Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Derbyniasom er cyhoeddiad ein rhifyn diweddaf, heb law a ymddengys yn y rhifyn hwn, yr ysgrifau canlynol:—B— o M-, Penrhyn Fardd, T. Jeffreys, R. Crosby, Mab y Daran, Hen Borthmon, T. Sarah, Idris lal, Gorwynt Ddu, J. 0. S., Mouvin, G. P., R. R., ac eraill. Creigfryit.-Bydd newyddion y Dyffryn yna yn dderbyniol iawn. &" Aeth Cyfarfod Croesawiad Mr. Farr, a'r Daith o Gwynfe i America yn feithach na'n bwriad. Ond y mae cymmaint o gyssylltiadau agos rhwng Cymru ac Awstralia, ac America, fel y tybiwn na byddant yn faich i neb a gwyddom y byddant yu ddyddorol gan filoedd. W. T. I-I.-Bycld yn dda genym glywed oddi wrthych yn ami. Hen Borthmon.—Yn y nesaf. Ymweliad a Pai-is.-Daw allan yn y nesaf. Cwrdd Chwarter Ceredigion, a Choleg Aberhonddu, a'r Parch- TV. Edwards, Aberdar.—Yr oedd colofnau ein gohebiaethau yn Hawn pan y daeth i law. Daw allan yr wythnos nesaf. Hen Wr.—Illiy ddiweddar, cewch sylw yn fuan. E. D.-Nid.angilofiwn chwi. .Rlzcdynog.-Yn rhy ddiweddar i'r rhifyn hwn. Bro Givalia.-Gan fod colofn y Farddoniaeth mor llawn y tro hwn, rhoddwn eich englyn yn y fan hon. ENGLYN I Mr. Richard C. Williams, Pen Cerddor, Caernarfon. Pen Cerddor godidog mewn cora-yw Williams hefo 'i dona; A mawl i'r gynnulleidfa, Yn eordio allan o'i ena. BRO GWALIA. Cyfeirier y Gohebiaethau, &c.-To the Editors of the TYST, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
t Mthuo.
t Mthuo. Ar y I7eg cyfisol daeth breilhin Groeg i Lundain, ac wedi talu ymweliad a'i chwaer Tywysoges Cymru, aeth i Osborne. Teimlir llawenydd cyffredmol oherwydd fod iechyd Tywysoges Cymru yn llawer gwell, y mae hi a'i phriod wedi myned i'r Cyfandir, lie yr atosant am rai wythnosau. Cyu pedair a-wr ar hugain ar ol pasio y Reform Bill, ymgyfarfu Dirprwywyr y Terfynau, fel eu gelwir—gwaith y rhai fydd penclerfynu terfynau y dosbarthau etholiad- ol, o dan ddeddf newydd y Diwygiad. Rhanasant Loegr a Chymru yn ddeunaw dosharth; bydd bar-gyfreithiwr, a swyddog mihvrol, yn gweithredu fel is-ddirprwywyr yn mhob dosparth. Bwriada y Cyngrair Diwygiadol gadw gwyl fawr yn fuan, er datgan eu llawenydd I am lwyddiant eu llafur, ac anrhydeddu blaenoriaid y bobl yn, a thu allan i'r Senedd. Tra yr ydym yn mawr lawenhau yn y fuddugoliaeth a cnillwyd yn y senedd-dymor diweddaf, yr ydym yn mhell o feddwl fod y gwaith wedi ei orphen. Pan oedd pobl Eu- TOP yn teithio tua Jerusalem yn amser Rhyfel y Groes, gofynai y plant i'w rhieni pan welent bentref lied olygus, Ai dyma Jerusalem? Nage, attebai y rhai mwyaf gwybodus. Nid ydym eto yn. Jersulem. Digon gwir fod cynnydd mawi* wedi