn: helaeth mewn man cyfleus iawn, a hyny gan yr uchel geidwadwr Arglwydd Tredegar. Dydd Llun, Gorph. 22, oedd yr adeg i osod y gareg sylfaen i lawr, ac aethum yno o bwrpas, er eydia.wenhau a'i- evfeillion yn eu llwyddiant. Mor fuan ag yr aethum i olwg y lie, gwelwn fod bywyd anarferol drwy yr holl gymmydogaeth. Pob gwaith agos, wedi ei roi heibio am y diwr- nod, a phawb yn ymddangos yn teimlo interest yn y symudiad, Un o'r pethau cyntaf ddaeth dan fy sylw, oedd gweled Mr. a Mrs. Williams, Grocer, yn ddiwyd barotoi baner, ac yn wir un hardd oedd hi, ac yn mhen ychydig, g-wel- wn Oynfyn Trelyn, a'r Bardd Gwyllt' yn ei chano. Gallwn feddwl'i wyr Coventry deimlo'n Hawen oherwydd y symudiad gan faint o Rib- anau gwynion a chochion ar a werthwyd. Am 12 o'r gloch, awd i gae cyfagos, er trefnu yr orymdaith. Mr. Jackson—Colonel Stonewall Jackson fel ei gelwid, ar gefn ei fesrlyn yn car- lam u yn ol ac yn mlaen er cael pabpeth i drefn. Yna cychwynwyd yn y drefn ganlynol-Parchn. D. Jones (A), J. S. Jones (B), A. Davies, Pont- lottyn (M), T. LI. Jones, Machen, E. Davies, Rhymney, J. Jones, Matlietes, Rhymney, S. Owen, W. P. Davies, Seion, Rhymney; R. Lonie, Ysw., Mr. J. Jeremiah a'r pwyllgor oil yn can- lyn, yna'r boneddigesau-Mrs. Wilkinson, Mrs. Lonie, Mrs. Jones, priod y Parch. D.Jones, &c., yna'r New Tredegar Brass Band, ac wedi hyny yr Odyddion, yna Ysgol Sabbathol yr Annibyn- wyr, yna eiddo'r Trochwyr wedi hyny eiddo'r Methodistiaid, yna eiddo'r Wesleyaid, ac yna eiddo'r Eglwys Sefydledig. Ni welais harddach golygfa er ys blynyddau. Wedi cerdded trwy y lie, deuwyd at brif orchwyl y dydd, set gosod y gareg sylfaen. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. Jones. Darllenwyd yr ysgrif oedd i fod dan y gareg yn Gymraeg gan y Parch. J. S. Jones, ac yn Saesneg gan Mr. Jackson, yna canwyd, ac yna wedi anrhegu Mrs. Jackson a'r llwy arian, daeth yn ei bis en, a chyflawnodd ei gorchwyl yn ddeheuig iawn. Siaradodd y Parchn. D. Jones, J. T. Jones, Mr. Jackson, ac R. Lonie, Ysw. Aeth pob ysgol wedi hyn i gael difyrwch i'r cae, yr oedd te hefyd yn y capelydd i bawb fuasai yn dewis. Yn yr hwyr cynnaliwyd cyfarfod yn nghapel yr Uchdir (A), dan lywyddiaeth R. Bedlington, Ysw., Rhymney, yr hwn oedd yn llawen iawn am fod yr adeilad wedi ei ddeclireu o ddifrif. Yna aiaradodd y Parchn. J. Jones, (Mathetes), D. Jones, W. P. Davies, Seion, Rhymney, J. T. Jones, J. P. Willifuns, Pontlottyn. A. Davies, Pontlottyn; Mri. Strong, J. Davies, Jackson, a J. Johns, a'r Parch. E. Davies, Rhymney. Yr oedd gweithrediadau'r dydd drwyddo yn llwydd- iant perffaith, ac hyderaf mai llwyddiant fydd yr ysgol pan ddaw i fynu.—- Glanoafros.
