Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CYMMANFA LIVERPOOL.

,PWTION. ■■■''II •'-.:."ff

PWYLLGOR Y 'TYST CYMREIG.'

ENGLYNION

ENGLYN I'R 'TYST.''

ENGLYNION

ENGLYNION

ENGLYN

'HAPPY NED.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

'HAPPY NED.' Y mae o leiaf un dyn dedwydd, yn fyw ac yn iach yn y byd truenus hwn yn awr, lie y mae trueni dyn yn fawr arno. Y mae dyn cwbl ddedwydd yn un o'r rhyfeddodau penaf, os nad y penaf 011 a ellir weled o dan yr haul. Beth yw holl ryfeddodau yr arddangosfaau mawrion yn Llundain a Paris mewn cymhariaeth i ddyn ar y ddaear yn gyflawn ddedwydd ynddo eihun, ac yn gwbl wrth ei fodd ei hun bob amser ? Beth na roddasai Solomon am olwg ar ddyn felly 1 L Manwl 'ehwiliodd ef am y dedwyddwch hwn yn mhob peth, ac yn mhob man, ac am ddyn wedi cyrhaedd y cyflwr gwynfydedig hwn; ond yji ofer. Gorthrymder yspryd a gafodd ef yn mhob lie, ac yn mhob peth. Cafodd un gwr yn mysg mil yn wr ffyddlon, ond nid yn ddyn cwbl ddedwydd. Pa le, debygech, ddarllenwyr, y mae y dyn rhyfeddol hwn yn byw 1 Chwi a synwch pan ddywedom mai yn Liverpool! 0 bob man yr aethid i ymofyn am dano, dichon mai Liverpool fuasai un o'r manau olaf y medd- yliasid am gael y cyfryw ddyn ynddo. Y mae yn y dref hon yn agos i hanner miliwn o drigol- ion; llaweroedd o filoedd o honynt yn ymdroi mewn tlodi ac angen, a budreddi, ac anfoes- rwydd—yn druenus o drueiniaid yn mhob ystyr o'r galr. Miloedd lawer yn ymdroi mewn cyf- oeth, yn bwyta y breision, yn yfed y melusion, yn marchog mewn cerbydau, yn ymestyn ar eu glythau, yn canu ac yn dawnsio, ac yn mwyuhau pob difyrweh meibion dynion; ond yn nghanol y cwbl yn anesmwyth ac annedwydd eu meddyl- iau. Nid yn eu mysg hwy y mae y dyn ded- wydd y cyfeiriwn ato i'w gael. Y mae yn y dref hon, yn gystal ac mewn trefydd eraill, ddosbarth lluosog o ddynion da yn ymhyfrydu mewn gwn- euthur daioni, ond yn ddigon isel a thrallodus ea meddyliau yn ami. Yn ddiau, un, a dim ond un o'r dosbarth hwn a geir bob amser yn ddieitbriad, heb un cwmmwl byth yn tywyllu awyr ei ddedwyddwch. Y mae wedi bod yn nofio yn mor y gwynfydedigrwydd digymmysg hwn er's o bymtheg i ddeunaw mlynedd ar hugain. Ac nid oes tymmestl byth, na thon yn rhuo ynddo ef. Oni fyddai y cyfryw ddyn yn werth i'w gym- meryd o amgylch i'w ddangos yn mhob man 1 Os ceir dyn bychan o faintioli fel Tom Thumb, eir ag ef trwy'r holl fyd i'w ddangos; a'r un modd, os ceir dyn rywfaint yn dalach na'r talaf o'r cyffredin o ddynion, a chyrcha miloedd i'w gweled, a thalant arian yn helaeth am eu gweled yn mhob lie yr ant iddo. Ond beth a fyddai dyn gan lleied a bys bach plentyn teir blwydd, neu gawr gan daled a chlochdy St. Paul yn Llun- dain 0 ryfeddod i edrych arnynt mewn cymhar- iaeth i ddyn nad oes dim yn y byd blinderus hwn yn blino dim arno-dyn sydd yn gwbl ac yn hollol wrth ei fodd yn wastadol ? Os cyfyd awydd ar rywrai o'n cyfeillion yn y' wlad am weled y weledigaeth fawr hon pan ddi- gwyddo iddynt ddyfod ar ymweliad i Liverpool, galwont yn swyddfa y TYST, a chant gyfarwydd- yd ato. Un enw cyffredin y gelwir ef arno ydyw Happy Ned.' Ac fel y mae ei enw, felly y mae yntau, fel yr ydych wedi dangos. Cenhad- wr trefol ydyw Happy Ned;' yn mysg y cabmen y mae efe yn llafurio, ac y mae ar faes ei lafur yn brysur bob dydd o'r flwyddyn. Dyn byr, crwn, llawn, a chydnerthol ydyw, chwim a byw- iog, a thra mawreddog ei ystum a'i ysgogiadau. Edrycha bob amser gan lloned a'r gog ar y gainc, neu y brithyll yn yr afon. Bobamser ygofyner iddo am ei helynt, efe a etyb, ei fod yn hollol iach, ac yn berffaith ddedwydd. Y mae yn cael ei ddedwyddweh yn ei ymdrechion i wneud daioni ysprydol i'r cabmen Ymneillduol, ac eraill yn gyflredinol, ac yn y gred ei fod yn gwneud llawer iawn o ddaioni hefyd. Nid oes, am a wyddom ni, neb yn anmheu cywirdeb a didwylledd I Happy Ned'—neb yn meddwl mai ffug a rhag- rith yw ei broffes o ddaioni a dedwyddwch, nac am a wyddom ni, neb yn cenfigenu wrtho. Nid oes iddo elyn ar y ddaear, ond y gwr drwg ai hun; ac y mae yntau yn dymuno pob daioni i bob perchen bod a bywyd ond y gwr hwnw. Beth pe byddai pob un o drigolion Liverpool yn 4 Happy Ned ?' Y fath happy town a fyddai hi ? Byddai yn werth i holl happusolion y nefoedd gymmeryd excursion train i dalu ymweliad a hi. Pe deuai Adda ac Efa yma yn awr, caent yr hyfrydwch o weled un o'u meibion ar y ddaear, er ei holl ofidiau a'i thrueni, wedi adfeddiannu y dedwyddwch a gollasant hwy yn Mharadwys. Pan ddelo ei dymmor i ben, bydd Happy Ned' farw yn ddiau mor happy ac y buasai fyw, ac yn happy wedi hyny am byth, ni a hyderwn. Hir oes i Happy Ned.'

dolygiad y aøg.