Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

---------YR UNDEB CYNNULLEIDFAOL.

--LLOFRUDDIAETH EllCHYLL Y…

CANT A THRIUGAIN 0 BERSONAU…

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD CAERFYRDDIN. MAE yr Eisteddfod y disgwyliwyd am dani gyda phryder wedi ei hagor. Cyfarfu y Pwyllgor 0 Gweithiol ddydd Llun, pan yr ymdriniwyd ag amryw bethau yn nglyn a'r sefydliad. Ond DYDD MAWRTH yr agorwyd yr Eisteddfod yn nurnol. Llywydd,—D. Pugh, Ysw., A. S. Cyfarfu adran y Wyddoniaeth Gymdeitliasol ( Social Science), yn neuadd y dref. Darllenwyd papur yno ar gynildeb cymdeitliasol, a cliafwyd ymddiddan helaeth ar y mater. Am 11 o'r gloch, cyfarfu Cyngor yr Eisteddfod ac ewyllyswyr da y Sefydliad yn neuadd y dref, i fyned tua'r Orsedd, i agor yr Eisteddfod gyda'r cyhoeddiad arferol, fel y canlyn :— Y GWIR YN ERBYN Y BYD :-Yn y flwyddyn Un Fil Wyth Cant Triugain-a-saith, pan yw yr Haul yn nesau at Alban Elfed, ar awr anterth, ar y trydydd o Fedi, wedi cyhoeddiad priodol o rybudd un dydd a blwyddyn, agorir yr Orsedd hon yn Nghaerfyrddin, yn nhalaeth Caerfyrddin; i roddi gwys a gwahawdd i bawb a gyrchont yma, lie nad oes arf noeth yn eu herbyn, ac y cyhoeddir barn Gorsedd ar bob awen- ydd a barddoni, a roddir dan ystyriaeth, yn ngwyneb haul—llygad golenni.-Y Gioir yn erbyn y Byd.' Aj-freiniwyd y Llywydd oddiwrth yr Orsedd i'r Babell i'w roddi yn y Gadair gyda holl rwysg y ddefod. Rhoddodd y Llywydd ei Annerchiad. Canodd Llew Llwyfo gan genedlaetliol, yna gwobrwynyd yr ymgeiswvr. Traetliwyd ar Sefydliad y Fflemingiaid yn Neheudir Cymru.' Gwobr £ 5 5s. Buddugol Mr Jones, Ysgol Frytanaidd, Treherbert. Cystadleuaeth Fenywaidd ar y Berdoneg. Gwobr, Medal Arian. Buddugol, Miss Moulsing, Abertawe. Can i'r 'Corwg.' Gwobr £ 2 :28. a Medal Arian. Buddugol, Mr Ceiriog Hughes. Traethawd Anuldilfyniad y Cymry yn erbyn ymosoddiaau y Saeson.' Gwobr, y Parch. D. Griffith, Portdinorwig. Yr oedd 3*113 gynnulliad lluosog iawn foreu a hwyr, a phob peth yn pasio yn arddercliog. Ceir bancs llawn 3-11 y nesaf.

UNDEB Y BEDYDDWYR.

YNADON LIVERPOOL A'R FASNACH…

EISTEDDFOD DEFYNOG.

[No title]

[No title]

MARCHNAD LLUNDAIN.

MARCHNAD LIVERPOOL.

MARCHNADOEDD CYMREIG.

Family Notices