CYMMANFA YSGOLION SABBATHOL…
CYMMANFA YSGOLION SABBATHOL YR ANNIBYNWYR UNDEB DYFFRYN MAELOR. Cynhaliodd yr Annibynwyr eu Cymmanfa Ysgolion Sabbathol gyntaf perthynol i'r Undeb uchod yn Rhosllanerchrugog, ddydd Llun, Gorphenaf y 29ain. Perthyna i'r Undeb hwn yr ysgolion canlyn- ol:—Llandegla, Nebo, Blaenau, Penuel, Caer- gwrle, Brymp"), Wrexham, Wern, Coedpoeth, Rhosllanerchrugog, Ponkey, a Rhosymedre. Er cymmaint y pellder sydd rhwng rhai o'r ysgolion uchod a'r Rhos, yn nghyd ac annghyfleusdra y lie, dangoswyd ffyddlondeb a sel uwchlaw dys- gwyliad gan yr holl ysgolion. Cyfarfyddodd yr holl ysgolion yn brydlon wrth y fan appwynt- iedig, ac ymffurfiasant yn un orymdaith i gerdded drwy brif heolydd y Rhos. Trefn yr orymdaith oedd fel ycanlyn:—ar y blaen yr oedd deuddeg-ar-hugain o wageni yn llawnion o ddosparth Ileiaf yr ysgolion a banerau yn eu dwylaw; yn nesaf at hyn cerddai y pregethwyr; ac yna corau y gwahanol ysgolion wedi ymuno, ac o dan arweiniad Mr. Seth Roberts, Brymbo. Dangosodd y cantorion eu bod yn feistriaid hollol ar eu gwaith, yr hyn hefyd a roddai dyst- iolaeth uchel o fedrusrwydd eu harweinydd. Ni phetruswnlddywedyd na byddai'r cor hwn yn un o'r rhai cyntaf yn Nghymru o ran medr pe ymroddent ati o ddifrif i ymberffeithio; ac hy- derwn y cymmerant yr awgrym. Cerddent bob yn bedwar, a dywedir fod yr orymdaith yn cyr- haedd am yn agos i filltir, ac yn rhifo oddeutu 2000. Cyrhaeddodd yr orymdaith yn brydlon at y capel erbyn dau o'r gloch y prydnawn, ond erbyn cyrhaedd yno gorfu i gannoedd droi yn ol,—rhai i ymbleseru oddeutu, a'r blinedig gan y daith i chwilio am ymborth. Yr oedd y c apel yn orlawn, fel nad oedd modd iddo gynnwys rhagor. Tystiai ugeiniau 0 edrychwyr hynaf y lie nas gwelsant erioed yn y Rhos nag yn unman arall y fath olygfa mor ardderchog, ac fod y symlrwydd, y gweddusrwydd, a'r trefnusrwydd oedd yn hynodi gorymdaith mor fawr yn anrhy- dedd i grefydd, ac yn glod or fath uwchaf i'r sefydliad gogoneddus y daethant i ddangos eu plaid a'u sol drosto. Yr oedd ymddygiad da o'r natur hwn yn gweddu i, ac i'w ddysgwyl oddi- wrth ddeiliaid yr ysgolion Sabbathol. Y mae yn dda genyrn na themtiwyd neb o honynt i fradychu y sefydliad. Teimlwn yn ddiolchgar i'r Arglwydd hefyd am ein cadw heb i unrhyw ddarawaiu ddygwydd yn mysg cymmaint o ger- bydau ac anifeiliaid, a thyrfa mor fawr o bobl. Yn awr deuwn at y cyfarfodydd.
Cyfarfod y Prydnawn.
Cyfarfod y Prydnawn. Llywyddid y cyfarfod hwn gan y Parch. E. Roberts, Coedpoeth. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Ishmael Jones, y Rhos, ac yna galwodd y Hywydd ar y Parch. E. James, Llanaelhaiarn, i holi yr ail ddosparth yn yr 8fed bennod o Gatecism Dr. Everett. Cyn dechreu holi anerchodd Mr. James y gynnuUeidfa. Ar ei ol ef galwyd ar y Parch. D. M. Davies, Llan- fyllin, i holi y dosparth cyntaf yn y oed bennod o'r epistol at yr Hebreaid. Gollyngwyd yr ail ddosparth ar ol cael eu holi, ac i'r cantorion roi ton, i gael T ê oedd wedi ei ddarparu ar eu cyfer yn y British School. Ar ol terfynu y moddion dylifai y bobl at yr ysgoldy i gael te, ac eraill i wahanol fanau. Dywedir fod yn yr ysgoldy oddetu deuddeg cant. Yr oedd yn dda fod Mr. James a Mr. Davies wedi gwneud mor ddoeth a bod yn fyr. Yr oedd y gynnulleidfa mor fawr, a channoedd o'r rhai hyny wedi dyfod o bellder o ffordd, ac yn teimlo yn hollol luddedig; felly dan y fath amgylchiadau a hyny, bod yn fyr oedd ddoethaf.
