Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
AT YR ANNIBYNWYR CYMREIG.
AT YR ANNIBYNWYR CYMREIG. Anwyl Gyfeillion,—Dymunaf alw eich sylw neillduol at y TYST CYMREIG. Mae genyf ym- ddiried yn eich hynawsedd, y derbyniwch y llythyr hwn yn garedig, ac y rhoddwch iddo y sylw a deilynga. Yr ydwyf yn un ohonoch o gydwybod a chalon, yn gwir ddymuno eich llwyddiant, a llwyddiant yr egwyddorion a bro- ffeswn fel Annibynwyr. Mae Oyhoeddiadau chwarterol, misol, a Newyddiaduron wythnosol yn ein gwlad wedi bod yn gefnogaeth i lenydd- iaeth, rhinwedd, a chrefydd i raddau helaeth. Eto teimlai llawer o honom fod arnom ni fel Enwad crefyddol angen am newyddiadur wyth- nosol er egluro ac amddiffyn ein hegwyddorion, a chyhoeddi ein hanesiaeth, ac felly i fod yn offeryn parhaus i gadw egwyddorion rhinwedd, rhycldid, a chrefydd, yn fyw yn ein calonau. Oddiar y teimlad hwn penderfynodd rhyw nifer o honom o wahanol barthau Cymru a threfydd yn Lloegr, i gychwyn Newyddiadur Wythnosol 0' c" f at ein gwsanaeth yn neillduol fel Enwad cref- yddol. Nid drygu na Ohyhoeddiadau eraill, na Newyddiaduron eraill oedd ein ham can, ondcael Newyddiadur wytlinos-il. i fod at ein gwasanaeth fel Enwad yn neillduol, yr hyn a farnem yn wir angenrheidiol. Wedi dwys ymgynghoriad gan y rhai a gyfarfyddasant i ystyried y mater, pen- derfynwyd cychwyn y TYST CYMRETG, Mae wecli ei gychwyn. Mae ei gynnwysiad a'i ym- ddangosiad hyd yn hyn wedi bod llawn cystal ag y gallesid ddisgwyl. Mae yn casglu nerth, yn ychwanegu cryfder bob wythnos, ac 08 ca y gefnogaeth a ddylai gael genych yn gyffredinoi, 11 9 bydd yn sicr o wneud gwaith mwy a phwysicach i ni fel Enwad crefyddol a'n gwlad yn gyffrecl- inol, nag a allodd v galon wresocaf yn ei gych- wyniad ddisgwyl iddo i wneud. Fy amcan i yn y llythyr hwn ydyw eich annog i roddi pob cefn- ogaeth a alloch i'r TYST. Ma fydded lienor, bardcl, swyddog, pregethwr, na gweinidog, a berthyn i'r Enwad heb gymmeryd dyddordeb ynddo, a rhoddi cynnorthwy iddo. Na fydded cronglwyd lie preswylia Annibynwyr dani heb iddo gael croesawiad calon i mewn, a sylw teil- wng wedi dyfod i mewn. Profwn trwy gycl- weitlirediad calonog gyda'r TYST, ein bod o un galon fel Enwad trwy Gymry a threfydd Lloegr. Nid heb resymau dros yr apeliad hwn yr wyf yn ei wneuthur a dyma rai o honynt:— 1. Amcanion cyfodiad TYST. Tyst o'ch ochr chwi ydyw, ac nid yn eich erbyn. Os tystia yn erbyn pethau nad ydynt deilwng a allanfc fod yn eich plith, bydd hyny yn dda, ac yn anrhydedd iddo fel TYST cywir a gonest. Ond tystia o blaid yr egwyddorion a broffeswch fel crefydd- wyr a gwladwyr. Amcana eich difyru, .eich diddanu, eich goleuo, eich cadarnhau, a'ch am- ddiffyn bob amser pan fydd angen. Efe a wna i chwi les ac nid drwg, holl ddyddiau ei fywyd. Llawer cyhoeddiad a weiihiodd yn rymus, ond amcana y TYST ragori arnynt oil. 2. Agosrwydd ci berthynas i chwi. Eich TYST chwi