Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ADDYSG YN NGHYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADDYSG YN NGHYMRU. At y Parch. John Phillips, Bangor. I,L YTHnt III. BarcnedigSyi-,—BwriadafynyUythyr liwa alw eich sylw at y cyssylltiad sydd rhwng ysgolfeistriaid a phwyllgorau—cyssylltiad, yr wyf yi, credu, y mae genycli chwi fantais neillcluol i wybod am dano a chaniatewch i mi awgrymn, fy mod yn tybied fod gettych gryn law yn ei ifurfio. Nid wyf yn gwy bod yn mha berthynas yr ydych yn sefyll tuag at Ogledd- bartli y Dywysogaeth yn swyddogol ar hyn o bryd. Gwn i chwi fod yn orucliwyliwr cyflogedig y Gym- deithas Frytanaidd a Thramor, a gwn eich bod yn bresenol yn Brif Athraw Coleg Normalaidd Bangor. Nid wyf yn gwybod a ydych yn dal y swydd gyntaf yn barhaus, neu ynte a oeld eich yragymmeriad ar ddiweddaf yn gwneuthur yn anmhosibl i chwi ddal y gyntaf. Meiddiaf awgrvmu wrth fyned heibio, os nad ydych yn dal y gyntaf yn bresenol, v dylai fod rhywuu yn ei llenwi, a bod y Gymdeitlias uchod sydd mor gyfaddas i'n cenedl ni yn ei sefyllfa scct- yddol, yn dyoddef o'r herwydd Yr wyf yn credu fod Diocesian Inspectors y Gymdeithas Wiadwriaeth- ol yn gwneuthur llawer o ddaioni, a bod David AYiliiauts. Y sw., yn gwneuthnr daioni hefyd gyda'r Gymdeithas Frytanaidd yn y Deheudir- Nid wyf yn gwyhod ychwaith pa mor bell y gellir eich dal yn gyfrifol am lwyddiant neu aflwyddiant. Ysgolion y Gymdeithas uchod yn y Gogledd yn rhinwedd eich swydd fel Prif Athraw y Coleg Normalaidd yn unig, yr wyf yn tybied nas gellir eich dal yn gyfrifol ond i raddau bychain. Ond goddefwch i mi ddywedyd fy mod i, yn mysg ereilJ, yn edrych arnoch yn gyfrifol i raddau pur bell am natur y cyssylltiad sydd rliwng ysgolfeistriaid a phwyllgorau Ysgolion Brytanaidd Gogledd Cymru, o herwvdd v pethau canlvnol:— 1. Clrwychwi sydd wedi bod yn brif ysgogydd gydag Addysg Rvdd yn ngogleddbarth y Dywysog- aeth er pan ddygwyd addysg yn ei gwedd bresenol i'n sylw. 2. Y mae cyssylltiad swyddogol rhynguch a'r addysg- hono mewn rhyw wedd neu gilydd er pan ydych yn ein plith. 3. Y mile eich parch a'ch dylanwad fel gweinidog yr efengyl yn y cyfund-eb y perthynweh iddo yn hawlio ymddiried mawr ynoch fel swyddog gydag achos addysg. 4. Oblegid y pethan uchod, atocli chwi yr edrychir ac yr appelir am athrawon trwyddedig gan y pwyll- gorau. 5. Yr ydych chwithau yn ateb eu happeliadau trwy gymmeryd arnoch y gwaith o appwyntio ysgol- feistriaid i gymmydogaethau ac ysgolion. Goddefwch i mi sylwi fod y pethau uchod yn ddigonol i'm tueddu i edrych arnoch chwi yn gyfrifol i raddau pur bell am ansawdd neu natur y cyssyllt- iad hwn, nes ei gwneuthur yn afreidiol cael gwybod yn rhinwedd pa swydd yn uniongyrchol yr ydych yn gweithredu. Yn awr, gyda'ch caniatad, edrych- wn pa mor bell y mae y cyssylltiad liwil yn hapus, ac yn llwyddo i wneuthur y ddwyblaid yn gysurus. Gyda golwg ar y pwyllgorau, meiddiaf ddafcgan fy meddwl en bod yn ddyledus iawn i chwi am eich cynnorthwyon, eich cyfarwyddiadau, a'ch gofal am danynt ar hyd y blynyddoedd. Gyrasoch iddynt athraw ar ol athraw heb rwgnach nagwarafun; pan y blinent ar un, byddech yr un mor ewyllysgar idd- ynt gael treial ar un arall; ac wedi iddynt gael eu digoni ar hwnw, gyrech, yr un mor ddirwgnach, athraw arall iddynt drachefn. Priodol iawn ydyw adgofio iddynt hefyd y cyfarwyddiadau a dderbyn- iasant genych pa fodd i adeiladu eu hysgoldai, a pha fodd i gael cymhorth y llywodraeth tuag at eu hadeiladu, a'i chymhorth drachefn i'w chynnal ar ol ei hadeiladu; ac y mae ganddynt hyder ynoch pe deuech allan i'r maes yn eich gwroldeb a'ch sel arfer- ol, y llwyddech gyda chydweithrediad boneddwyr o gyffelyb yspryd, i gael ymwelwyr o eiddo y Ilywodr- aeth a fedrent ein hiaith, a adwaenent ein hyspryd, ac a gydymdeimlent a'n crefydd. Gormod o hyfdra ynoffi fyddai erfyn arnoch, yn eu henwau, gymmeryd hyn i ystyriaeth, gan na awdurdodwyd fi; ond yr wyf yn credu fy mod yn datgan teimlad nifer mawr o honynt, pan y dywedaf, y dymunwn yn fawr eich gweled yn cymmeryd y peth mewn Haw. Nid wyf yn gwybod nad all eich swydd o Brif Athraw Coleg Normalaidd fod yn attal- fa arnoch i gymmeryd llaw gyhoeddus iawn yn y mater, eto credaf pe y penderfynech fod yr achos yn ,deilwng o'ch cefnogaeth, na fyddech yn fyr o gael allan ffordd i roddi yr ysgwydd wrth yr olwyn. Yr eiddoch, &c., X.

TAITH 0 GWYNFE I'R AMERICA.

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG.

YR HEN ARDDWR.

AT OLYGYDD Y TYST CYMREIG.

AT OLYGWYR Y 'TYST CYMREIG.'

AT OLYGWYR Y I TYST.'

CYFRINAOH I.

LLYTHYR ODDIWRTH MR HENRY…