Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YR HEN DEILIWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HEN DEILIWR. ;LLYTHYK VI. At Olygydd Y Tyst Cymreig." Syr,—Dylaswn hwyrach fod wedi crybwyll cyn hyn, bod camsyniad mawr yn meddyliau dynion yn gyffredin, am y Teiliwr a'i waith. Cred llawer ydyw bob amser, mai gwaith hawdd ac sgAfn ydyw gwaith y Teiliwr, cyfeiliornad dirfawr yw liyny, fel y gwyr pob Teiliwr yn dda trwy brofiad. Na, na, peth difrifol iawn i ddyn ieuanc ydyw myned yn Deiliwr, gwybydded a chreded pob bachgen ieuanc a feddylio am ymgymeryd a'r alwedigaeth hyny, ac eistedded i lawr, a bwried y draul yn dda, cyn cych- wyn yr yrfa. Buan y caiff y bachgen prentis ddeall ar ol dechreu, mai nid chwarae o beth ydyw eistedd ar fwrdd caled a'i draed yn mlifetli am oriau lawer bob dydd, a bod a'i ben i lawr, a'i lygad yn dyfal hwylio cerddediad y nodwydd, a'i fraich ar ysgogiad trwy gydol yr amser. Y mae adgofion byw am wythnosau cyntaf fy mhrentisiaeth, yn aros yti fy meddwl hyd y dydd hwn. Clywais weision a gweithwyr'ar ftermydd yn cwyno'n dost gan glwy y bladur lawer gwaith. Dyn a'u helpo, beth yw clwy y bladur wrth glwy y nodwydd ? Na, ni wyddant hwy mo'u geni i'r byd wrth a wyr ae a brofa y Teiliwr, yn wythnosau cyntaf ei brentisiaeth. Dys- gyblaeth ofnadwy i goesau a chluniau, a gwar a gwddf hogyn i'w dwyn a'i dyoddef ydyw y Deilwr- iaeth. Ond ymostyngant iddi a dygymmodant a hi, mewn amser. Erbyn tua diwedd y chweched mis o flwyddyn gyntaf fy ysgoloriaeth Deilwraidd, yr oedd fy holl aelodau a'm cymalau wedi plygu a thawelu i'r oruchwyliaeth yn lied dda. Y mae y ddysgybl- y aeth yr a y Teiliwr trwyddi i'w dori i lawr i'w grefft yn gadael ei hoi arno dros ei fywyd. Y mae yn cerdded yn wahanol i ddyn avail; cerdda'n lletacli yn gyffredin gellid gyru berfa yn mron, rhwng coesau ambell i Deiliwr, ac y mae ei fraich dde yn ysgwyd yn brysur fel pendil wrth ei ochr pan f'o'n cerdded, a hyny yn gyffredin, y mae yn chwim a sydyn ei ysgogiadau. Y mae delw goruchwyliaeth ei grefft i'w gweled ar gorph a cherddediad y Crydd yntau. Y ddau hawddaf i benderfynu wrth yr olwg arnynt, a'u dull o gerdded, i ba alwedigaeth y per- thynant ydyw y Teiliwr a'r Crydd, o bawb. Cerdda y Crydd yn gulach na dyn arall. Y mae ei waith ef yn gofyn iddo wasgu ei ddau ben lin yn nghyd, yr hyn a bar i flaenau ei draed ogwyddo y naill at y Hall, ac y mae yr agwedd hono i'w gweled arno'n cerdded, yn hollol wahanol i'r Teiliwr. Y mae ysgogiad braich y Crydd hefyd yn wahanol wrth gerdded y mae ef a'i benelin allan, ac yn ysgwyd ei fraich ar draws ei fynwes, fel pe byddai am lifio'i hunan yn ddau. Maddeued fy mrodyr, y Teilwriaid a'r Cryddion, i mi, am gymeryd