ydyw. Er eich mwyn chwi yn benaf y cafodd ei ddwyn i fodolaeth. Mae wedi ei sef- ydlu ar egwyddor raor eang, rydd, ac agos fel y gall pawb o honoch feddu rhan ynddo os ewyll- ysiwch. Anogir chwi i gymmeryd shares ynddo ac felly i gael llais yn yr oil a berthyn iddo. Nid perthyn i rai o honom fel Enwad y.mae, ond i bob un yn yr Enwad os ewyllysia. Rhaid oedd i ryw bersonau gychwyn, ac felly gwnaeth amryw o honom. Anturiasom roddi ein harian i'w gychwyn. Cymmerodd un boneddwrnad yw o'n cenedl ni werth £ 50 o shares ynddo, a hyny o wir gariad atom fel cenedl, ac o frwdfrydedd calon at yr egwyddsrion a broffeswn fel Enwad. Nid er mwyn elw y cymmerodd neb o honom gyfranau o'r TYST, ond er mwyn ei gael i fod, ac er mwyn y gwasanaeth mawr a daionus a ddis- gwyliwn iddo wneud. Pe cymmerai deg cym- maint eto o honoch gyfanau (sliai-es) ynddo byddai y cyfhfoldeb yn ddeg llai arnom oil nag ydyw ar y rhai sydd yn gyfrifol yn bresenol. 3. Y wasanaeth a gynnygia wneud i chwi. Mae yn cynyg yn haelfrydig i gyhoeddi hyspysiadau o'ch cyfarfodydydd undebol sirol, a'ch cymman- faoedd blynyddol, yn rhad. Heblaw cludo cyn- cynnyrchion eich meddyliau i bob cwr o'r dy- wysogaeth, &c., eglura ac amddiffyna eich eg- wyddorion crefyddol a gwladol. Oyhoedda bob hanesion dyddorol a berthyn i chwi, a rhydd yr holl gefnogaeth fydd yn eiallui bob symmudiad daionus fydd yn ein mysg. Gwna i chwi wasan- aeth deilwng os rhoddwch iddo gefnogaeth. 4. Rhadlonrwydd ei wasanaeth. Mae wedi dyfod i bob ardal, ac i law pawb o'i dderbynwyr bob wythnos, ac wedi gwneud ei holl wasanaeth am un geiniog yr wythnos Os meddylia neb ei fod yn ddrad dymunwn argyhoeddi y cyfryw. Ni ellir anfon ond pedwar o hono drwy y Post am geiniog, wyth am ddwy geiniog. Dyna ffyr- ling o draul cludiad ar bob un, felly nid oes ond tair ffyrling ar gyfer talu am y papur, y cysodi, yr argraffu, y pacio, a'r holl waith sydd i'w wneud i'w gael i ddwylaw ei dderbynwyr, Ni feddylia neb gonest chwaith y dylai y rhai a roddant amser a llafur i'w olygu roddi eu gwas- anaeth am dditn. Y gwir yw mae ceiniog yr wythnos yn rhy fach am y TYST iddo allu gwneud yn dda iel y dywedir. Mae cyffredinolrwydd ei gylchrediad yd anfantais i hyn oblegyd y draul i'w anfon gyda'r Post. Rhaid hefyd i'w ddos- barthwyr gael eu cydnabod am eu gwaith. Bum -h yn edrych yn fanwl yn ddiweddar dros y pethan nyn gyda ei Olygwyr, ac erbyn gwel'd y cwbl, syndod i mi mi ydyw os gall fyw ar geiniog yr wythnos. Diolch i'r Parch. T. Rees, Maen-y- grses, am gynnyg codi ei bris. Pe cytunai pawb o honom ei godi i geiniog a dimau yr wythnos gallai wneud mwy o waith, a byw yn fwy cysur- YS- RHAID cael mil ahanner mwy 0 dderbynwyr lado cyn j bydd ar dir hollol ddyogel. Weini- dogion, pregethwyr, diaconiaid, a holl aelodau yr Annibynwyr, a wnewch chwi roddi y gefnogaeth a deilynga y TYST CYMREIG. Parch i chwi ok gwnewch. Penmain. E. HUGHES.