.Cyfarfod y Nos.
Cyfarfod y Nos. Dechreuwydy cyfarfod am 6, a llywyddid gan y Parch. S. Evans, Llandegla. Wedi i'r Parch D. Evans, Rhosymedre ddarllen a gweddio, caf- wyd anerchiadau gan y Parchn. Davies, Llan- fyllin; James, Llanaelhaiarn; Roberts, Coed- poeth; Jones, Wrexham; Thomas, Wern; ac Evans, Llangollen. Y cyntaf a anerchodd y cyfarfod oedd y Parch. D. M. Davies, ar Dde- chreuad yr Ysgol Sabbathol, a natur yr Undeb Ysgolion.' Caed anerchiad rhagorol ar y pwnc, a phrofodd Mr. Davies trwy hanesiaeth sydd wedi ei brofi yn ffaith, mai yr Annibynwyr yn nghyntaf o bawb a ddechreuasant yr Ysgol Sabbathol yn ei ffurf gyntefig yn Nghymru, ond mai Mr. Charles, o'r Bala, a gariodd allan i'w ffurf bresenol y diwygiad bendigedig hwn. Am natur yr Undeb Ysgolion dywedai nad oedd raid iddo ef ddweyd dim arno, bod yr hyn a welwyd heddyw yn brofion digonol ar y mater. Yn nesaf galwyd ar y Parch. E. James, Llan- aelhaiarn, i anerch y gynnulleidfa ar 'Ddyled- swydd yr Athrawon.' Cyfyngodd ei sylwadau i wyth o raniadau. Yr oedd y sylwadau yn wir deilwng o sylw athrawon, a gwnant ddirfawr les ond eu rhoi mewn ymarferiad. Cam a'r anerchiad fyddai rhoddi talfyriad o honi, a charem i Mr. James ein hanrhegu a'r sylwadau yn llawn yn y Cronicl Ysgolion perthynol i Undeb arall mewn cwr arall o'r sir, gan ein bod ninau fel Undeb wedi penderfynu uno gyda hwy mewn cefnogi y Cronicl. Hyderwn y cymmer Mr. James hyn yn awgrym digonol i gydsynio a'n cais. Galwyd yn nesaf ar y Parch. E. Roberts, Coedpoeth, i anerch y cyfarfod ar y ffordd oreu i gyflwyno addysg yn y dosparthiadau.' Gwnaeth Mr. Roberts sylwadau byrion pwrpasol ar y mater, a nodai dair ffordd i gyfiwyno addysg i'r dosparthiadau, sef trwy I ble.tio y pen, gwresogi y galon, ac argyhoeddi y gydwybod.' Gallem dybied y byddai cyfeiriad o'r fath hwn, ond iddo gael ei roddi mewn gweithrediad, yn sicr o gyr- haedd un o amcanion gorucfael yr Ysgol Sab- bathol, sef cadw enaid. Yr anerchiad nesaf a gawsom oedd gan y Parch. J. Jones, Wrexham, ar àdyledswydd aelodan eglwysig i fod yn ffyddlon ddeiliaid or Ysgol Sabbathol.' Sylwodd Mr. Jones fod y ddyledswydd hon yn codi yn benaf oddiar y berthynas neu y cyssylltiad agos ac annattadol sydd rhwng yr Ysgol Sabbathol a'r Efengyl; C, fod yr Ysgol wedi bod yn athrofa ddigon uchel i gymhwyso dynion i'r swyddau pwysicaf. Gallem feddwl fod yr annogaethau a roddodd yn gym- hellion digon cryfion i bawb, hen ac ieuanc, i fod yn ffyddlon ddeiliaid o honi. Parch. J. Thomas, Wern, oedd y nesaf alwyd i'n hanerch, ar 'ddyledswydd a chymhwysder gofynol mewn Arolygwyr.' Dywedai fod y rhan