ei tvneyd, a buddugoliaeth bwysig wedi ei lienill yn vplod eisteddiad diweddaf ein sen- edd, oitin- nid ydyrn eto yn Jerusalem. Ym- ddungosodd dan lythyr nodedig ar y peh, hwn yn y papurau Seisnig, ddechreu yr wythnos hon,—y naill gan Mr. Bright a'r Hall gan Mr. J. Stuart Mill. Ystyria y cyntaf mai dyledswydd bresenol diwygwyr ydyw gofyn yn uchel, a gofyn yn wrol am y Tugel; ac ystyria yr olaf mai y peth pwys- icaf ar hyn o bryd ydyw addfedu mesurau er anfon diwygwyr trwyadl i'r senedd yn ystod yr etholiad nesaf. Y mae y ddau foneddwr talentog hyn yn amgyffred sefyllfa wladyddol y deyrnas yn lied gywir, ac yn cyd ymdeimlo yn hollol a'r bobl. Nid oes lie i amheu amcanion y ddau vr enwog am foment. Nis gall cyffroadau roddi un dyrehafiad i Mr. Bright, canys y mae efe eisioes wedi dringo i binacl uchaf clod. Ac am Mr. Mill, yr hwn sydd yn sef- yll yn uchel fel athronydd, a'r hwn a gydna- byddir fel un o brif feddylwyr yr oes hon, nls gall fod ganddo hyfrydwch mewn eyffro- adau gwerinol, oni bae ei fod yn argyhoedd- edig fod hyny yn anghenrheidiol er diogel- wch y wlad a chysur ei thrigolion. 0 Mae pob argoelion fod masnach, o'r diwedd yn edrych i fyny, diau fod y tywydd teg, a'r gobeithion am fara rhad wedi effeithio yn fwy na dim arall er adferu hyder a dihuno yspryd anturiaeth yn ein masnachwyr. Y mae gwell enwd o wenith yn yr Unol Dal- eithiau eleni, nag a welwyd erioed o'r blaen. Y mae y cynyrch am y flwyddyn hon yn 250,000,000 bwsiel, ar gyfer 180,000,000 yn y flwyddyn ddiweddaf. Rhywbeth fel 5 bwsiel, neu bump a hanner ar gyfer pob dyn fyddai y cnwd yn ystod y blynyddoedd a aethant heibio, ond eleni y mae yn chweeh bwsiel ar gyfer pob dyn. Y mae yr ystadegau sydd genym yn dangos fod llawer mwy o lo wedi ei anfon allan o borthladdoedd Deheudir Cymru, yn ystod y mis diweddaf, nag yn Gorphenaf 1866. Y mae yr hyn y mawr sonid am dano ar y Cyfandir wedi cymmeryd lie, ymgyfar- fyddodd Ymerawdwr Ffraincac Ymerawdwr Awstria. Edrychir ar yr amgylchiad yn bryderus drwy holl Europ, ofuir y gwaethaf a gobeitliir y goreu. Nid oes amheuaeth nad yw Ffrainc yn teimlo yn anesmwyth yn wyneb cynnydd a nerth Prwsia, ond hyderir yr a yr eiddigedd heibio heb dywallt y- chwaneg o waed. Dywedir fod yn mryd llywodraeth Awstria i roddi mwy o ryddid i'w deiliaid Protestanaidd, Eu rhwysg a llawenydd digyffelyb yn y Rhyl, dydd Llun, ar yr achlysvtr o agor y Rhodfa ar lan y Mor. Ymac y dref hall yn un o'r tefi hyfrytaf yn Ngogledd Cymru, a diau y bydd i'r cyfleusderau ychwanegol sydd wedi eu gwneud yno yn ddiweddar, yn foddion i ddenu llawer mwy o ymwelwyr i'r lie.
;;,.'c' tWlJ ddiou iramor.