CARCHAllORION ABYSSINIA. i"r;
CARCHAllORION ABYSSINIA. i"r; Gyda phob dyledus barch i wybodaeth ein darllenwyr, anturiwn feddwl, mai ychydig a wydd- ant, y mwyafrif o honynt, a dyweyd y lleiaf am Abyssinia a'r carcharorion Prydeinig, yn nghylcli y rhai y teimlir cymmaint o bryder y dyddiau hyn. Gwlad uchel yn nghalon Atfrica yw Abys- sinia, yn gorwedd y tu deliau i Nubia, yr hon sydd rhyngddi a'r Aipht, ac i'r tu dwyrain i Bab-el-Mandali, a'r rhan ddeheuol o for Arabia. L Dywed traddodiad mai un o'r wlad hono oedd Brenhines y de,' ac i'r gael en ben- dithio a gwybodaeth o grefydd 3a1 Hen Destament trwy ymweliad y frenliines hono a'r brenhin Solomon. Y mae yr Abyssiniaid, hefyd, ynrliyw fath o Gristionogion. Dywedir i'r gwr 0 Ethiop- ia,' yr liwil y mae son am dano yn llyfr yr Actau, gael ei ddycliwelyd i flydd yr efengyl drwy wein- idogaeth Phylip, iddo fod yn ofterynol i ddychwel- yd Candau, brenhines Ethiopia, iddo fyned yn genhadwr i Abyssinia, iddo 11ITyddo i blanu eg- Iwysi Cristionogol yno, a bod y trigolion yn Grist- ionogion, mewn enw, beth bynag, hyd y dydd bwn. Yr Ymherawdwr Theodorus ydyw llywydd y wlad. Dywed traddodiad ei fod o liiliogaetli Solomon a brenhines y de. Honir hyn ganddo ef, a chredir hyn gan y dosbarth uniongred o'i ddeiliaid. Fel y m.ae Eglwys Groegyn cydnabod awdurdody patriarch o GaerCystenyn, ac Eglwys PJiuiain yn eydnaboc1 awdurdod y pab, felly hefyd y mae Eglwys Armenia yn cydnabod awdurdod y patriarch o Jerusalem. Yr oedd yn ddifon naturiol i lywodraeth Lloegr i cfyn am help y patriarch o Jerusalem yn y cyfyngder presenol. Yn gynnar yn y mis hwn, cyhoeddwyd y new- ydd da fod y patriarch wedi llwyddo, a bod Theodorus wedi gollwng y carcharorion yn rhydd. Ond erbyn hyn, ofnir nad oes sail i'r bysbysiad. Y mae ein llywodraeth wedi pen- derfynu anfon llongau a milwyr tuag yno. Y mae ein llongau ar eu taith i Bombay derbyn- iant ychwaneg o filwyr yno; wedi hyny, hwyl- iant i Afinca. Costia yr helynt bum miliwn o bunau. Er ei mawr anrhydedd, nid yw llyw- odraeth Prydain yn gwneud cyfrif o arian pan fydd bywyd y deiliaid mewn perygl. Ond y mae lie i anmheu priodoldeb yr anturiaeth filwrol hOll. Bydd gan, ein milwyr ar ol glanio yn Affrica 500 milldir i'r fan lie yr oedd y carchar- orion pan glybuwyd ddiweddaf oddi wrthynt; mae y ffordd yn ddisathr, ac yn cynnwys gwaith dringo dychrynllyd, gan fod Abyssinia ddwy filldir yn uwch na gwyneb y trior. Dyvedir fod yr binsawdd yn un afiach i Brydeinwyr, fod y wladyn amddifad o gynnaliaeth ddigonol i fydclin liosog ar ei thaith, fod gan Theodorus arfau tan, a magnelau, a bod ganddo 2,000 o Ewropiaid dan ei faner. Yr ydym yn cydymdeimlo a Mr. Cameron a'i gyfeillion yn eu caethiwed; ond yr ydym yn mawr anmheu priodoldeb yr helynt filwrol, ac yn ofni y bydd yr amryfusedd diw- edclaf yn waeth na'r cyntaf.
