Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

,,,', LLAFUR EFENGYLAIDD YN…

,CYFOETH A THLODI Y WLAD.1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFOETH A THLODI Y WLAD. 1 Mewn gwlad newydd mae y preswylwyr yn agos at eu gilydd o ran eu hamgylchiad au bydol. Mewn hen wlad ceir llawer o gyfoeth a llawer o dlodi, tra nad oes nemawr o'r naill na'r Hall mewn gwlad newydd. Os bydd tlodi gwlad yn cynnyddu yn gyflymach na'i chyfoeth, y mae mewn cyflwr gresynol; ond os bydd ei chyfoeth yn cynnyddu yn gyflymach na'i thiodi, y mae mewn cyliwr gobeithiol. Wrth edrych yn ol am y deng mlynedd ar hugain diweddaf, a disgyn o gam i gam at yr amser presenol, y mae yn hyfryd meddwl nad yw cynnydd tlodi yn ein gwlad wedi bod yn agos gymmaint a chynnydd y boblogaeth. Yn y flwyddyn 1834, yr oedcl 6,317,255p. yn angen- rheidiol er cynnorthwyo yr anghenog, tra nad oedd y boblogaeth ond 14,372,000. Yn y flwyddyn 1865, ni thalwyd i'r tlodion ond 6,264,961p., er fod y boblogaeth yn 20,881,000. Dengys y ffiigyrau hyn naxir-yw tlodi y deyrnas wedi cynnyddu ynystody,3mlynedd diweddaf, er fod y boblogaeth wedi cynnyddu 30 y cant, neu tua 7,000,000 o bersonau. Tranad ydyw y swm angenrheidiol er cynnorthwyo y tlodion wedi cynnyddu, y mae cyfoeth y wlad wedi cyn- nyddu yn fawr. Os awn yn ol at y flwyddyn 1841, yr ydym yn cael fod eiddo trethadwy Lloegr a Chymru at y tlodion yn 62,540,O^Op. Erbyn y flwyddyn 1850, yr oedd yr eiddo treth- adwy er cynnal y tlodion wedi cynnyddu i 7l,840,27lp. Ond yny deng mlynedd o 1856 i 1866 ybu y cynnydd mwyaf. Erby h y flwyddyn ddiweddaf yr oedd yr eiddo trethadwy at y tlodion yn 93.,638,403p. Nid yw y swm mawr hwn ond cyfran fechan o incwm blynyddol y deyrnas, canys yr oedd yr holl incwm yn 500,000,000p. Os edrychwn ar dlodi y wlad yn wyneb cynnydd y boblogaeth a chynnydd yr incwm blynyddol, y mae genym bob sail i gymmeryd eysur cryf. Yn y flwyddyn 1864, talwyd 6,439,517p. mewn cyssylltiad a'r tlodion. Gwariwyd yn agos i 2000,000]). o'r swm hwn at bethau yn dal cyssylltiad a'r tlodion, a rhywbeth fel 4,000,000p. yn uniongyrcliol i'r tlodion. Talwyd 730,74Gp. yn gyflogau i'r relieving officers. Talwyd 180,746p. yn eu holau, o'r arian a fenthyciasid er adeiladu workhouses. Gwariwyd 576,116p. ar wahanol bethau eraill. Gwariwyd 556,482p. ar iwallgofiaid; ac nis gellir dysgwyl y bydd y swm hwn yn llai am y blynyddoedd dyfoiol. Cost- iodd cynnaliaeth y tlodion yn y workhouses 1,188,784, a tkalWyd 3,196,685p. mewn ffordd o gynnorthwy i dlodion y tu, allan i'r workhouses. Y aemrLachoson, wedi cvdweithio er lleihau tlodi yn ein gwlad, megis masnach rydd, ymfudiaeth o'r wlad hon i wleaydd eraill, ac o'r ardaloedd lie y mae prinder gwaith i'r trefydd a'r gweithfeydd He y mae cyflog da am lafur; ac ni a obeithiwn fod y bobl yn gyffredinol yn fwy cymmedrol yn eu harferion, ac yn fwy trefnus yn eu darbodaethau. I I"

CYDYMDEIMLAD.

aradorthttttt. --

HERBERT CALEDFRYN WILLIAMS.

..'.'"ETO.\."'"'"

; v ETO.,

ANERCHIAD I BLANT YSGOL SABBATHOL…

■■ ■ i onv .'.'liv'i; io

dntY\1iad y ata\1.

[No title]