Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

DAHNE A THOMAS.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DAHNE A THOMAS. Mr. Gol.,—Mae y boneddigion uchod wedi dyfeisio mandrel at wasanaeth glowyr a mwnwyr sydd yn debyg o fod o wasanaeth neillduol, ac o ddefnydd eyffredinol. Mae wedi ei lunio yn y fath fodd fel y gellir tynu y blaenau allan, gan fod morteisiau wedi eu ffurfio yn nghorff yr offeryn. Sicrheir y blaenau yn y morteisiau hyn a throell {screw) fechan, yr hon sydd wedi ei gosod trwy ben yr offeryn yn wynebu at ei goes (handle), fel nad oes y perygl lleiaf iddo fod yn rhwystr trwy fod ar y ffordd. Y manteision o gael y rhai hyn ragor y rhai arferedig ydynt y pethau canlynol:— 1. Arbediad raawr mewn arian. Wrth ddefnyddio rhai y cynllun newydd, arbedid o saith ar hugain i ddwy ar bymtheg a deugain y cant. Ymddibyna y pris ar y math o fetel y dewisir corff yr offeryn wedi ei wneud o hono. Mae yn awr mewn arferiad rai wedi eu gwneud o haiarn gwaith metel melyn (yellow metal), a haiarn cymmysg (malleable cast iron), ac y maent yn mheb un o'r 11 dcfnyddiau hyn yn hynod foddhaol. 2. Cael offer miniog bob amser. Dim ond cael wyth o'r blaenau, byddai hyny cystal a phedwar mandrel, neu gellid cael uurliyw nifer, a dim un mandrel neu gOrff yr offeryn. Mae rhai dwbl o honynt-un blaenllym yn y fortais, tra y gweithir, a'r Hall a dim ond ei liewid pan gollo y naill ei awch. Dyna y llall yn ei le ar unwaith. 3. Arbediad yn y pwysau. Byddai o leiaf arbed- iad o ddwy ran o dair o bwysan yr offer i'w cario o'r gwaith at y gof. Bydd hyn o fantais fawr i'r glowr, yn neillduol pan ddigwyddo fod y ffordd yn mhell i'w cario. Nid oes ond y blaenau yn unig sydd i'w cymineryd at y gof, a gellir yn hawdd gario unrhyw nifer yn y llogell. 4. Gwelir wrth hyn fod 1 lai o berygl yn o gystal ag fod y draul yn llai. Nid oes angen y cert glo (tram) i gludo yr offer foreti a hwyr, ac nid oes ber- ygl i flaen na choes y mandrel wneud niwed, yr hyn sydd wedi digwydd lawer tro cyn hyn. Mae yr offeryn mewn arferiad yn amryw o weithfeydd glo y Dywysogaeth. Y maent yn pwyso o ddau i dri phwys, a'r blaenau o bum i wyth owns. Uyst y mandrel yn ol yr hen gynllun 8s. i'r glowr, tra na chyst y rhai newyddion ond o ddeutu fis. 8c. o'r metel cyntaf a nodwyd 5s. 5c. o'r ail; a'r olaf, 4s. 5c. Ar ol eu gweithio allan, ni bydd yr hen rai yn hen haiarn ond gwerth tua I;c., tra y bydd rhai y cynllun newydd o'r metel cyntaf yn werth tua la. 3c.; a'r ail tua 2s.; a'r trydydd tua Is. 2c. Yn ngwyneb y ffeithiau uchod, gwelir n amlwg ragor- iaeth eiddo Dahne a Thomas ar yr hen gynllun. Dichon y ceid gair oddiwrth y rliai sydd wedi gwneud prawf arnynt; ac felly yn ti,wv brofiad am (-i ragoriaethau. Mae y boneddigion uchod yn deilwng o glod am eu liyhidrech i leihau llafur y glowr, a thraul ei offer. Mae y cynllun yn syml iawn, ac felly gan amlaf, y mae pob dargan- fyddiad sydd wedi bod o wir wasanaeth. Yr eiddoch, ifcc., EDATVOYDD TALEXT.

TYNEEWCH. -.'

TONGWYNLAS.

I'R CERDDOR.

PENYBONT-AR-OGWY, ]\I0EGANWG.)

MYGIAD PUMP o DDYNION YN FFLINT.

BEAUMARIS.

\t¡nxiøn.

LLYTHYR ODDIWRTH MR HENRY…