BRENHIN YR AIPHT A'I ATHRA…
BRENHIN YR AIPHT A'I ATHRA WON. YMDDANGOSODD yr hyn a ganlyn yn un o brif z, newyddiaduron Bfrainc pan ymwelodd v Rh:ia- law a'r wlad hono & Na chenfigenwch wrth dywysogion nac wrth eu hathrawon. Daeth y Rhaglaw i'n mysg, a derbyniwyd ef gan ieuanc a hen, y Llywodraeth a'r bo'bl, gyda pharch teilwng o'i radd uchel. Ni ddaeth efe atom yn anwybodus o'n cyfreithiau a'n hiaith. Siaradai y Ffrengaeg yn dda, a dywedir ei fod yn medru rhai eraill o ieithoedd Ewrop. Diolch- wn iddo yn enw ein gwlad ogoneddus, mamaeth gwareiddiad yn y dwyrain a'r gorllewin. Ond i bwy y mae efe yn ddyledus am ei wybodaeth o ieithoedd Ewrop ? Ac i bwy am ei Areithydd- iaeth ? Yn ddiau, nid i bobl y dwyrain nac i'n cydwladwyr. Yr oedd ei leferydd yn wael iawn o'i febyd; yr oedd yn siarad mor gyilym ac an- eglur, fel mai prin y gallasai yr Arabiaid ei ddi- lyn a'i ddeall. Ei leferydd oedd yn rhuthro fel y Niagara, ac yn gyflym fel y fellten—pwy a'i dilynai ? Cafodd glefyd-llygaid Aiphtaidd pan yn ieuanc, a chollodd ei olwg agos yn hollol. A oes dyn i'w gael a ymgymmerai a'r gwaith o'i addysgu yn wyneb y fath amgylchiadau poenus ? Oes, bid siwr. Dacw ddeg-ar-hugain neu ddegain o athrawon adnabyddus drwy Ewrop ar gyfrif eu galluoedd a'u dyfalbarhad yn treio eu dawn Methasant ennill serch y tywysog bywiog, byrbwyll, ac ar ol cynnygion aflwyddianus rhoddasant i fyny y gwaith mewn anobaith. Yr oedd y tywysog y pryd hyn yn 16 oed, ac nis gallai lefaru gair o'r Ffrengaeg, nac ychwaith ysgrifenu un lythyren Ewropeaidd. Y pryd hwnw cymmeradwywyd gwr ieuanc, crafi fel sylwedydd, a phwyllog o farn, i sylw y tywysog, yr hwn oedd yn medru prif ieithoedd Ewrop yn drwyadl, heblaw ei fod yn feistr mewn areithyddiaeth. Heblaw yr Arabaeg, yr oedd y tywysog ieuanc yn medru y Bersiaeg-prif iaith y llys. Ddydd ar ol dydd, am chwech neu wyth awr, am lawer o fisoedd, y bu y Du. ALTSCHUIXL (adnabyddus pryd hwnw fel athraw llwyddianus mewn Ar- eithyddiaeth ae ieithoedd diweddar, yn Paris, ac yn awr o Old Bond Street, Llundain), nid yn unig yn llefaru ond yn bloeddio yn nghlustiau y tywysog. Gan fod llygaid y tywysog yn weiniaid, bu raid i'r athraw ddyfeisio llythyrenau symmudol, a'i addysgu yn gyffelyb i'r modd yr addysgir y deillion, a bu yn llawer mwy llwyddianus na'r athrawon blaenorol. Bu raid iddo adrodd yr un frawddeg, yr un gair, ie, a'r un sill, ganwaith drosodd. Mewn gwirionedd, nis gallai ei addysgu ond drwy y glust yn unig am dymmor maith. Pan ddaeth ei olygon yn well, efe a ddysgodd ys- grifenu a chyssylltu llythyrenau Ewropeaidd, wedi hyny rhifyddiaeth, &c. Mewn gair, efe a feistrolodd egwyddorion addysg gorllewin Ewrop. Diau i'r athraw gael mwy na digon owaith, ond daliodd ati, a gwnaeth ieithydd ac areithiwr o'i ddisgybl, wedi i lu mawr o athrawon Ffrainc gyhoeddi y peth yn annichon.
