Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

AT OLYGYDD Y ' TYST CYMREIGr.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIGr.' Vnwyl Mr. Gol,—Yr ydwyf yn cael fy moddio yn vr yn y TYST CYMKEIG. ac y mae genyf hyder iiief y bydd i'r creadur a el wir cyhoedd' iawn brisio yr ymdrechiadau sydd yn cael ei gwneud er hy. fforddi a diwyllio ei feddwl, coethi ei chwaeth a phuro ei deimlad. Darllenais eicli erthygl ar Helbulon Golygwyr.' Mae y cyhoedd' yn gyffredin yn gwneyd yn ysgafn iawn ohonoch chwi fel golygwyr pan yn traethu ich cwyn ond ar draul cael fy ystyried yn 'rhy grefyddol' dymunaf o'm calon i chwi gael llawer iawn or nerth a'r cysur sydd i'w gael hyd yn nod mewn belbulon golygyddol yn y geiriau Haiarn a phres fv ad dan dy esgid, a megis dy ddyddiau y bydd dy nerth.' Mae cr» bwyll yr adnod hon yn dwyn i'm meddwl ddigwyddiad a gymerodd le yn daiweddar, hwyr&ch y oyddai yn werth genych wybod am dano. Yn niwedd y flwyddyn 1849, yr oedd gwr ieuanc o yyniru yn troi ei wy'neb tuag at un o athrofeydd yr Annibynwyr yn Lloegr, mewn pryder mawr wrth leddwl ei fod i gael ei arholi mewn iaith na fedrai nemawr ddim o honi hyd nes oedd yn agos i ugain "Oed—iaith hollol arihysbys i' bawb yn y plwyf lie y niagwyd ef oddieithr i ryw ychydig iawn o bersonau, fel y Person, y Gweinidog, y Siopwr, a dau neu dri oedd wedi cael r, w grap ami hi wrth yru gwartheg i Loegr, a myn'd i sir y Mwythig i fedi Wrth fyned f Yorkshire pregethai ddwywaith ar y Sabbath yn Gartsiie St., Manchester, lie y cafodd garedigrwydcl gan ei gweinidog ag eraill nad ydyw Wedi ei hanghotio eto. Mae yn rhywbeth i weinid- wybod fod ei gefnogaeth a'i sirioldeb i ddynion jeuanc yn cael ei gofio, a gwyr yr > sgrifenydd am ^awer un sydd yn coiio gyda chalon gynes wedi ^eigliad llawer o iiynyddau am barodrwydd y Parch, ■ft. Jones i'w gwasanaetliu. Wrth gychwyn i ffordd dywedai un o'r cyfeillion Wrtho, Cymmer galon ty machgen i, pa beth bynag a ddaw i dy gyfarfod cofia yr adnod yma, Haiarn a phres fydd dan dy esgid di, a megis dy ddyddiau y bydd dy nerth. Cafodd ddarbyniad rhwydd i'r Coleg, ag wedi bod yno am bum' mlynedd ymsefydlodd yn y weinidog- aeth yn Lloegr. Aeth dwy flynedd ar bymtheg heibio, ac ni ddig- y 11 1:1 wyddodd iddo weled na chlywed dim oddiwrth' y. gwr a adgofia iddo yr adnod. Ar fore Sabbath yn ddiweddar pregethai i gynnulleidfa luosog y Pro- ffeswr Harlev, oddiwrth y géiriau a nodwyd. Yr oedd un yn y gallery yn edrych fel pe buasai am dori dros pob terfynau a myned i'r Pwlput at y pregethwr. Pwy oedd ef feddyliech chwi ? Wel, neb yn am- gen na'r hen frawd o Fanchester a roddasai adnod y testyn i'r gweinidog ddwy iiynedd ar bymtheg yn ol Nid hir y bu heb ddyfod at y prsgethwr ar ol yr oedfa, a dyma ei eiriaw, Wel, nid oedd genyt yr anmheuaetli Ileiaf pwy oeddycli pan y gwelais chwi yn myn'd i'r pwlput. a phan oeddych yn dechreu. yr oed fa., ond pan ddarllenasodl y testyn, ineddwn "Wrthyf fy hun, clytiar adnod a roddais i pail yn dyfod i Loegr, as fel mellten daeth i fy meddwl mai chwi oedd y gwr.' Felly y gair diweddaf a ddywetlai y brafrd o Fan- chester yn Gymraeg wrth y dyn ieuanc, oedd y gair cyntaf a glywai yn Saesoneg gan y gweinidog yn Illhen dwy tiynedd ar bymthag, yn mhell o Fahches- ter, ac mor hyriod annisgwyliadwy. Yn y cyfamser yr oedd y ddau wedi caeHlawero ofidiau y bywyd hwn, ond yr oedd y ddau trwy orojiad yn gweled prydferthwch, ac yn cael melysder yn y geiriau yn awr, na wyddent ond drwy hanes am danynt pan y cyfarfyddent ddiweddaf. Cofiwch fi yn garedig afeyr, JJep Deiliwr.' a dy- wedwch wrtho fy mod yn cymmeryd dyddordeb Mawr ar lawer cyfrif yn ei lytliyrau. Gobeithio na: bu ef erioed yn euog o gymeryd rhan mewn 'rhwygiadau Eglwysig.' Byddai yn ddrwg genyf feddwl ei fod yn ei hen ddyddiau yn gorfod edrych yn ol gyda gilar ar yr amser y byddai yn »iyned o dy i dyi wnio dillad ond i rwygo yr eglwys. Hyderaf am darjo ef bethau gwell. Dywedir i Mr. Pugh o Mostyn sylwi unwaith na byddai ef am un rhwyg' eglwysig a gymerodd le if» byddai gan Deiliwr law yn y gwaith ac mai yn Ueiliwr yx aeth Adda yn union pan bechodd. Gwel (,en. iii. 7. Yr oedd llawer iawn o bethau ar fy meddwl i'w traethu i cliwi. fel Gol. pan yn dechreu y llythyr hwn ond gwelaf fy mod wedi rnyned i gyfeiriad na ivvriedais, am In ny toraf hi ar hynyma. Gan dclymuno i chwi bob llwyddiant, Ydwyf. &c., R. G. J.

AT Y PARCH. L. POWELL, CAERDYDD.

_----Y BOBL NA ALL YSGRIFENU.

■ MAN ION 0 EYNWY.

BLAENAU FFESIINIO&."'. ,.

ASAPH GLAN DYFI, Y GOL., IABERTH…

Y PARCH. L. POWELL, CAERDYDD.

DEG 0 GELWYDDAU EGLWYS LOEGR.

MISS WATTS YN BETHESDA.

GAIR AT ETHOLWYR MERTHYR AC…