'c' tWlJ ddiou iramor. Y DDAU YMHKRAWDWR. Y mae Ymlierawdv^-r Ffrainc wedi cyfarfod ag Ymherawdwr Austria yn Salzburg. Bu y ddau mewn yinddiddan agos yr adeg gyntaf y cwrdd- asont. Mae llawer o ddychymmygu beth oedd natur yr ymddiddan hwn. Tybia rhai fod y ddau yn awyddus am heddwcli, ac na wneir 1ill math o gynghrair, ond yn unig ddyfod i ddealltwriaetli a'u gilydd am ryw Lethau po torai rhyfel allan. Barna eraill fod rhyfel rhwng Ffrainc a Prwssia yn anocheladwy, ac y bydd i Ymherawdwr Aus- tria, os gadewir iddo gan ei biif weinidog, Baron Beust, fod mor wan a myned i gynghrair a Ffrainc er mwyn cael dial ar Prwssia am yr hyn a gollodd yn y rhyfel diweddaf. CHWYIJDROAD YN SPAKX. Y mae arwyddion o gryn anesmwythder trwy SpaeR. Dywedir fod y Cadfridog Prim. arwein. ydd y gwrthryfelwyr, wedi cymmeryd. llong o Genoa i Catalonia yn ddiweddar, ac fod ganddo gyflawnder o arian, wedi eu cael gan arianwyr Paris. Y mae y gyfraith filwrol wediei chyhoedi yn Barcelona. Y MORMONIALD YN UTAH. Y mae hi wedi dyfod yn argyfwng pwysig ar y Saint yn Ninas y Llyn Halen. Herir it wdurdod y llvwydd, Brigham Young, ac y mae yntau wrtlii a'i holl egni yn esgymuno, ac yn ceisio darostwng y saint terfysglyd. Vmddengys fod gwrthwyn- ebiad cryf gan un lilaid 1'1' cyfreithiau priodasol, ac i amlwreiciaeth, ohd y mae Young yn edrych ar y rhai hyn fel rhan hanfodol o Formoniaeth, ac nid yw yn foddlon i roddi un o'i wragedd i fyny, na chaniatau i neb arall wneud. Y mae ei ddegwm blynyddol yn cyrhaedd i gan mil o bunnau, ond os parha yr wrthblaid i gynhyddu. tra thebyg y bydd yn llawer llai y flwyddyn nesaf. Hefyd y mae y trigolion yn cael eu lian- esmwytho ar ol clywed am yr aur sydd wedi ei ddarganfod oddeutu 250 o filltiroedd oddiwrth y ddinas. Yrndyrir yno wrth y cannoedd bob wythnos, gan adael y maesydd gwenith brafia heb eu medi. Y mae pob gobaith am gadw y saint ar wahan oddiwrth y barbariad' wedi dar- fod. Bernir y bydd raid i Young neu flaenoriaid yr Nvrthblaid ymadael o'r ddinas yn fuan. CYNNYDD Y CHOLERA YN A-MKRICA. Y mae y cholera a'r clefyd melyn yn yindacnu yn New Orleans a Galveston, ac y mnc y cholem wedi cyxhaedd i ddyffi-yn y Mississippi. (Hhir y j bydd i'r tartliiadau ar ol y g^vlawogydd a'r Ilifog- ydd mawion beri i'r haint ymdaenui raddau di- frifol. Dywedir fod ychydig wedi eu taro o hono yn New York a'r cylchoedd. Y GWRTHRYFEL YN CANDIA. Tybiclunwaith fod ygwrthryfel yma wedi ei gwbl ddarostwng gan filwyr y Sultan, o dan ar- weiniad medrus Omar Pasha ond yn ol y new- yddion diweddaf, ymddengys fod y gwrthryfelwyr yn dal allan eto, ac fod y Tyrciaid wedi ymgilio o Spliakia. Mae Omar Pasha yn ddig iawn fod llongau Rwssia, Ffrainc, ac Itali, yn cael eu goddet i gymmeryd ymaith y teuluoedd Cretaidd, a dywedir ei fod wedi gofyn caniatad i adael yr ynys a dychwelyd i Constantinople. Hysbysir o Athens fod y gwrthryfelwyr wedi datgan i'r traf- noddwyr tramor eu bwriad i ddwyn allan lythyr- au adgipiad, er darparu herw-Iongau. Mae herw- longau Cretia i gario baner wen a chigfran goch ami, gydar arwyddair Cretia.' Y CHOLERA YN HOLLAND. Drwg genym orfod cofnodi fod y Cholera wedi tori allan yn Rotterdam; y mae mewn gwedd erchyll iawn. Ychydig o'r rhai a darewir t, t, ganddo sydd yn gwella. Cymmenvyd y cyntaf yn glaf ddydd Gwener, yr Hi eg, a'r Sabbath dilynol bu farw 5. Ofnir y bydd i'r flair fawr sydd ar gael ei chynnal yn y lie, yn nghyd a'r llygredd a'r aflendid sydd yn arfer cydfyned a hi, fod yn attegfa i'r haint dinystriol. iiv'.i
