Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

ABERTAWE A'R GY^IMYDOGAETH.

O'R 'TRAIN.' -.,.r

[No title]

MAECHNAD LLUNDAIN.

MAECHNAD LIYEEPOOL.

[No title]

- MAECHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.

Family Notices

MAESTEG, MOBGANWG.

--------EBENEZER A'I HAMGYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EBENEZER A'I HAMGYLCHOEDD. Dydd Sadwrn, Awst 18, yr oedd Mr. Robert Evans, Bwlchlychau, Ebenezer, ei ferch, a'i phriod, a'u plentyn, yn myned mown car i sir U, on, ar yixiweliad a pherthyna&au. Wedi croosi Pont y Borth (Menai Bridge), rhedodd yr anifail ymaith yn afreolus i ganlyn merlynod crwydr- edig a. ddigwyddai fod gerllaw bont. Pan gyf- erbyn a'r Anglesey Arms, dymchwelodd y cerbyd. gan daflu y llwyth gwerthfawr gyda hergwd ar eu penau i'r heol, allusgwyd ygyriedyddRobert Evans drwy y llaid a'r graian amryw o latheni, Diangodd y mab-yn-nghyfraith yn lied ddianaf, ac ni bu y plentyn ddim gwaeth. Clwyfwyd y ferch yn drwm ar ei phen, ac ysigwycl yr ys- gwydd a'r fraich ddeheu yn ysgafn; mae y dy- chryn wedi effeithio yn ddwys arni. Derbyn- iodd Robert Evans niweidiau trymion ar ei ben, ac ysig-wyd ei ranau tufewnol i'r fath raddau fel y bu farw prydnhawn dydd LIun canlynol. Y mae teulu yr Anglesey Arms, Mr. IL Thomas, siop. a boneddvrr o filwriad (colonel) a'i fonecld- iges (drwg genyf nad wyf yn cofio enw y bobl deilwng hyn) ynhaeddu y gydnabyddiaeth fwyaf diolchgar am eu caredigrwydd i'r clwyfedigion, a'r drafferth a. gymmerasant yn eu cylch. Cerdd- ly odd y newydd am y ddamwain fel tan gwyllt drwy Ebenezer a'r cylch, a pharodd dristweh mawr a chyifredinol. y Anaml y cyfarfyddodd neb o weithwyr y creigiau a chynnifer o ddam- weiniau erchvll yn eu hoes ag ef. Bu ar yr elor bump o weithiau cyn derbyn iiweidiau angeuol y cl,.dnillwiln cldiweddaf. ■ G-wyr pobl y gweith- feydd yn dda na cldygir neb ar yr elorau oddi wrth eu gorchwylion, ond rhai wedi tori eu hes- gyrn, neu mewn sefyllfo ddiymadferth hollol. Y mae pawb sydd yn brifo am gerdded gartref, os medrant rywfodd, rhag dychryn eu teuluoedd. Pe gwelsit ef, ddarllenydd, tycli a wyddit yn yr olwg arno, ei fod wedi bod mewn llawer ym- gyprus trwsgl ag angau; ac o'r diwedd, gorch- fygodd yn nrylliad y corph, eithr diangodd yr yspryd yn iach at Dduw. Y dydd Gwener can- lynol yr oedd y claddedigaeth. Gweddiwyd wrth y tv gan Mr. R. Hughes, Ebenexor. Aeth Mr. Johns drwy y gwasanaeth yn y capel, a gweinyddwyd. ar lan y bedd gan 1111-. Thomas, Llanrug, a Mr. W. Williams, Ebenexer. Yr oedd y cynhebrwng yn un lluosog iawn. Cau- wyd ifenestri masnachdai E, Lionezer fel s-rwydd o barch i'r hen frawd am ei ffyddlondeb srydag achos Mab Duw dros lawer o fiynyddoedd. Yr oedd yr aelod hynaf o'r gwrywaid yn Ebenezer, a'r olaf a ddaearwyd o'r 'pedwar ar ddeg' a arwyddodd alwad y diweddar Barch. Thomas Edwards er's 37 o Hynyddoedd yn ol. Ei oed yn marw oedd 86. Er ei fod wrth ei ddwy-Sbn er ys llawer blwyddyn bellach, ac yn byw yn uchel i fyny y mynydd, fel rheol byddai yn y capel ar adeg moddion, ar dywydd mawr y 0 gauaf fel tes yr haf. Ac fynychaf chwarter awr cyn amser dechreu. Dywedai ei brofiad yn gynhes, a thynai y nefoedd ar ein pen pan ar ei liniau. Bydd yn chwith genym weled ei le yn wag yn y set fawr. Yr oedd yn un o'r bobl fyddwn yn alw yn galon pregethwr, ac yn un ffyddlon i'r pen i'w weinidog. Hedd- wch i Iwch yr hen bererin. Sanged yr elfenau yn ysgafndroed ar gylchoedd ei orweddfan, a bydded ei dywarchen yn werdd, hyd yr adeg y bydd Dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd.' Amddiffyn Duw fyddo ar y weddw a'r plant yn eu trallocl blin.-F.

CYELAFAN EKCHYLL YN LLUNDAIN.—…