fy rhyddid fel hyn i athronyddu ar ddylanwad eu galwedigaethau ar eu personau a'u hagweddau. Y mae celfi galwedigaeth y Teiliwr yn wahanol iawn yn awr i'r peth oeddynt gynt. Nid oedd y line a'r ffigiors ar hyd-ddi, yn beth adnabyddus i'r frawdoliaeth yn y dyddiau hyny,—llinyn mesur y Teiliwr, fyddai papur llwyd, neu hen bapur newydd wedi'u tori yn slangs tua haner modfedd o led, a'u pwytho yn nghyd, i wneud yr hyd priodol, a thori marciau neillduol y byddid ar ymylon y line i ddy- Tiodi y gwahanol hydau a mesurau. Nid oedd yr ysgwar a'r ffig'rau ar hyd-ddo yn adnabyddus chwaith, weithiai mesurai Teiliwr fon y fraich a'i law, i dori coat wrthi. Ymaflai yn ysgwydd dyn a'i law aswy, a dodai benau ei fysedd a'i fawd yn y ffarf hono ar y brethyn, a sialciau'r cylch o gylch y bysedd, a'r Haw ddehau. Weithiau dodai fowlen ar ei gwyneb ar y brethyn, neu'r defnydd, neu bedol hwyrach, i dori ffurf bon y fraich wrthynt. Ac ystyried eu hanfanteision, yr oedd yn rhyfedd bod yr hen Deilwriaid yn gallu gwneud cy tal llun ar ddillad ac oeddynt. Mae gan y genhedlaeth bres- .enol o deilwriaid lawer o achos i fod yn ddiolchgar am y rhagorach manteision sydd ganddynt, yn y pethau a berthynant i berffeithiad eu celfyddyd, nac oedd gan eu tadau. Yn mhen rhyw yspaid o amser wedi i mi fyned at Huw Pry s, clywais ymadrodd hollol ddieithr i mi o'r blaen, yr hwn a barodd i mi radd o syndod. Un bore pan oedd Meistr a minau yn myned i dy o'r enw Pantmawr i weithio, cyfarfu cymmydog a ni ar y ffordd, a gofynai, J b'le 'r ydych chi yn myned i chwipio'r gath heddyw, Huw ?' Yr oedd myned i chwipio'r gath' yn hen ddihareb yn mysg teil-wriaid y wlad, a phobl eraill hefyd, erbyn i mi ddeall; a rhaid fy mod inau wedi ei glywed ond fy mod heb ddal sylw arno erioed. Yr wyf wedi addaw myned i'r fan a'r fan i chwipio'r gath" yr wythnos nesaf,' meddynt. A phan dclygwyddai i luaws o deilwriaid daro ar eu gilydd ddiwrnod ffair, a chael gwydryn yn nghyd, adroddent eu helyntion yn chwipio'r gath, yn y fan hon a'r fan arall, yn ddoniol i'w gil- ydd. Pa bryd, a pha le, ac ar ba achos neu achlysur, y dechreuodd y ddihareb hon, ydynt gwestiwnau haws i'w gofyn na'u hateb. Methais i, o leiaf, a chael dim sicrwydd yn eu cylch. Ni allodd dysg- edigion anrhydeddus eraill y nodwydd erioed gytuno ar y pwnc. Yr esboniad a roddai fy hen feistr Huw Prys i mi ar y ddihareb sydd fel y canlyn: dywed- ai iddo gael y chwedl yn ysgrifenedig mewn hen lyfr, Y!l y modd yma, Yr oedd yn byw gynt ar gyffiniau Ardudwy hen deiliwr hybarchus. Efe un dydd, a fore gyrchai i dy cyfrifol yn y fro hono, i ddilyn cwrs ei alwedigaeth, a damweiniai bod glamp o gwyr melyn ganthaw, yr hwn a ddodai ar y bwrdd. A gweled a orug