'"
Prawf poenus am Lofruddiaeth.—Dygwyd hen wraig, 66 mlwydd oed, o'r enw Ann Henchcliffe, ger bron yr ynadon yn Leeds, dan y cyhuddiad o lofruddio ei gor-wyr yn Knottir,gley. Aeth ei hwyres i'w thy i orwedd i mewn, ac y mae yn ymddangos i'r hen wraig wenwyno y plentyn. Yr hyn a wnai yr achos yn fwy difrifol byth oedd mai ei mberch ei hun-mam y plentyn oedd y prif dyst yn ei herbyn. Cymmerodd y rheith- wyr olwg drugarog ar yr achos ar gyfrif oedran y garchares; ac wedi tair awr o ymgynghoriad, dychwelasant y ddedfryd-- Dieuog.' Ffyddlondeb Ci.-Fel yr oedd boneddwr perth- ynol i'r Royal Victoria Hospital yn Netley, yn cymmeryd ei rodfa yn nghylchoedd Southampton yr wythnos ddiweddaf, a'i gi Newfoundland braf gydag ef. Yn y prydnawn, dygwyddodd iddo golli nifer o lythyrau o'i boced, ac aeth ei gi ar goll hefyd. Nid oedd yn pryderu llawer am y ci, am y credai y dychwelai adref; ond yr oedd yn flin am ei lythyrau pan ddeallodd eu colli. Penderfynodd fyned yr un llwybr dranoeth; ac er ei syndod, cafodd y ci ryw bedair milldir oddi wrth yr hospital yn gorwedd yn dawel, a'rllyth- yrau wrth ei ochr. Rhaid ei fod wedi gorwedd yno am 16 o oriau. Gelwir y ci bellach Post- master General.'aagBgglj Y ddau ddefnydd o'r Ysgubell.—Dywed gol- ygydd Americanaidd naai y peth cyntaf a ogwyddodd ei feddwl at briodi oedd gweled y dull y defnyddiai geneth hardd yr ysgubell. Golygydd arall a ddywed nad yw y dull y defn- yddia ei wraig efyr ysgubell mewn un modd yn ddymunol. Y Ci,ossleys.-Dywedir fod yn mwriad Mr. Joseph Crossley, o Halifax (brawd John a Sir Frank Crossley) i ychwanegu at rif yr elusendai a gyfodwyd ganddo flynyddoedd yn ol. RIiif presenoly tai yw 21 mewn Gothic style; bwriüdir ychwanegu atynt 27 i wneyd y nifer yn 4H. Bydd y rhai newyddion yn ffurfio dwyadcn i'r rhestr bresenol. gan adael lie cydeus yu y canol i erddi, a rhodfeydd, &c. Bydd arddull y l'hai newydd a godir mewn cydgordiad a'r rhai sydd eisioes. Cartref yr Ainddifai(I.-Mae y Crossley wedi codi sefydliad ardderchosr i'r amddifaid yn Hali- fax, ac y mae un Mr. John- Walker, draper yn Halifax, newydd roddi lOOOp. ato. Reilffordd i America.-Mae cynnygiad ardroed i gychwvn argymmeriad aruthrol o redeg tynel o dan For y Werydd, mewn trefn i uno yr hen fyd a'r byd newydd a. reilffordd tanforawl. Mor belled ag y gellir cyfrif, bydd y draul yn bum can miliwn o bunau. Mae y eynllun ynddo ei hun yn un o ryfeddodau yr oes, heb son am ei weitbio allan. Prif Ysgol Havard.-Mae Prif Ysgol FHavard, Boston, Massachusetts, wedi rhoddi y teitl an- rhydeddus o LL. D. i Mr. George Peabody sydd mor adnabydaus yn Ewrop ac America am ei haelioni. Y Cholera.-Mae difrody cholera mewn parth- au o America yn ddychrynllyd. Mewn rhai manau yn Kansas, y mae y marwolaetnau yn 10 y dydd ac yn Memphis, yn Alabama, yn 50 y dydd. ;¡'j
"-EIN TELERAU A'N DOSBARTHWYR.
