Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

.,PLA Y GWARTHEG. ,

TAN DINYSTRIOL YN NGHAER■…

EIS TEDD FOD FF lint.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIS TEDD FOD FF lint. Cynnaliwyd Eisteddfod odidog o fewn hen Ga,stell Dinas FHint. ar fanciau yr afun dyddiau Mawrtli a. Mercher diweddaf. Codwyd tent, ardderchog i gynnwys dros 2,000 o bersonan o fewn hen adfeilion disgrifiol y lie. Yr oedd ri hollle wedi ei addurno yn brydferth a mottoes priodol i'r achlysur. Banerau yn cliwilio yn yr awelon, ac arnynt-' Bluen Tywysog Cvniru (lch Dien),' Ood bless the Prince of Wales.' May England and Wales ever be united, 'Hen Gymru fynyddig, paraclwys v bardd. Pob dvffryn, pob clogwyn i ,ii golwg sydd Llywydd y dydd ydoedd y Parch. J. Butter- wortli, gweinidog y Wesleyaid yn Hawarden. R. Parry (Robin Ddu Eryri), yn absenoldeb Tal- haiarn o herwydd y gout, oedd yr arweinydd, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. R. P. Roberts. Y beirniaid barddonol a rhyddiaetliol oeddynt Mr. E. Jones (Ieuan Callestr), Mr. R. Parry (Robin Ddu Eryri), Mr. J. Brereton (Andreas. as. 0 Fon), Mr. 0. Jones (Caradog), &c. Am 11 o'r gloch, ymilurnodd y beirdd a'r pwyllgor yn orymdaitli wrth y TOAHI Hall, yn cael eu blaenori gan seindorf gwirfoddolion Z7, Wyddgrug, ac aethant i'r tent yn yr hen gastell.. lie yr agorwyd yr Eisteddfod gyda'r holl rwysg. arferol, gan Idwal fel y càlllyn Natur, cel- fyddyd, a diwydrwydd.' Y Gwir yn erbvn y byd. Cododd y cadeiiydd, a gwnaetli araetii hyawdl. Chwareuwycl unawd gyda'r delyn gan W. F. Frost, ennillwr y wobr ar y delyn yn Eistedd- fod Genhedlaetliol Caer. Anerchion barddonol gan H. Gwerfyl James. Robin Ddu Eryri, Joseph Jones, Pantasa, l'en- rhyn Fardd, a John Morris, Rliyl. Yna ymgystadleuaeth gerddorol ar hen alawon Cymreig, cydrliwng AlaiN- Alun, Brymbo, yr hwn a ganodd 'Hen Iaitli Gwalia'—A\ C. Eaton, yr hwn a ganodd Hen Wlad fy Nliadan.' Cylioeddwyd Alaw Alun yn fuddugol, ac anvisg- wyd ef gyda thlws a gwobr gan Miss Roskell, o Birkenhead. Rhodclwyd y wobr am y ddau englyn goreu i'r diweddar Dvwysog Albert i Mr. T. J. Evans, Abererch, Aberystwyth. Rhoddwyd y wobr am y cyfieithiad goreu o ymadrodd Shakespeare, 'A good name in man and woman is the immediate jewel of the soul' i Mr. W. C. Eaton (Idwal). Yna bu ymgystadlu ar y piano cydrhwng Miss Davies, o Ffiint, a Miss Roberts, o Gaer, yn chwareu Merch Megan'—y ddwy o dau 18 oed. Canodd Mr. T. J. Hughes, Liverpool, 'Melin- ydd y Dyfrdwy' gyda y fath fedr, fel yr ail alwyd arno. Ennillodd Mr. J. Humphreys, Talybont, ar Feddargraff y diweddar Barch. Michael Parry, Ffiint. Areitliiodd Robin Ddu yn Gymraeg. Cystadleuwyd mewn canu gan gorau Brymbo a'r Cambrian Harmonic, ar 'Serch Hn.dol.' Rlioddwyd y wobr i'r Cambrian Harmonic. Malgwyn Gwynedd a ennillodd ar y traethawd ar Dynerwch tuag at Anifeiliaid Mud.' Miss Margaret Jones, o'r Cambrian Harmonic 11 Choir, a ennillodd ar ganu cydrhwns; NMMke dau 18 oed. Canu Pennillion cydrhwng Price ftcberts, o Ruthyn, a Thaliesin, o Eifion. Anerchodd Eos Mai y cyfarfod, yr hwn oedd beirniad canu pennillion. Diolchwyd i'r cadeirydcl, &c., a cliafwyd cy- nglierdd ardderchog yn yr hwyr.

[No title]