gitrdilauiirctlt.
gitrdilauiirctlt. YMSON MAM Wrth fedd ei chyntaf-anedig, Annie, a fu farw yn saith mlwydd oed.* DEUDDKCJ mis olwynodd lieibio, Deraddeg lloer newidiodd wedd, Er pan roddwyd di i huno, Annie anwyl yn dy fedd Do, fe lyncwyd blwyddyn gyfan, Gan y tragwyddoldeb mawr, Er pan roddwyd di fy mechan, Yn y cuddfan hwn o'r llawr. Bu ac aeth y gog roesawol, A daeth eto ar ei thro, I hyspysu a'i sain grwydrol, Ail ddyfodiad haf i'n bro; Tyf y rhos, ymegyr lili, A dring Flora de7,, i'w sedd, Tra tywalltaf fi fy Annie, Ddagrau hiraeth ar dy fedd. Mae tri chant a phump a thri'gain, 0 fy nyddiau wedi ffoi; Er pan gefaist, blentyn ergain, Yn y ddu-gell hon dy gloi; Ond oddiar fy nghof ni threulir, Y ddenddegfed dydd o Fai, Pan aetli d'enaid gian i frodir, Araul pur heb unrliyw fai. Tynu mae aclgof on blwyddyn, Ddarlun cywir—ddarlun byw, Honot ti fy anwyl blentyn, Rydd i'm gysur-rydd i'm friw Cysur fod dy enaid purlan, Yn mwynhau digyinmysg liedd Briw yn wir i'm calon egwan, Fod yn fud uwch ben dy fedd. Mae adgofion yn c.ynnyrclm, Rhaid i'm addef hiraetli trwm Er dy fod yn llawenycliu, Yn dy wynfyd, mi a wn Ond anhawdd dadgyssylltu, Rhai ynt un y'nghwlwm serch, Heb fod hiraetli dwfn yn gwasgu, Ac yn peri athau erch. Wyf yn foddlawn i ti Annie, Aros yn dy gartref llawn Ni ddywedwn, Rhoddwch imi Annis fach, yn ol,' pe cawn; Wyt rliy hardd, rhy bur, rhy dyner, Wyt rhy ddedwydd, wyt rhy ian, I dy gludo'11 ol i'n claear- Gwlad y gwae, o wlad y gan. .Diolcha'm calon ar rai prydiau I Dduw dy ddwyn y'moreu d'oes O afaelion du ofidiau; A thrwm feichiau, croes ar groes Ni all bradwr brwnt dy lithio, Na themtasiwn roddi clwy'— Wyt rhy uchel i dy glwyfo, Ac i'th galon dori'n ddwy. Er i hun yn hir ymgilio, Draw oddiwrtli fy llygaid syn Da yw genyf allu tystio Wyf yn foddlawn erbyn hyn Boddlawn wyf—boddloiirwydd ddengys, Olen siriol ar bob tu;; Chwalu wnaetli anobaith echrys, A chaddugion hiraetli du, 0'1' fath bleser yw ymgolli, Yn iaiivyiaiaiitq,u r nofoedd lan Esgyn uchod, gan ddyeh'mygu, Clywed sain dy beraidd gan Meddwl gwel'd dy fysedd claerwyn, 'N tynu o'th delyn felus fawl, Gyda y rhai bycham anwyl, j Gyfaneddant wlad y gwawl. A welaist di fy santaidd Annie, Em'ly Everett