EIN TELERAU A'N DOSBARTHWYR. Anfowir 4,8,12, yn drlidraul trwy ypost, gan y cyhoedd- wyr, i unrhyw le yn ol Ceiniog yr un. Byddwn yn dra, diolchgar i'n holl Ddosbarthwyr sydd yn derbyn en sypynau trwy y Post, am drefnu eu Jia/rchebion yn y modd mwyaf digolled. Gellir anfon 4 am geiniog, 8 am ddivy geiniog, 12 am dair ceiniog, ac felly yn mlaen; ond y mae pob rhifedi cyd-rlvwng y nifer uchod yn draul ychwanegol i'w hanfon. Ychydig o ymdrech o du ein cyfeillion a godai y 5 i 8, dr 9 z r 12. Yr ydym am anfon y sypynau hyd y gellir gyda'r Rail, oblegid ei bod gymmaint yn rhatach; ac yr ydym yn cael ein dosbarthwyr yn mhob man yn garedig iawn yn ein cynnorthwyo i berffeithio ein trefniadau. Trefnir i gael Goruchvjyliwr (Agent) yn iithob tref a phentref o bwys, a gellir cael ganddo ef unrhyiv nifer.
[No title]
EW Anfonodd amryw flaendal i ni am chwarter; ac y mae llawer o'n Dosbarthwyr wedi anfon y tal ar ddiwedd y mis eto. Yr ydym yn ddiolcligar i'r cyf- eillion caredig hyny am eu gofal. Mae talmisol yn ddiogelach, yn enwedig o'r lleoedd y mae nifer fawr yn myned-ond bob chwarter y disgwylhcii i baiob lwyr wastadhau eu cyfrifon. Er arbed pob camgymmeriad, dysranir na byddo yr archebion yn cael eu gyru i'r argraphydd, ond yn ol y cyfarwyddyd i-Rev. H. E. Thomas, 19 Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool.
TELERAU AM HYSBYSIADA U.
TELERAU AM HYSBYSIADA U. Chwe llinett a than hyny Is. 6c. y tro. Am bob llinell ychwanegol 3c. Hysbysiadau am chwarter bhvyddyn a throsodd, art brisiau llawer is. Dalier Sylw.-Cyhoeddir Hysbysiadau am Gyfarrod- ydd Pregethu, a Chymmanfaoedd, a Chymmanfa- oedd yr Ysgolion Sabbathol, a Chylchwyliau Dir- westol, a phob peth cyssylltiedig a. clirefydd a moesoldeb am bris llawer is na hysbysiadau yn gyffredinol.