benaf a phwysicaf o'r Ysgol Sabbathol yn gor- phwys ar yr Arolygwyr. Os na byddai iddynt 6 yr hwy osod pob peth mewn trefn, ac edryoh yn fanwl ar fod i bob peth gael eu cario allan yn ol trefn, na byddai dim i'w ddysgwyl ond annhrefn a methiant. Er mwyn cario allan y trefniant gogoneddus hwn yn effeithiol a Uwyddianus yr oedd yn gofyn i'r Arolygwyr fod yn meddu ar synwyr cyffredin cryf a da. Galwyd yn nesaf ar y Parch. H. Rees, Penuel, i'n hanerch ar 'yr angenrlieidrwydd o fod yrn- ofynwyr 3*11 pertliyn i bob ysgol.' Nododd Mr. Rees un amgylcliiad hynocl oedd ar unwaith yn ddigon i brofi y mater 0 dan sylw; sef, mai trwy offerynoliaeth moddion felly y dvgpwvd y Ceii- hadwrenwog, Williams, Mory De, gyntaf 0 clan r gair, a limw yn gymlielliad hen wraig.. Ni wydclolll pa un a tfyna hyn yma ai hyn acw.' Nid yn ami y clywid Mr. Rees mor liapiis a'r tro hwn: yr oedd yr olygfa a gafodd, yn nghyd a'r achos y daeth i siarad trosto, wedi enyn tan yn ei yspryd. Yr olaf a alwyd i'n hanerch oedd y Parch. E. Evans, Llangollen. ar N, wobr am ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbathol.' SyIwai yn livnod darawiadol ar natur ffyddlondeb, ac yna ar y wobr sydd yn gyssylltiedig a bod yn ftyddlon. Fod gwobr yn bod gyda golwg ar fod yn ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbathol, a beth sydd yn gvn- nwysedig yn y wobr hon, fod yr holl esgenluswyr yn cael eu can yn gwbl 0 liOni. Felly annogai yn ddifrifol ac yn llawn tan ar i bawb fod vn ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbathol. Ar ol hyn cawsom ddwy don gan y cor a'r organ; yr oedd y canu yn wir dda, ac yn ddigon i godi i fyny yr yspryd iselaf. Terfyinvyd trwy weddi gan y Parch. E. Evans. Fel hyn terfynodd un o'r cyfarfodydd mwvaf lluosog, dyddorol, a Uwyddianus a welwycl vn Nghymru. Y mae y llwyddiant arbenig a dcli- lynodd ynidrecliion yr Undeb hon gyda golwg ar eu Cymmanfa gyntaf, yn dangos yn eglur fod y ■cydweithrediad mwyaf unol wedi bod rliwng y gwahanol ysgolion a'u gilydd. Os gallodd yr I (t" n undeb liwn yn ei fabandod godi ei hun i'r fatli sylw a chyhoeddusrwydd, beth a all wneud yn y dyfodol. Am hyny, frodyr, byddwn sier, a di- ymmod, a helaetliion yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a chwi yn gwybod nad YW eicli llafur 3-11 ofer yn yr Arglwydd.' THOJIAR ROBERTS, Salem, Coedpoeth. Ysgrifenydd,. —
CLADDEDIGAETH Y PARCH. W.…