gu-fwyn goeth Buan cludwyd hithau 'fynu, Ar dy ol, o'r dwymyn boeth; 4 Jonnie Buckley,' eiddil egwan, Yna sydd yn hollol iach Ac yn rliywle yn dy drigfan, Y n-iae" Richard Powell bach.' Yn iach i ti fy anwyl Annie, Parhaf i ddyfod at dy fedd Nes yn ddedwydd caf fi gychwyn, Attat di i fyw mewn hedd Mae celfyddyd fel yn cyrchu, Parthau pell o'r byd yn awr; Daw ysgariad rhai anwyl-gu, Braidd a'r nef yn nes i'r llawr. Mae dy dad yn cofio attat, Burton enfyn gusan iach Ingleby a Husie' hefyd, Sydd yn son am Annie fach; Yn iach i ti nes y noswyliwn, Wedi'n gordnvyl yn y byd; Yn mhen enyd ni ddisgwyliwn, Lon breswylio yna' gyd. Hafod Alun. GWILYJI GWENFFEWD. Mae y fam wedi talu ymweliad wythnosol a bedd ei merch fach er pan gladdwyd hi, sef blwyddyn i Mai diweddaf, oddigerth pan glowyd y gladdfa gan eira y gauaf diweddaf.
PEDWAH ENGLYN
PEDWAH ENGLYN I'r diweddar fardd, Mr Rhys Williams (Manod Wyllt). RnWNG creigiau, llynau llonydd, a mawndaeth Manod Wyllt yn brydydd Cofgolofn hardd o fardd fydd, Tra Manod* ar y mynydd. ;Llyn cyfagos. Dawn hyf, hyawdl, yn dwyn nod—athrylith Wir, welwyd yn Manod; Yn ddifalch ceisiai ddyfod Drwy gu len ei dir i glod. Oris i ris fyny'r aeth-nes torodd Anhawsderau helaeth; Dyrchafwyd i oruchafiaeth Y mawr un hwn, ond Ow marw wnaeth I Mewn dwys hiraeth am Manod siriol-mae Y byd mawr llenyddol; Wylo'n hidl awen o'i ol Wna byth am fab gobeithiol. Ceredigion. PEXAKTH.
PENNILLION
PENNILLION Ddarllenwyd i Miss Hughes (Morfydd Glan Tawe), yn Ngyfarfod Canu Libanus, Treforis, Awst 9, 1867. TON, Glan Meddwdod Mwyn.' FE resir hoff enw ein Morfydd cyn hir Y'mhlith cantoresau enwocaf ein tir, Ei llais clir a pheraidd a rydd y fath swyn Nes meddwl mai Eos sy'n canu'n y llwyn Ei seiniau melodaidd wna'r prudd deimlo'n lIon, Gwna ofid yn alltud am flino y fron Cydunwn i waeddi, Boed llwyddiant i hon.' Chwareua a'i bysedd teg, meinioia, yn chwim Yr Organ* ardderchog a nerthol ei rym, illae,i;n,odau debygem yn seinio'nfwy rhwydd Pan Morfydd a fyddo'n cyflawni y swydd. Y delyn, offeryn ein hen deidiau cu A offer cerdd eraill yn hawdd cliwery hi, Gweddiwn o galon-' Yn uwch y byddc'i bri.' Coleg Aberhonddu. BEICYEOSEX. Yr Organ perthynol i Gapel Libanus, Treforis.