y gath y clamp cwyr melyn, a thyb- i.w a wneddyw ei1 fod yn gyfryw ddanteith-fwyd ac a garai cath ei fwynhau, ac o hyny, yn ngrym tra- ch want natur reibiol-wanc cath, hi a roddes lamgyrch ystwyth-chwim arnaw, ac a'i cipiws ymaith, a mawr y dmfferth a gafwyd i'w adfer oddiarni. Y bore dranoeth, ar ei ffordd tua 'r ty, tori a orug y teiliwr swrn o frigau coed bedw briglas a'u rhwymo yn wialen. Ac wedi myned o honaw i'r ty, gofyn a wnaeth un o'r teulu i ba bwrpas y dygasai y wialen. "I chwipiaw'r gath ef atebai. A thaenwyd y gair hwn yn mysg teilwriaid y rhan hono o'r wlad.' Dyna'r esboniad a gefais i gan Huw Prys, ac a gaw- sai yntau gan ei henafiaid; ac i'r farn hon yr oedd Huw yn gogwyddo. Barnai eraill nad oedd chwedl y cwyr melyn ddim ond dychymyg ddisail; mai ei dyfeisio a wnaeth rhywun i'w chynnyg yn esboniad ar y ddihareb ddyrus, fel y dyfeisir llawer o chwedlau ac esboniadau ar lawer o ymadroddion ljawer pwys- icach na'r ymadrodd chwipio'r gath.' Tybiant hwy fod dechreuad y peth yn syml, a'i ddeongliad yn hawdd ac eglur, sef bod pob cath, yn enwedig fpob cath ieuanc, yn hoff iawn pan welo bellen o edatedd o fyned i ymbawenu a hi, ic o ganlyniad hi a bar flinder a thrafferth nid bychan i'r teiliwr yn fynych, .fel y gwn i fy hun yn dda, a Ilawer gwaith y bum yn eadw gwialen i warchod y bellen rhag y gath,yn mhob ty y byddai cath ifanc yn enwedig. I'r golyg- iad olaf am achos a dechreuad y ddammeg y byddaf fi yn gogwyddo, ac fe ddichon, y nifer fwyaf o'n hawdurdodau yr un modd, eto dichon fod llawer i'w ddywedyd tros y golygiad cyntaf, yn enwedig Celtigrwydd (os goddefir y fath air) arddull y chwedl. Os nad ffugwaith mewn oes ddiweddar ydyw yr ar- ddull a'i gwisga, rhaid bod y tracldodiad wedi dyfod i lawr o ddyddiau y Gogynfeirdd feddyliwn, ac os felly, y tebygolrwydd yw, fod gwir yn chwedl y cwyr melyn. Ond hwyrach y byddwch chwi yn diflasu, a'ch darllenwyr yn dwrdio fy mod yn ymadroddi cyhyd gyda pheth mor ddibwys a hyn. Wel, yr ydwyf yn addef mai peth dibwys ydyw, a diddyddordeb hefyd efallai i'r rhan fwyaf, ond y mae yn hawdd i un fod yn hir a maith gyda pheth y byddo ef ei hun yn teimlo gradd o ddyddordeb ynddo, ond ymdrechaf beidio ymdroi yn y wedd yna gyda dim eto. Tyb- iais wrth gychwyn ysgrifenu, y gallaswn gyn- nwys y cyfan oedd genyfi'w ddywedyd mewn rhyw dri neu bedwar pwt o lythyr, ond mae'r peth yn chwyddo dan fy nwylaw rywsut. Yr wyf yn gweled yn awr y gallwn ysgrifenu, am wn i, gant o lythyrau ar adgofion fy mywyd, ond gadawaf ar hyn yna y tro hwn. Yr Eiddoch, &c., YR HEN DEILIWR.

AT OLYGYDD Y ' TYST CYMREIG.'

AT OLYGYDD Y " TYST CYMREIG."

BLAENAU FFESTINIOG.

TAITH 0 GWYNFE I AMERICA.

.'.'''''., ;J111 ;•••;Y PPA^JDDYN…