Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

---------YR UNDEB CYNNULLEIDFAOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR UNDEB CYNNULLEIDFAOL. Cynhclir cyfarfod llydrefol yr Undeb Cyn- nulleidfaol eleni yn Manchester, yr ail wythnos yn llydref, a dysgwylir yno luaws mawr o wei- nidogion a chynnrychiolwyr o bob parth o'r wlad, yn enwedig o'r rhanau Gogleddol. Nos Lun, Hydref 7, traddodir pregeth gan -ein cydwladwr enwog. David Thomas, B. A., Bristol. Cyferfydd yr eisteddiad cyntaf bore ddydd Mawrth, yn nghapel Grosvenor Street (capel Dr. Parkes), dan lywyddiaoth Dr. J. R. -Campbell, Bradford. Darllenir papUrau y boreu hwnw ar Sefyllfa ein Heglwysi bychain,' gan y Parch. J. Stoughton; ar Gynghorau i ap- pelio attynt,' gan Dr. Vaughan; ac ar Well- iant yn Ngbyflogau Gweinidogion,' gan Mr. Henry Lee, Manchester. Nos Fawrth bydd cyfarfod mawr ya y Free Trade Hall i egluro ac amddiffyn egwyddorion Cynnulleldfaoliaeth. Bydd S. Morley, Ysw., yn y gadair, a dysgwylir Dr Vaughan, Dr H alley, W. M. Statham, ac R. W. Dale, i annerch y cyfarfod. Boreu Mercher bydd yr ail eisteddiad. Dar- llenir papur gan Dr George Smith ar 'Gyd- iugeiliaeth a Gweinidogaeth Gynnorthwyol.' Hefyd darllenir papur ar 'Y Cenhadaethau Prydeinig,? gan y Parch, T. W. Ayeling, Kings- land, a gosodir hawliau Oenhadaethau Tramor ar ein heglwysi ger bron gan y Parch H. Ollard, F.A.S., Derby. Nos Fercher bydd Soiree yn ysgoldy Caven- dish, dan lywyddiaeth J. Crossley, Ysw. Dydd lau cyflwynir yr eisteddiad boreuol gan mwyaf i ystyried Gogwyddiad yr Oes at Babyddiaeth mewn Athrawiaeth ac Ymarferiad. Dygir y cwestiwn yn mlaen gan y Parch. J. G. Rogers, B. A.; a chyfiwynir ger bron bender- fyniad ar Waddoliad Pabyddiaaeth yn yr Iwerddon. Os bydd amser darllenir papur gan y Parch. Bryan Dale, Halifax, ar I Sefyllfa y Cyfandir yn ei berthynas a Rhyddid Crefyddol ac Ymdrechion Cristionogol. Nos lau traddodir pregeth i ddynion icuaine gan y Parch. Henry Batchelor, Glasgow. Bydd hefyd ar nos Fercher a nos lau gyfarfodydd neillduol i'r dosparth gweithiol. 40 Mae y rhag-gynllun eleni yn llawn ac am- rywiol, fel y gellir dysgwyl cyfarfodydd o ddy- ddordeb mwy na chyffredin.

--LLOFRUDDIAETH EllCHYLL Y…

CANT A THRIUGAIN 0 BERSONAU…

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.

UNDEB Y BEDYDDWYR.

YNADON LIVERPOOL A'R FASNACH…

EISTEDDFOD DEFYNOG.

[No title]

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD LIVERPOOL.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Family Notices