Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Satwito (MyiUM n pje«t|SM.'í…

ItU1!Jttdittn (KtjffvcdinoL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ItU1!Jttdittn (KtjffvcdinoL YNYSFACH.—Cynnaliodd aelodau Cymdeithas Fuddiol a Dyngarol y Gwir Frytaniaid eii gwyl flynyddol ddydd Sadwrn y lOfed o Awst. Ym- gasglwyd i'r Vaughan Arms erbyn 2 o'r gloch y prydnawn, a chychwynasom oddiyno yn orym- daith tua Sardis, capel y Bedyddwyr, lie y tra- .ddododd Mr. Davies, Clydach, bregeth ragoi-ol a phwrpasol i'r amgylchiad. Ar ol cael gwledd dda. i'r meddwl, dychwelasom i'r ystafell lie y cynhelir y gymdeithas, pryd y C37franuogcdd dros gant 0 honom o giniaw rhagorol a baroto- wyd ar ein cyfer. Wedi ciniawa, a diosg y byrddau, cawsom annerchiadau da a phwrpasol gan Mr. Davies a rhai o'r brodyr, a therfynwyd yr wyl mewn gwir ddymuniad am gael ei bath y tro nesaf eto. Teilynga sylwein bod wedi ein hamddifadu o ddau neu drio frodyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio trwy offerynohaeth brenhin braw. Un o'r ymadawedigion ydyw Mr. Sims, yn nhy yr hwn y cynhelid y gym- deithas. Dymunwyf fel un dalu y diolchgarwch gwresocaf i Mrs. Sims am ei charedigrwydd i ni elani fel arferol, a'm cydymdeimlad mwyaf a hi yn ei thywydd garw; a'm gweddi ydyw ar i'r Hwn a addawodd fod yn farnwr y gweddwon a thad yr amddifaid fod felly iddi hi a'i lieid(lo.- loan Ynys. MOSTYN,-Heddyw, Awst 17, cynhaliodd cym- deithas y Gwir Ivoriaid eu cyfarfod blynyddol. Mae yn dda genym weled fod llewj-rch mor dda ar y gymdeithas hon—maent yn cynhyddu mewn rhiiVyii ac mewn arian yn flynyddol. Yr oedd yn hyfryd genym eu gweled mor daclus yn eu gwisgoecld-pob -an a chanddo lodrau gwyn- ion, a chadach gwyn am ei wddf, a coat ddu am ei gefn. Ar eu- dychweliad o'r orymdaith ni welais arwydd fod neb o honynt wedi yfed i or- modedd, ond pawb o honynt yn sobr, a siriol eu gwedd. Yr wyf yn dymuno pob llwyddisnt i'r gymdeithas yn ei hamcan daionus i lesoli ei haelodau, eu gwragedd, a'u plant.—Gohebydd. 0 BETHANIA, LEANXON.—Ar yr 17eg o'r mis hwn traddododd Mr. W. Harris, Llanelli, ei ddarlith odidog ar Ddeddfau Iechyd yn Llwynteg, Llan- y I-, non. Ar gynhygiad Mr. Isaac Griffiths, cym- merwyd y gadair gan Mr. D. White, yr hwn a agorodd y cyfarfod gydag araeth fer, ac a alwodd ar y darlithydd, yr hwn a dderbyniwyd gan y gynnulleidfa yn wresog iawn. Wedi darlithio am awr a hanner eisteddodd i lawr yn nghanol uchel gymmeradwyaefch y gynnulleidfa. Cvn- hygiwyd gan Mr. White, achefnogwyd gan ddau neu dri o'r brodyr, fod diolchgarwch y gynnull- eidfa yn ddyledus i Mr, Harris, yr hyn a ddang- oswyd trwy gydsyniad calonog. Dymuniad ys- grifenydd y llinellau hyn i'r hen fab gwed dw ydyw bir oes, i wasanaethu ein cenhedl.— Gwynfab. TORCEFW.—Saif y He hwn rhwng Castellnedd ac Ystradgynlais ar yr ochr ddwyreiniol i fynydd March Hywel. Mae yma waith glo wedi agor, a chryn lawer o bobl yn symmud i'r lie. Dechreuwyd Ysgol Sul yn nhy Mr. B. Eees, Bryn caws, ac wedi hyny yn nhy Mr. D. Thomas, Dderwenfawr, nes yr agor- wyd yr ysgoldy newydd yn Rhagfyr, 1866. Sefydlwyd eglwys yma ar y 3ydd o Chwefror diweddaf gan y Parchn. J Mathews, Castell- nedd, a B Thomas, Gurnos; ac y mae llawer o weinidogion wedi talu ymweliad a'r lie ar ol hyny.—GivilymBach. CWAIBACH.-Y Cy?zlia-uaf.Os cawn dywydd u-ior ddytnunol ag ydyw yn bresenol, byddis yn lied ddiwyd gyda'r cryman yr wythnos nesaf. Mae argoelion da iawn yn bresenol am ein bara.-Gohebydd.