CLADDEDIGAETH Y PARCH. W. GRIFFITHS, LLANHARAN. Crybwyllwyd yn y rhifyn diweddaf o'r TYST am farwolaeth Mr. Griffiths, yr hyn a gymmer- odd le y 25ain o'r mis diweddaf, ynLlwynybrain, uwchben pentref Llanharan, lie y treuliodd yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes, a'r lie o ba un y claddwyd y duwiol a'r dysgedig Noah Jones, hen weinidog Taihirion a Llanharan. Y Llun canlynol, ymgynnullodd torf luosog yn nghyd er dangos eu parch i'r ymadawedig, a'u cydymdeimlad a'i deulu galarus. Yn gynar y bore yr oedd y Parchn. Jones; Edwards, Aber- dare; Williams, Abercwmboy; Thomas, Bryn, Llanelli; Davies, Caerdydd; Davies, Taihirion; Evans, Maendy; Puntan, Cymmer; Jones, Wattford; Morgans, Llwyni, wedi cyrhaedd, ae erbyn pryd cychwyn a'r corph tua'r gladdfa, gwelem y Parchn. Morgans, Bethesda; Jones, Tre'newydd; Jones, Oefncribwr; Griffiths, Glan- taf; Griffiths, Llantrissant; Beynon, Nantgarw; Stephens, Taibach; a Matthews, Castellnedd. Yn y ty, darllenodd a gweddiodd Mr. Williams, Abercwmboy, yn gall, bywiog, a chymhwysiad- ol. Yna cawsom anerchiad effeithiol gan Mr. Jones, Pentyrch, ar y defnyddiau dyddanwch sydd yn yr efengyl hyd yn nod yn wyneb yr amgylchiad difrifol o golli perthynasau a chyf- eillion, a dybenwyd trwy weddi neillduol bwr- pasol gan Mr. Puntan, Cymmer. Ymffurfiodd y gweinidogion yn ddau a dau gan gymeryd y blaen, yna y pregethwyr cynnorthwyol; yna y gymdeithas ddyngarol i ba un y perthynau Mr. Griffiths, yna y corph, yna llu mawr 0 aelodau Llanharan,<CCreoes,;a'r eglwysi cylchynol, ac ym- symudodd y dorf fawr alarus yn araf tua chapel Llanharan, priodol y gellir dweyd 'a'r galarwyr yn myned o bob ty yn yr heoJ.' Yn y capel dar- llenodd a gweddiodd Mr. Evans, Maendy, yn afaelgar iawn, a phregethodd Mr. Morgans, Bethesda'r fro, yn felus, oddiwrth y goiriau, Ac y mae cyfaill a lyn wrthyt yn well na, brawd'; a Mr Edwards, Aberdare, ar Fywyd a marwol- aeth Simeon,' yn rymus; a chyfeiriodd Mr. Thomas, Bryn, at y parch a deimlid at, ac a ddangosid i Mr. Griffiths pan dalai ymweliad a'i hen ardal enedigol yn Mhenfro, a dybenodd trwy weddi. Wedi gosod gweddillion marwol yr hen gyfaill anwyl yn nhy ei hir gartref, areithiodd Mr. Matthews, Castellnedd, yn doddedig a dy- lanwadol, a gorphenodd Mr. Morgans, Llwyni, trwy weddi, ac ymadawyd mewn cymmysg deimladau 0 hiraeth a llawenydd—hiraeth o'i golli a llawenydd wrth feddwl am ail gyfarfod y dydd a ddaw. Yr oedd Mr. Griffiths yn ach- wyn er mis Awst blwyddyn i'r diweddaf, a pharhaodd o hyny hyd ei farw i raddol golli tir. Nid oedd mewn un modd yn ofni marw ond teimlai yn hyderus a hunanfeddianol yn ami wrth siarad am y cyfnewidiad. Yr oedd yn credu o'r dechreu na buasai yn cael ei ad- feryd er hyny ni bu heb ymgynghori a modd- ygon, cymeryd moddion, a 4ewid awyr, ond o
MISTRI GOLYGWRS.
