Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL TY'NYGWN-DWN,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL TY'NYGWN- DWN, CEREDIGION". Cynnalhvyd y cyfarfod uchod ar y Mercher a'r Iau, Gorph. 31, ac Awst 1. Cadeirydd y Gynnadledd,—Parch. W. Evans Aberayron. Penderfyniadau:— 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Horeb, yn mis Hydref. 2. Fod yr achos y bwriada y Parch. Mr. Thomas, Llanfair, i ymweled ag eglwysi y sir o'i herwydd, sef casglu at Gapel Cellan yn gymeradwy. 3. Fod y cyfarfod hwn wrth ystyried fod Cym- deithas Genhadol Llundain o dan y fath faich o ddyled yn bresenol yn teimlo yn ddwys eu rhwymau i chwanegu eu casgliadau y liwyddyn hon, er symud ymaith y ddyled. ac yn dymuno annog yn garedig y gweinidogion a'r eglwysi yn y sir i wneud eu casgl- iadau yn yr amser mwyaf manteisiol, a chymhell y bobl ieuainc i gynnorthwyo yn yr achos da hwn, I 4. Dygwyd ger bron y Gynnadledd weithrediadau Pwyllgor Coleg Aberhonddu am y flwyddyn ddi- weddaf, ac yn neillduol yr hyn a wnaed ganddynt yn mis Mehefin diweddaf, mewn perthynas a'r ym- geiswyr. Bu cryn siarad: tipyn o wahaniaeth barn ar ryw bethau. Yr oeddym yn hollol uayn ein sel o blaid y Sefydliad da hwn, ac yn benlerfynol i wneud ein goreu yn mhob modd i siorhau ei lwydd- iant, ac yn dymuno ar yr eglwysi i beidio atal na lleihau eu casgliadau at gynal y myfyrwyr. Gohiriwyd y Gynadledd hyd 9 bore dranoeth. Y Parch. Mr. Thomas, Penrhiwgaled, yn y gadair. Ar ol cryn ymddiddan, mewn yspryd tawel a phwyllog, ac ar y cyfan unol, pasiwyd y penderfyniad canlynol:— At Bwyllgor Coleg Aberhonddu, "am 1866-67. Gan fod eich ymddygiad tuag at yr ymgeiswyr yn Mehefin diweddaf, yn anesboniadwy i ni, dy- munwn arnoch fel gweision y cyhpedd i roddi pob eglurhad dichonadwy ar— 1. Paham y derbyniwyd rhai o'r ymgeiswyr ac y gwrthodwyd y lleill ? 2. Beth oedd safon eu derbyniad? 3. A fu y fath safon'o'r blaen ? Creda y Gynnadledd fod atebiad buan i'r gofyn- iadau uchod yn angenrheidiol cyn ybydd ynddoeth i wynebu ar y sir i ofyn eu cyfraniadau at y Colegdy newydd. Os na wna rhyw un o'r Pwyllgor ateb y gofyniadau, hyderwn y gwna y Cadeirydd, sef y Parch. Mr. Edwards, AbertTare, eu hateb. Pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan y Parchn. T. Selby Jones, Drewen; W. Rees, Llechryd; Davies, Aberteifi; Phillips, Horeb Williams, Hawen; Thomas, Penrhiwgaled Saunders, Aberystwyth; Williams, Castellnew- ydd; Davies, Glynarthoja; Jones, Ceinewydd; Evans, Pantycrugiau; a, Davies, Llanbedr.* Dechreuwyd gan y Parch. J. Morgan, Penlan; Mr. D. Thomas, Lancashire College; Mr. W. Jones, Caerfyrddin; Parch. Mr. Evans (T.C.), Abermeurig. J. M. P. t'

ABERSOCH, LLANENGAN.

DINBYCH Y PYSGOD.

mt¡Uiøu.,,.-

GRAIANRHYD.

CORWEN A'I HELYNTION.

RHYMNI.

.'.'''''., ;J111 ;•••;Y PPA^JDDYN…