{totMghut it g.
{totMghut it g. PETHAU DYRyS DUWINYDDIAETH sef sylwadau eglurhaol ac ymarferol ar rai, o athrciwiaethau dyrys yr Efengyl, yn ngJiyda rhai Pregethau byrion. Gan y PARCH. W. WILLIAMS, HIR- WAEN. WELE lyfryn bychan destlus, a thra-rhagorol ar amryw gyfrifon, ag sydd newydd wneud ei ym- ddangosiad o swyddfa Griffiths o Abortawy. Mae yr awdwr yn adnabyddus iawn yn y De fel pregethwr a meddyliwr o radd uwch na chyff- redin- Mae yn ddieithr i'r Gogleddwyr, am y rheswm nad yw efe byth yn dyfod i ymweled a hwynt, crybwylla yn ei Raglith iddo deimlo rhyw gynhyrfiad i grynhoi y sylwadau hyn ar Bethau Dyrus Duwinyddiaeth yn nghyd, a'u hargraffu mewn llyfr/i'r oes a ddel, yn gystal a'r bresenol, gael gweled ei ffordd yntau o feddwl a gosod alhm athrawiaetliau mawrion _yr efengyl.' Dywed Mr Williams yn mhellach, Bu agos i haul ein bywyd fachludo cyn i ni ymgymmeryd a'r gorehwyl.' Yr ydym ninnau yn dweyd y buasai yn drueni mawr iddi ddigwydd felly, ac i'r cynnyrchion hyn fyned ar goll. Oeir yma sylwadau cryno a chynnwysfawr ar Arfaeth, a Phenarglwyddiaeth Duw, Rhyddid yr Ewyllys, y Pechod Gwreiddiol, Dylanwad yr Yspryd, Etholedigaeth Gras, &c., &c. Fe welir mai Calfiniad cymmedrol yw Mr Williams. Addefa ei fod yn gwahaniaethu yn ei syniad ar Ethol- edigaeth oddiwrth frodyr hoff ac anwyl ganddo, ond nid oes berygl y bydd i neb o honynt ei gondemnio fel heretic ar gyfrif dim athraw- iaetliau amryw a dyeithr,' y gellir dyfod o hyd iddynt yn y tudalenau byn. Y mae ol meddwl a sylw cran' ar agos bobpeth a. ddywedir gan ein hawdwr. Y mae y llyfr yn llawn o hadau pethau,' ac er gwneud iawnder ag ef, dylid ei ddarllen drosodd drachefn a thrachefn. Ei frawddegau ydynt fyrion, a'i arddull yn hynod ddestlus a choeth. Nid oes yma ddirn. i'n blino a meithder gormodol, tra y cyfarfyddwn yma a thraw, ac ambell ddernyn hynod gryf a tharaw- iadol, Mae y pregethau sydd yn niwedd y llyfr, —un ar ddeg mewn nifer,—er 3m fyrion, eto yn wir brydferth ac adeiladol i'w darllen. Swllt yw pris y cyfan. Dylai llyfryn mor ddyddorol fyned wrth y miloedd yn mhlifch pobl y gweith- faoedd. Anmhosibl fydd i neb ei ddarllen yn ystyriol, heb deimlo fod ei ddeali yn cael ei oleuo a'i galon ei gwellhau, Nid oedd ond un peth yn ein gofidio ar ol ei ddarllen, sef, am na fuasai yr awdwr parchedig wedi meddwl am gyfuno y sylwadau sydd ganddo yn y pytiau pregethau hyny ar Etholadigaeth, a gwneud o honyng ryw un dernyn gorcliestol ar y pwnc. Dichon y ceidw efe olwg ar hyn, os bydd gal wad buan am ail argraffiad, a paham na fydd P
[No title]