I ~ " ' f. ryttbodtb Itneddøt..-
f. ryttbodtb Itneddøt.. CYDSYNIAD Y FRENHINES I'R BIL DXWAGXADOL. Ymgyfarfu eu harglwyddi am bedwar o'r gloch prydn-twn Iau, a rhoddwyd cydsyniad ei Mawr- hydi i'r Bil Eiwygiadol trwy ddii-prwyaeth—yr arglwydd ganghellydd, Iarll Malmesbury, ac Arglwydd Colville o Culross, Pan y gwnaed hyn yn liysbys yn Nhy y Cyffredin, gwnaed tipyn o ymdrech i ddangos llawenydd, ond nid oedd mewn un model yn gaIonog ac unol. RHAGOR 0 ESGOBAETHAU. Cynnygiodd Arglwjrdd Lyttleton, fod gwell- iantau Ty y Cyftredin i Fil Lluosogiad yr Esgob- aetliau i gael eu derbyu. Gwytliwynebodd Argl- wydd Derby yn gryf i greu esgobaethau newydd- ion, i fod yn hollol dan reolaeth y ddirprwyaetli eglwysig, ac yr ocdd yn wrtliwynebol i greu dos- parth newydd o esgobion israddol mewn safle, nad allent eistedd yn Nhy yr Arglwyddi yn eu cylcli. Cydsyniai Arcliesrob Canterbury a. Iarll Derby, er ei fod yn anfoddlawn rlioi y bil i fyny, Barnai Esgob Oxford fod y bil yn ei ffurf bresen- ol yn liollol yn erbyn pob gobaith am luosogiad esgobaethaethau Ar ol peth dadl tmngliyt- I I unvvyd ar welliantau Ty y Cyffredin oddieithr yn adran yr ail. CARCHAHOBION AM wirnion TALU Y DRRTH PJGLWYS. Mewai atebiad i Mr. Lush, ar ran. Mr. Hadfiald, yn Nliy y Cyffredin ddydd Ian, dywedai Cang- hellydd y Drysorfa y dylasai achos Mr. Pliocion Foster, a Mr. G. B. Grant, y rhai a garcharwyd am wrtliod talu y dreth eglw_ys a'r costau, gael ei wdwyu i sylw y Swyclclfa Gartrefol, ac nid y Drysorfe. Yr oil a allai ef ddweyd, oedd, fod yn ymddangos iddo ef fod y boneddigion hyny wedi cael eu camgyfarwyddo yn fawr. MR. WHALI.EY A CHADEIRYDD Ty Y CYFFREDIN. Dygai Mr. Wli-tiley sylw y ty at gwestiwn o ragorfraint. Achwynai fod y Cadeirydd wedi gwrthod caniatad i ollwng Mr. Beales i'r seti o dan yr oriel, gan roi fel rheswm iddo ddoe roi caniatad i Mr. Beales yn unig ddod i mewn, ond iddo weled y Milwriacl Dickson a pherson arall gydag ef. Dadleuai Mr. Whalley ei fod wedi enwi y Milwriad Dickson yn gystal a Mr.Beales, ond dywedai y Cadeirydd nad oedd, o'r hyn lleiaf na chlywodd ef mohono yn gwneud; a'i fod yn barod bob amser i ollwng i mewn bersonau ocddynt yn teimlo dyddordeb yn y dadleuon fyddent yn cael eu dwyn yn mlaen. BIJ. RHKOLKIDDIAD Y PAUCIAU. Yrnifurfiodd y Ty yn bwyllgor ar y bil yma. Acliwyiiiii Mr. Denman mewn araetli faith ar ymddygiad y Llywodraetli, a cliynnygioddd fod z, .1 I i'r cadeirydd Jadael ei sedd. Dilynwyd ef gan Mr. Gilpin, yr hwn a anogai y Llywodraetli i ncillduo rhyw gyfran o Hyde Park i gynnal cyf- arfodydd cyhoeddus. Gwrthodwyd y gwelliant trwy fwyahif o 86 yn erbyn 81. Dywedai Mr. Hardy ei fod yn gwybod yn dda no ellid cario y mesur yr eisteddiad yma, ac felly rhoddwyd ef i fyny. DIIU'RWYAETH DEFODAETH. Hysbysodd Archesgob Canterbury, nos IAIII, fod Dirprwyaeth Defodaeth wedi cytuno ar yr adroddiad cyntaf mewn perthynas i Yr oedd yn ymddibynu ar y Llywodoaeth a gy- lioeddid yr adroddiad a'i peidio. Cwynai larll Sliaftesbuiy, am Inroediad y ddirpjwyaetli yn dechreu ar eu gwaitli, ac heb ddyfod a'r adrodiad cyntaf nes yr oedd eisteidiad y Senedd bron dros- odd, fel na ellid gwneud dim IWcly flwyddyn nesaf. Byddai i'r wlad ddatgan condemniad llymacli am ymddygiad fel hyn nag yr oedd efam wneud. Yr oedd y wlad o ddifrif gyda'r mater, a byddai yn well ganddi fod heb Eglwys Sefydl- edig o gwbl, na chael selydliad o wrtligiliwyr oddiwrtli y Diwygiad Protestanaidd, Dadleuai yr Arcliesgob, ac Fsgob Llundain, nad oedd dim bai ar y Ddirprwyaetli iddynt wneucl eu gwaith mor gyson ac mor drwyadl ag yr oedd modd. Yr oedd mater fel hyn yn gofyn yr ymchwiliaeth fanylaf. GOHIRTAD Y SENEDD. AVedi dwyn ger bron gydsyniad ei ^Mawrhydi i amryw fesurau, gohiiiMjd. y Senedd ddydd Me-rehcr.