-J_ weti cwni ati fel dynon yn timlo taw Ymlldiwrs i nhw, ae nid gwishon bach Doctor Price. Wel, ta beth, nos Ferchar dwetha fe gwrddws bothti ddoi cant o bryf Ymlldiwrs Byrdar, yn windogion a lleig- ""on, yn Scoldy Sloa. Fotwd Mr. Davie's, Masyffyn- non. i'r gatar. Agorws ynte y cwrdd yn gall han- -gyffretin. Arath anghomon o dda nath e. Pwnc y cwrdd, medda fe, odd, settlo, a hoi nhw fel Ymlldi- wrs yn pendrfyni myni Ymlldiwr i cynyrchioli nhw yn y Parlament nesa. Os doi nhw, pwi odd e i fod. Rhodd e yn i gweid hi yn gampis ac i'r pwrpas. Weti iddo fe gwpla, dyma Dr. Price ar i drad mor ilytan y 110 blwidd, mor scwar a llyffan, ac mor hynanol a phe tysa fo yn Emprwr Ynys Henlli. A gwiddoch chi beth gas e yr impidens i ddweid. Nad cs dim isha gwell dyn na Mr. Fythagil. Bod Mr. Fythagil wedi gweid y bysa fe yn gneid cystal a neb dim, ond iddo gal mind i miwn, achos i fod e wedi facu yn Byrnant, yn napod llawer o nhw, ac yn catw llawer o withwrs (a sa fe yn gweid y cwbwl, shop y Cwmpni hefyd). A tysa chi ddim ond i glywadeyn bwgwth, dim ond iddi nhw find a'i Hymlldiwr i'r Pol, y celsa nhw weld taw dros Mr. i ythagil y byse y dynon yn foto, a rheini yn gystal Ymnlldiwrs a neb odd yn y cwrdd y nosweth yni. Ond, ta beth, wedi i shew o ddynon sharad yn ffamws hefyd, fe gi-nitws y Parch. Mr. Phillips, gwnidog y Baptis yn Braman, fod Ymlldiwr i gal i waodd i .ddod yn mlan i sefyll am yr hail set yn y Parlament. Ond dyma y Dr. yto ar i drad, ac yn fimig fel gwyll- iant, gan fod tri o fonddigion rhiddfrydig ar y mas yn barod, nad odd hi yn gyfleis i Ymlldiwrs Byrdar i waodd un arall. Wrth gwrs, ma rhiw gynffona gytar Dr., ac fe fie yn i casli nhw at i gilydd i ddod .i r cwrdd hefyd, a phan ddotws y cydeirydd y gwyll- iant i'r cwrdd, wrth gwrs, fe gwnws y Dr. i law i'r lan, a dyma y cynffona bach gytag e. Ond, dir an- -1, y pendrfyniad cynta cariws hi o (Icliosa, Rhodd y Dr. wedi fEyrnico trwyddo herbyn yn, ond y cwrdd yn mind yn mlaen fel sa neb yn ito dim am dano. 'Gweti yny, pendrfynwid gwaodd Mr. Henry Richard, a ffixwd Pwillcor i gidweithreti a Pwillcor Myrthyr, Rhw i yn discwl y bydd cwrdd mawr coiddis yn y Temprance All mas law, ac y bydd y bechcin yn i sharad hi dros fraich ac hysgwidd am Henry Richard. -Gwell i'r Dr. drio bod a gwaew yn i fola y nonweth ono, ac aros yn nhre yn y cornal gwell iddo bido dod i'r cwrdd ta beth, sy ora iddo, onte fe gaiff e. weid Wel, ma Ymlldiwrs Byrdar yn awr ar ben y ffordd rheit, a gobitho y gna nhw ag Ymll- diwrs Myrthyr weitho gytai gilydd. Hall ands pon dee fechcin a chwetin, pan gewg ni weld Henry Richard ar dop y Pol, tyna lie bydd Hura, Henry Micliard for ever, Fythagil a Dr. Price yn y giotar. echcin Byrdar, pidweh mindo y Dr., ewch yn mlaji yn hwrol. Mae fe yn gweid y byddy Baptis i gid gita fe, pidwch creti shwd beth. Mr. Phillips, raman, i chin gweid, ginicws nos Ferchar dwetha am gal Ymlldiwr, agwiddoch fod Mr. Phillips yn well dyn. or hanar nar Dr. Price. Os diw y Dr. yn cwni dyn ir lan, ma fe i hynan yn dod lawr yn ffast .arswidis, a synwn i ddim taw nifyn i weld e heb fod yn hur iawn yn gorffod cwni bac ag off a ge. 0 bob ■dvn yn Myrthyr a Byrdar, fe yw y dyn mar Ymll- diwrs wedi cal i shomi fwia ynddo. Dodd neb yn meddwl am frwddwido na fysa fe y cynta i weiddi am Ymlldiwr; yn lie yni fe odd y cynta i wrthwin- ebi. Nawr, gwyr Byrdar, sticwch ati fel hun gwr. A lychco chi, fi na i watsho shwt y byddweh chi yn gneid, a shwt y bydd y Dr. yn bihafio, ac fi weta, y cwbwl wrth Golygwrs y TYST. A meinded y Dr. rbag iddo dynu gwyr y ffrigs a'r rabbles yn i ben, achos dos dim ffordd fawr o Byrnant i Rose Cottage. Yr eiddoch,.&c., J IRHEN BUDBLAR. 'i'(