Y CYFAIU-'OD "WYTHNOSOL, gan y Parch W. Tho- mas, Whitland. Llanelli: Argraphwvd ga,n B. Rees. Gwyr pawb a adwaenant Mr. Thomas ei fod yn weinidog selog ac yn fugail gofalus. Y wybodaeth hon yn ddiau a gymhellai ei frodyr i ofyn iddo ddarllen papur yn y cyfarfod chwar terol ar y Oyfarfodydd Vv^ythnosol. Dymun- wyd ar Mr Thomas i anfon ei bapur i'r l5iwyg- iwr,' ac er mwyn lledaeniad helaethach dygwyd ef allan wedi hyny yn llyfryn. Adolygwyd ei yn ffafriol dros ben yn y Beirniad, y Dysgedydd, a'r Diwygiwr, ac ar amlen y trydydd aryraphiacZ gellir gweled dyfyniadau o'r adolygiadau hyny, y rhai a ddarllenasom cyn darllen y llyfr. Ond wedi hyny darllenasom ef yn fanwl,' a gallwn ddywedyd yn hyf ei fod yn haeddu y ganmol- iaeth uchel a gafodd. Nis gellir penderfynu yn anffaeledig pa sawl cyfarfod wythnosol a ddylai eglwys gynnal, na pha nifer o honynt a ddylai aelod attendio cyn y gellir ei gyfrif yn un ffyddlon. liae hanes yr eglwys Gristionogol yn dangos fod gwahanol arferion wedi ffynu mewn gwahanol gyfnodau o barfeh y moddion wyth- nosol. Byddai yr hen Annghydffurfwyr yn cynnal cyfarfodydd egwyddori a chyfarfodydd parotoawl cyn Sabbath y cymmundeb. Gan ddiwygiadau y ganrif ddiweddaf y c-ynnyrchwyd y Society. Sefydlwyd cjTfarfod ar y nos Lun .cyntaf yn mhob mis, mewn eyssylltiad ag ad- fywiad yr achos cenhadol. Oychwynwyd cyfar- fodydd dysgu pynciau a chyfarfodydd i ddarllen yr Ysgrythyrau, fel cynnorthwyon priodol yr Ysgol Sabbathol. Ar amser o gyfiroad crefydd- ol, y mae y Cyfarfodydd Wythnosol yn amihau, ao yn ymgryfhau; ond mewn amser o ddiryw- iad, y maent yn colli mewn rhifedi, ac yn lleihau yn eu cynhesrwydd. Pan fydd crefydd yn farw- aidd, byddai yn well arfer pob moddion i daflu bywyd i'r cyfarfodydd y sydd eisoes, yn hytrach nag ychwanegu atynt. Dawn werthfawr i wei- nidog ydyw y ddawn sydd yn rhoddi bywyd a dyddordeb yny moddion wythnosol. Ymddengys ly i ni fod Mr Thomas yn feddianol ar radd uchel o r ddawn yma, canys y mae yn ysgrifenu fel gwr profiadol. Cymhellir llawer ar y bobl mewn llawer ardal y dyddiau hyn i fod yn fwy gofalus o'r cyfarfod- ydd wythnosol. Dengys hyny fod y bobl yn mhell o'u lie 0 ran eu teimladau crefyddol, ac yn amddifaid o awydd am gyfarfod a Duw a'i bobl yn y cyssegr. Digon tebyg fod diifyg hefyd yn y dull o gynnal y moddion. Dylid parotoi yn fwy gonest a gofalus yn iiilaeii Ilaiv, ac nid ym- ddiried yn hollol i gyffroad y foment. Buddiol fyddai i'r bobl ffyddlon sydd yn cael mwynhad yn y cyfarfodydd wythnosol, son mwy am y pleser a dderbyniant hwy, fel y byddo hyny yn peri i'r esgeukis a'r difraw ddywedyd, ninau a ddeuwn gyda ch\vi.' Dymuwn hir oes i'r awdwr, a Jledaeniad cyffredinol i'r llyfr.