LLANBRYNMAIR. 1
LLANBRYNMAIR. 1 Cyrhaeddodd yr enwog a'r anwyl S. R. ei hen ar dal enedigol tuag un o'r gloch ddydd Sadwrn, Awst 17. Bu yma ddisgwyliadau cyffi-edinol a phryderus iawn am ei weled er's misoedd, as yn ystod y pythefnos diweddaf yr oedd y teimlad hwnw yn angerddol: ond ddydd Sadwrn darfu i amser droi y disgwyliad yn fwynhad. Nis gall geiriau osod allan wresogrwydd a graddau y derbyniad a'r croesawr a gafodd gan ei berthyn- asau, a'i hen gyfeillion yma. Cyhoeddwyd a chynnaliwyd cyfarfod iddo areitbio yn yr Hen Gapelnos Sadwrn. Etholwyd y Parch. O. Evans, i'r gadair, a cheisiodd yntau roddi i ni annerch- iad oreu y gallai yn nghanol teimladau drylliog iawn a cholli dagrau fyrdd. Yr oedd yr olygfa ar y cydgyfariyddiad hwn yn wir effeithiol. Yr oedd hyd yn nod gweled S. R. yn yr Hen Gapel -dim ond edrych arno yn eistedd yn yr hen sewar (set fawr) yn toddi calonau y gynnulleidfa, ac yn troi eu Ilygaid yn ffynnonau o ddagrau, gan gymmysg deimladau o hiracth am yr hen amser gynt a llawenydd am weled eu hoff Samuel yn ol. Ci-edwyf y buasent yn eithaf boddlawn i gerdded i'r Hen Gapel ac eistedd yno am awr i I ddim ond cael gweled S. R. Ond yr oedd ei weled yn nesu tua grisiau y pwlpud ac yn eu hesgyn yn gorphen toddi llawer teimlad, a bu yn bur galed arno yntau geisio ail ddechreu llefaru yn ei hen bwlpud ar ol ei absenoldeb maith, ond wedi iddo ddeclireu aeth drwyddi yn llawn gwell na'i ddisgwyliad. Areithiodd yn ddifyr dros ben am tuag awr, a'r distawrwydd a'r astudiwydd ill wyaf yn teyrnasu ar y gynnulleidfa. Dywedai gan iddo allu myned fivy y gorchwyl hwn nad oinai wynebu unrbyw le yn ei deithiau dyfodol. Ar ddiweddei araeth canodd Mynyddog gan o annerchiad neu grcesawiad i S. B. o'i gyfan- soddiad ei hun, gan chwareu yr accompaniment gyda'r Harmonium, yn bynod efleithiol a thoddedig. Wedi myned trwy y srremoniau arfeiol ar y diwedd, yn yr hyn y cymerwyd rhan gan y Parch. R. Ellis, Caino, 37mwrasgaiodd y dorf, wedi cael mwy bron na'u Ilwyr foddloni.' Dranoeth (Sabbath) pregethodd Mr. Roberts yn yr Hen Gapel y bore a'r nos, ac yn y Bont am dditu, i gynnulleidfaoedd anarferol o luosog. A thystiolaeth y lluaws oedd ei fod yn pregetnu yn Ivvy melus ac efleithiol nag y clywsant ef erioed. Dymunwn iddo hir oes a 1 lwyddiant i wasan- aethu ei genhedlueth. I. G. ALUN.